Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiynau 2 a 7 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.15 Gofynnwyd y 14 cwestiwn cyntaf. Ni ofynnwyd cwestiwn 15. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5264 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser
wedi bod yn weithredol am flwyddyn. 2.
Yn gresynu nad yw'r
amseroedd aros targed o ran atgyfeirio i driniaeth ar gyfer
cleifion canser sy'n cael diagnosis drwy’r llwybr achosion
brys yr amheuir
bod canser arnynt wedi eu cyrraedd
ers 2008. 3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn
ofynnol bod Byrddau Iechyd Lleol yn
cyhoeddi eu cynlluniau cyflawni ar gyfer canser
a'u hadroddiadau blynyddol ar eu
gwefannau i sicrhau bod y cyhoedd yn gallu
craffu ar eu cynlluniau. 4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd Lleol i sicrhau bod gwasanaethau canser yn amserol, yn
canolbwyntio ar yr unigolyn a bod anghenion clinigol a heb fod yn
glinigol ehangach pobl, gan gynnwys
mynediad i gyngor a chymorth ariannol, yn cael eu
diwallu. 5.
Yn annog Llywodraeth Cymru i ddarparu diweddariadau blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gynnydd o ran gweithredu'r Cynllun Cyflawni ar gyfer
Canser. Gellir gweld
Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser
Llywodraeth Cymru drwy'r linc a ganlyn: http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/strategies/cancer/?skip=1&lang=cy Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 2: ‘a bod y cyfraddau goroesi canser yng Nghymru yn
is o lawer na’r cyfartaledd Ewropeaidd’ Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu
wrth y broses dendro gyfyngedig ar gyfer
cyflenwi technolegau canser newydd i Ganolfan Ganser Felindre, a fydd yn rhwystro buddsoddi
yn y technolegau mwyaf modern ac arloesol a fyddai wedi denu
arbenigedd a rhagoriaeth glinigol ac wedi galluogi mwy o gleifion canser yng Nghymru i gael eu trin
yng Nghymru. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gyhoeddi canlyniadau’r arolwg Profiad Cleifion Canser. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 14.58 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Tynnwyd
gwelliant 2 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27 ar ddechrau’r Cyfnod
Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5264
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser
wedi bod yn weithredol am flwyddyn. 2.
Yn gresynu nad yw'r
amseroedd aros targed o ran atgyfeirio i driniaeth ar gyfer
cleifion canser sy'n cael diagnosis drwy’r llwybr achosion
brys yr amheuir
bod canser arnynt wedi eu cyrraedd
ers 2008. 3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol
bod Byrddau Iechyd Lleol yn cyhoeddi
eu cynlluniau cyflawni ar gyfer
canser a'u hadroddiadau blynyddol ar eu gwefannau
i sicrhau bod y cyhoedd yn gallu craffu
ar eu cynlluniau. 4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd Lleol i sicrhau bod gwasanaethau canser yn amserol,
yn canolbwyntio ar yr unigolyn
a bod anghenion clinigol ac
anghenion ehangach pobl, gan gynnwys
cael gafael ar gyngor a chymorth
ariannol, yn cael eu diwallu. 5.
Yn annog Llywodraeth Cymru i ddarparu diweddariadau blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gynnydd o ran gweithredu'r Cynllun Cyflawni ar gyfer
Canser.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5263 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn ailddatgan ei gefnogaeth i drafnidiaeth gyhoeddus integredig. 2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i barhau i gyflawni'r ymrwymiadau yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, ac i gefnogi gweithredu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol ledled y wlad. 3.
Yn cefnogi datblygu systemau trafnidiaeth integredig ledled Cymru, gan
gynnwys ‘system Metro’ i dde-ddwyrain
Cymru. 4.
Yn croesawu camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr
Caerdydd, ac yn galw am ddatblygu a chyhoeddi strategaeth hedfan i Gymru. 5.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gefnogi creu awdurdod
trafnidiaeth cenedlaethol i
Gymru. Gellir gweld
Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru drwy'r linc
a ganlyn: http://wales.gov.uk/topics/transport/publications/ntp/?skip=1&lang=cy Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt
2, dileu popeth ar ôl ‘Lywodraeth
Cymru i’ a rhoi yn ei le ‘gyflawni’r
ymrwymiadau yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, i gefnogi’r broses
o weithredu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol ledled y wlad, ac i sicrhau cysylltiadau effeithiol â meysydd datblygu economaidd eraill, gan gynnwys
Ardaloedd Menter a Dinas-ranbarthau’. Gwelliant
2 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 2: ‘,
gan gydnabod y pwysau ar y gyllideb
sydd ar gael’ Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod
pwysigrwydd cynlluniau trafnidiaeth cymunedol, yn enwedig i bobl
hŷn a phobl anabl a’r rheini
sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithredu cyllidebau tair blynedd ar gyfer
cynlluniau trafnidiaeth cymunedol er mwyn
sicrhau bod cyllid ar gael
i weithredwyr trafnidiaeth cymunedol. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt
3, dileu ‘, gan gynnwys ‘system Metro’ i dde-ddwyrain
Cymru’ a rhoi yn ei le ‘ac yn
croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i’r cynllun gwerth £1 biliwn i drydaneiddio prif reilffordd Great Western, ac
i’r cynllun gwerth £350 miliwn i drydaneiddio Cledrau’r Cymoedd, a fydd yn braenaru’r tir
ar gyfer ‘system Metro’ i dde-ddwyrain Cymru’ [Os
derbynnir gwelliant 4, bydd gwelliant 5 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant
5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt
3, ar ôl ‘gan gynnwys’ cynnwys
‘ystyried potensial’. Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cefnogi
trydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru, ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i egluro a
yw Manceinion yn rhan o’r
achos strategol ac yn cael ei
chynnwys yn ystyriaethau'r Tasglu ynghylch yr achos
busnes dros drydaneiddio. Gwelliant
7 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt
4 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod
y cynigion a amlinellwyd yn nogfen ‘Glasbrint
ar gyfer Maes Awyr Caerdydd’
y Ceidwadwyr Cymreig, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth hedfan gynhwysfawr i Gymru. Gellir gweld
Glasbrint ar gyfer Maes Awyr
Caerdydd drwy fynd i: [Os
derbynnir gwelliant 7, bydd gwelliant 8 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant
8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt
4, dileu ‘croesawu’ a rhoi ‘nodi’ yn
ei le. Gwelliant
9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu
wrth y penderfyniad i ddirwyn i ben y llwybr bws X91 sy’n gwasanaethu
Maes Awyr Caerdydd ar ddydd
Sul, ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno llwybr uniongyrchol o ansawdd uchel rhwng
canol dinas
Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd. Gwelliant
10 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 5. [Os
derbynnir gwelliant 10, bydd gwelliant 11 a 12 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant
11 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt
5, dileu ‘gefnogi creu’ a rhoi yn
ei le ‘ystyried hyfywedd’. [Os
derbynnir gwelliant 11, bydd gwelliant 12 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant
12 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt
5, dileu ‘i gefnogi creu’ a rhoi yn
ei le ‘i ymgynghori ar rinweddau’. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 15.56 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5263
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn ailddatgan ei gefnogaeth i drafnidiaeth gyhoeddus integredig. 2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i barhau i gyflawni'r ymrwymiadau yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, ac i gefnogi gweithredu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol ledled y wlad. 3.
Yn cefnogi datblygu systemau trafnidiaeth integredig ledled Cymru, gan
gynnwys ‘system Metro’ i dde-ddwyrain
Cymru. 4.
Yn croesawu camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr
Caerdydd, ac yn galw am ddatblygu a chyhoeddi strategaeth hedfan i Gymru. 5.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gefnogi creu awdurdod
trafnidiaeth cenedlaethol i
Gymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl
‘Lywodraeth Cymru i’ a rhoi yn ei
le ‘gyflawni’r ymrwymiadau yn y Cynllun Trafnidiaeth
Cenedlaethol, i gefnogi’r
broses o weithredu cynlluniau
trafnidiaeth rhanbarthol ledled y wlad, ac i sicrhau cysylltiadau effeithiol â meysydd datblygu economaidd eraill, gan gynnwys
Ardaloedd Menter a Dinas-ranbarthau’. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 2: ‘,
gan gydnabod y pwysau ar y gyllideb
sydd ar gael’ Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod
pwysigrwydd cynlluniau trafnidiaeth cymunedol, yn enwedig i bobl
hŷn a phobl anabl a’r rheini
sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithredu cyllidebau tair blynedd ar gyfer
cynlluniau trafnidiaeth cymunedol er mwyn
sicrhau bod cyllid ar gael
i weithredwyr trafnidiaeth cymunedol. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt
3, dileu ‘, gan gynnwys ‘system Metro’ i dde-ddwyrain
Cymru’ a rhoi yn ei le ‘ac yn
croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i’r cynllun gwerth £1 biliwn i drydaneiddio prif reilffordd Great Western, ac
i’r cynllun gwerth £350 miliwn i drydaneiddio Cledrau’r Cymoedd, a fydd yn braenaru’r tir
ar gyfer ‘system Metro’ i dde-ddwyrain Cymru’ Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant
5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt 3, ar ôl
‘gan gynnwys’ cynnwys ‘ystyried potensial’. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cefnogi
trydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru, ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i egluro a
yw Manceinion yn rhan o’r
achos strategol ac yn cael ei
chynnwys yn ystyriaethau'r Tasglu ynghylch yr achos
busnes dros drydaneiddio. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant 6. Gwelliant
7 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt
4 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod
y cynigion a amlinellwyd yn nogfen ‘Glasbrint
ar gyfer Maes Awyr Caerdydd’
y Ceidwadwyr Cymreig, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth hedfan gynhwysfawr i Gymru. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 7:
Gwrthodwyd gwelliant 7. Gwelliant
8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 4, dileu ‘croesawu’ a rhoi ‘nodi’ yn ei
le. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 8:
Gwrthodwyd gwelliant 8. Gwelliant
9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu
wrth y penderfyniad i ddirwyn i ben y llwybr bws X91 sy’n gwasanaethu
Maes Awyr Caerdydd ar ddydd
Sul, ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno llwybr uniongyrchol o ansawdd uchel rhwng
canol dinas
Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 9:
Derbyniwyd gwelliant 9. Gwelliant
10 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 5. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 10:
Derbyniwyd gwelliant 10. Gan fod gwelliant 10 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau
11 a 12 eu dad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5263 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn ailddatgan ei gefnogaeth i drafnidiaeth gyhoeddus integredig. 2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflawni’r ymrwymiadau yn y Cynllun Trafnidiaeth
Cenedlaethol, i gefnogi’r
broses o weithredu cynlluniau
trafnidiaeth rhanbarthol ledled y wlad, ac i sicrhau cysylltiadau effeithiol â meysydd datblygu economaidd eraill, gan gynnwys
Ardaloedd Menter a Dinas-ranbarthau, gan gydnabod y pwysau ar y gyllideb sydd
ar gael. 3.
Yn cefnogi datblygu systemau trafnidiaeth integredig ledled Cymru, gan
gynnwys ‘system Metro’ i dde-ddwyrain
Cymru. 4.
Yn croesawu camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr
Caerdydd, ac yn galw am ddatblygu a chyhoeddi strategaeth hedfan i Gymru. 5.
Yn gresynu wrth y penderfyniad i ddirwyn i ben y llwybr bws X91 sy’n gwasanaethu
Maes Awyr Caerdydd ar ddydd
Sul, ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno llwybr uniongyrchol o ansawdd uchel rhwng
canol dinas
Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5265 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i gyflogwyr
drwy ddarparu gweithlu ymrwymedig, effeithlon, medrus a llawn cymhelliant ac yn nodi bod yr
unigolyn cyffredin sy'n cwblhau prentisiaeth
yn cynyddu cynhyrchiant busnes £214 yr wythnos. 2.
Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i bobl
ifanc ddatblygu eu sgiliau, ennill
cymwysterau cydnabyddedig, ennill cyflog uwch
a sicrhau cyfleoedd swyddi mwy sefydlog,
oherwydd bod llawer o gyflogwyr yn dibynnu
ar brentisiaethau i ddarparu'r gweithwyr medrus sydd eu
hangen arnynt ar gyfer y dyfodol. 3.
Yn gresynu bod nifer y bobl ar
leoliadau prentisiaeth yng Nghymru wedi
lleihau mwy na 25% rhwng 2006/7 a 2010/11. 4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ehangu mynediad i brentisiaethau drwy: a)
datblygu rhaglen cyswllt ag ysgolion
i gynyddu amlygrwydd prentisiaethau o ran darparu cyngor gyrfaol i bobl ifanc; b)
sefydlu cynllun Llysgenhadon Prentisiaeth i hyrwyddo modelau rôl cadarnhaol; c)
gwella gwelededd cystadlaethau i ddathlu rhagoriaeth mewn sgiliau; d)
treialu proses fel un UCAS
o wneud cais unigol a system glirio i wella cydraddoldeb ymagwedd rhwng llwybrau gyrfa; ac e)
creu un system ar gyfer gwybodaeth, gwneud cais a chymorth
i symleiddio'r broses o ddarparu
gwybodaeth a lleihau cyfraddau gadael ac ymddieithrio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwyntiau
3 a 4 a rhoi yn eu lle: Yn croesawu’r
cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i fuddsoddi £40 miliwn o gyllid ychwanegol tuag at brentisiaethau dros y ddwy flynedd
nesaf, gan greu tua 5,650 o gyfleoedd prentisiaeth ychwanegol a 2,650 o gyfleoedd prentisiaethau lefel uwch, yn ogystal
ag ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 4: chwilio am ffyrdd
newydd o ehangu sylfaen prentisiaethau traddodiadol i rolau proffesiynol a diwydiannau eraill. Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod
y gall fod angen cymorth ar brentisiaid
ifanc ar ddiwedd eu hyfforddiant
i barhau mewn gwaith, yn ogystal
ag i ddeall rheoliadau a chontractau cyflogaeth. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 16.54 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5265 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i gyflogwyr
drwy ddarparu gweithlu ymrwymedig, effeithlon, medrus a llawn cymhelliant ac yn nodi bod yr
unigolyn cyffredin sy'n cwblhau prentisiaeth
yn cynyddu cynhyrchiant busnes £214 yr wythnos. 2.
Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i bobl
ifanc ddatblygu eu sgiliau, ennill
cymwysterau cydnabyddedig, ennill cyflog uwch
a sicrhau cyfleoedd swyddi mwy sefydlog,
oherwydd bod llawer o gyflogwyr yn dibynnu
ar brentisiaethau i ddarparu'r gweithwyr medrus sydd eu
hangen arnynt ar gyfer y dyfodol. 3.
Yn gresynu bod nifer y bobl ar
leoliadau prentisiaeth yng Nghymru wedi
lleihau mwy na 25% rhwng 2006/7 a 2010/11. 4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ehangu mynediad i brentisiaethau drwy: a)
datblygu rhaglen cyswllt ag ysgolion
i gynyddu amlygrwydd prentisiaethau o ran darparu cyngor gyrfaol i bobl ifanc; b)
sefydlu cynllun Llysgenhadon Prentisiaeth i hyrwyddo modelau rôl cadarnhaol; c)
gwella gwelededd cystadlaethau i ddathlu rhagoriaeth mewn sgiliau; d)
treialu proses fel un UCAS
o wneud cais unigol a system glirio i wella cydraddoldeb ymagwedd rhwng llwybrau gyrfa; ac e)
creu un system ar gyfer gwybodaeth, gwneud cais a chymorth
i symleiddio'r broses o ddarparu
gwybodaeth a lleihau cyfraddau gadael ac ymddieithrio.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwyntiau
3 a 4 a rhoi yn eu lle: Yn croesawu’r
cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i fuddsoddi £40 miliwn o gyllid ychwanegol tuag at brentisiaethau dros y ddwy flynedd
nesaf, gan greu tua 5,650 o gyfleoedd prentisiaeth ychwanegol a 2,650 o gyfleoedd prentisiaethau lefel uwch, gan gynnwys
ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau
drwy gyfrwng y Gymraeg. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol. Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod
y gall fod angen cymorth ar brentisiaid
ifanc ar ddiwedd eu hyfforddiant
i barhau mewn gwaith, yn ogystal
ag i ddeall rheoliadau a chontractau cyflogaeth.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5265 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i gyflogwyr
drwy ddarparu gweithlu ymrwymedig, effeithlon, medrus a llawn cymhelliant ac yn nodi bod yr
unigolyn cyffredin sy'n cwblhau prentisiaeth
yn cynyddu cynhyrchiant busnes £214 yr wythnos. 2.
Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i bobl
ifanc ddatblygu eu sgiliau, ennill
cymwysterau cydnabyddedig, ennill cyflog uwch
a sicrhau cyfleoedd swyddi mwy sefydlog,
oherwydd bod llawer o gyflogwyr yn dibynnu
ar brentisiaethau i ddarparu'r gweithwyr medrus sydd eu
hangen arnynt ar gyfer y dyfodol. 3.
Yn croesawu’r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i fuddsoddi £40 miliwn o gyllid ychwanegol tuag at brentisiaethau dros y ddwy flynedd
nesaf, gan greu tua 5,650 o gyfleoedd prentisiaeth ychwanegol a 2,650 o gyfleoedd prentisiaethau lefel uwch, gan gynnwys
ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau
drwy gyfrwng y Gymraeg. 4.
Yn cydnabod y gall fod angen cymorth
ar brentisiaid ifanc ar ddiwedd
eu hyfforddiant i barhau mewn gwaith,
yn ogystal ag i ddeall rheoliadau
a chontractau cyflogaeth.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Dechreuodd yr
eitem am 17.55 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5266 Leanne Wood (Canol De Cymru): GIG sy'n
addas i bawb – tuag at ddewis arall yn lle
canoli. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.00 NDM5266
Leanne Wood (Canol De Cymru):
GIG sy'n addas i bawb
– tuag at ddewis arall yn lle
canoli. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |