Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 6
a 9 i 13. Atebwyd cwestiynau
2 a 3 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Cafodd cwestiynau 4 a 9 eu grwpio. Tynnwyd cwestiynau 7 ac 8 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.15 Gofynnwyd cwestiynau 1, 3 i 7 a 9 i 15.
Trosglwyddwyd cwestiwn 2 i’w ateb yn ysgrifenedig. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 22 mewn perthynas â Safonau Ymddygiad NDM5309 Rosemary Butler
(Gorllewin Casnewydd) Cynnig
bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol
Sefydlog 22 – Safonau Ymddygiad’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi
2013; a 2.
Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 2 a 22, fel y nodir yn
Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.54 NDM5309
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol
Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 22 – Safonau Ymddygiad’ a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 25 Medi 2013; a 2.
Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 2 a 22, fel y nodir yn
Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 29 a 30A mewn perthynas â Chydsyniad Deddfwriaethol i Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU a Biliau Preifat NDM5310 Rosemary Butler
(Gorllewin Casnewydd) Cynnig
bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Cydsyniad
Deddfwriaethol i Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU a Biliau
Preifat’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2013; a 2.
Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 21, 29 a chyflwyno Rheol
Sefydlog newydd 30A, fel y nodir yn Atodiadau B a D i adroddiad y Pwyllgor Busnes. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.55 NDM5310
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol
Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Cydsyniad Deddfwriaethol i Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion
y DU a Biliau Preifat’ a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 25 Medi 2013; a 2.
Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 21, 29 a chyflwyno Rheol Sefydlog newydd 30A, fel y nodir yn
Atodiadau B a D i adroddiad
y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5312 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn credu
y dylai mynd ar drywydd rhagoriaeth
fod yn ganolog
i unrhyw strategaeth addysg yng Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Ar ôl
‘Yn credu y dylai’ rhoi ‘torri’r
cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad a’ Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Ar ôl
‘rhagoriaeth’ rhoi ‘i bawb’ Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 14.55 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5312
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn credu y dylai mynd
ar drywydd rhagoriaeth fod yn ganolog i unrhyw
strategaeth addysg yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5311 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod yr angen i integreiddio
gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion er mwyn
darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i bobl mewn angen;
a 2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddefnyddio cyfle'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i weithredu'r integreiddio hwn. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt
1 newydd, ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn cydnabod
y rhwymedigaeth i gefnogi pobl mewn angen; Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt
2 a rhoi yn ei le: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth ar wahân i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn, fel
yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei Adroddiad Cam 1. Gosodwyd Adroddiad Cam 1 y Pwyllgor ar Fil Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 18 Gorffennaf 2013. Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu fel
pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol
â hynny: Yn croesawu’r
cyfleoedd sydd wedi codi yn
ystod yr ystyriaeth o'r Bil hwn i archwilio’r
posibiliadau o ran integreiddio
gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i oedolion drwy: a)
cryfhau’r ddarpariaeth o wasanaethau eiriolaeth; b)
sicrhau bod awdurdodau lleol yn hybu dewisiadau
gwasanaeth yng nghyswllt taliadau uniongyrchol; ac c)
symleiddio’r ffordd y caiff gwybodaeth ei darparu
i gleifion, eu teuluoedd ac i ddefnyddwyr gwasanaeth. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 15.51 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5311
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod yr angen i integreiddio
gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion er mwyn
darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i bobl mewn angen;
a 2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddefnyddio
cyfle'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol i weithredu'r integreiddio hwn.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5313 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi â phryder: a)
bod gan Gymru
y gyfran fwyaf o eiddo mewn mannau
gwan posibl, a'r argaeledd isaf
o ran gwasanaethau band eang
cyflym iawn yn y DU; a b)
bod y gwaith diweddar i ad-drefnu a dadgomisiynu mastiau ffonau symudol wedi golygu bod llawer o gwsmeriaid yn wynebu colli
eu signal symudol neu ddirywiad yn
eu signal symudol, er mawr rwystredigaeth
iddynt. 2.
Yn credu bod gwasanaethau band eang a symudol yn chwarae
rhan hanfodol a chynyddol ym mywydau
defnyddwyr a dinasyddion Cymru a bod diffyg mynediad i seilwaith digidol yn rhwystr
i ddatblygiad cymdeithasol,
economaidd a diwylliannol, gan nodi'n benodol: a)
bod adroddiad diweddar gan Estyn,
‘Effaith TGCh ar ddysgu disgyblion
mewn ysgolion cynradd’, yn nodi
bod tua hanner yr ysgolion a holwyd
wedi dweud bod ansawdd gwael y cysylltiad rhyngrwyd yn rhwystro eu
gwaith TGCh; b)
bod adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, ‘Broadband
services in Wales’, yn mynegi
pryder bod bodolaeth mannau gwan a mannau
araf band eang, yn enwedig mewn
ardaloedd gwledig, wedi rhwystro busnesau
lleol ar draul yr economi
leol; c)
bod adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ‘Rural
Communities’, yn nodi bod cartrefi mewn ardaloedd
gwledig yn llai tebygol o fanteisio ar gynlluniau
a allai leihau costau tanwydd, megis tariffau rhatach neu gynlluniau
effeithlonrwydd ynni, oherwydd diffyg mynediad i fand eang; a d)
bod Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Gwledig wedi dweud
bod gwasanaeth gwael o ran
y we yn ffactor sy'n gwthio pobl
ifanc allan o ardaloedd gwledig. 3.
Yn gresynu at y problemau a brofir gan Gynllun Cymorth
Band Eang Arloesol Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i: a)
sicrhau bod cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn
cael ei hysbysebu'n
eang ac nad yw'n wynebu'r un problemau; b)
archwilio’r system gynllunio i sicrhau bod y rheolau cynllunio'n cefnogi datblygiad seilwaith digidol; c)
archwilio pa gymorth y gellir ei gynnig i fusnesau
i wella eu gallu i gystadlu ledled y byd drwy
fynediad gwell i wasanaethau digidol; a d)
ymchwilio i broblemau diweddar gyda signalau ffonau
symudol a gweithio gyda darparwyr rhwydwaith i sicrhau yr eir i'r
afael â'r problemau hyn a sicrhau cymaint o wasanaeth â phosibl ledled Cymru. Mae
adroddiad Estyn ar gael yma: Mae
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar gael yma: http://www.publications.parliament.uk/pa/cm201213/cmselect/cmwelaf/580/58002.htm Mae
adroddiad Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gael yma: http://www.publications.parliament.uk/pa/cm201314/cmselect/cmenvfru/602/602.pdf Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt
2c newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: bod y cynnydd
mewn siopa ar-lein wedi cyfrannu
at yr heriau y mae'r stryd fawr
yn eu hwynebu,
ond ei fod
yn cydnabod potensial y rhyngrwyd fel ffynhonnell i adfywio’r stryd fawr; Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2: y cynnydd
o ran digideiddio'r ochr weinyddol o ffermio ac effaith hyn ar
ffermwyr mewn ardaloedd lle mae'r
ddarpariaeth band eang yn wan. Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt
3a newydd ac ailrifo yn unol â hynny: sicrhau, yn
ystod y broses o gyflwyno'r
rhaglen Cyflymu Cymru, y bydd BT yn sicrhau bod pobl sy’n byw
mewn eiddo nad yw’n gymwys
i’w gysylltu yn cael gwybod
hynny mewn modd amserol; Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 16.50 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5313
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi â phryder: a)
bod gan Gymru y gyfran fwyaf o eiddo mewn mannau
gwan posibl, a'r argaeledd isaf
o ran gwasanaethau band eang
cyflym iawn yn y DU; a b)
bod y gwaith diweddar i ad-drefnu a dadgomisiynu mastiau ffonau symudol wedi golygu
bod llawer o gwsmeriaid yn wynebu colli
eu signal symudol neu ddirywiad yn
eu signal symudol, er mawr rwystredigaeth
iddynt. 2.
Yn credu bod gwasanaethau band eang a symudol yn chwarae
rhan hanfodol a chynyddol ym mywydau
defnyddwyr a dinasyddion Cymru a bod diffyg mynediad i seilwaith digidol yn rhwystr
i ddatblygiad cymdeithasol,
economaidd a diwylliannol, gan nodi'n benodol: a)
bod adroddiad diweddar gan Estyn, ‘Effaith
TGCh ar ddysgu
disgyblion mewn ysgolion cynradd’, yn nodi bod tua
hanner yr ysgolion a holwyd wedi dweud bod ansawdd gwael y cysylltiad rhyngrwyd yn rhwystro eu
gwaith TGCh; b)
bod adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, ‘Broadband
services in Wales’, yn mynegi
pryder bod bodolaeth mannau gwan a mannau
araf band eang, yn enwedig mewn
ardaloedd gwledig, wedi rhwystro busnesau
lleol ar draul yr economi
leol; c)
bod adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ‘Rural
Communities’, yn nodi bod cartrefi mewn ardaloedd
gwledig yn llai tebygol o fanteisio ar gynlluniau
a allai leihau costau tanwydd, megis tariffau rhatach neu gynlluniau
effeithlonrwydd ynni, oherwydd diffyg mynediad i fand eang; a d)
bod Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Gwledig wedi dweud bod gwasanaeth gwael o ran y we yn ffactor sy'n
gwthio pobl ifanc allan o ardaloedd
gwledig. 3.
Yn gresynu at y problemau a brofir gan Gynllun Cymorth
Band Eang Arloesol Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i: a)
sicrhau bod cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn cael
ei hysbysebu'n eang ac nad yw'n
wynebu'r un problemau; b)
archwilio’r system gynllunio
i sicrhau bod y rheolau cynllunio'n cefnogi datblygiad seilwaith digidol; c)
archwilio pa gymorth y gellir ei gynnig
i fusnesau i wella eu gallu i gystadlu
ledled y byd drwy fynediad gwell
i wasanaethau digidol; a d)
ymchwilio i broblemau diweddar gyda signalau
ffonau symudol a gweithio gyda darparwyr
rhwydwaith i sicrhau yr eir i'r
afael â'r problemau hyn a sicrhau cymaint o wasanaeth â phosibl ledled Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt
2c newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
bod
y cynnydd mewn siopa ar-lein wedi
cyfrannu at yr heriau y mae'r stryd fawr yn
eu hwynebu, ond ei fod
yn cydnabod potensial y rhyngrwyd fel ffynhonnell i adfywio’r stryd fawr; Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2: y
cynnydd o ran digideiddio'r
ochr weinyddol o ffermio ac effaith hyn ar ffermwyr
mewn ardaloedd lle mae'r ddarpariaeth
band eang yn wan. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt
3a newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
sicrhau, yn
ystod y broses o gyflwyno'r
rhaglen Cyflymu Cymru, y bydd BT yn sicrhau bod pobl sy’n byw
mewn eiddo nad yw’n gymwys
i’w gysylltu yn cael gwybod
hynny mewn modd amserol; Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5313
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi â phryder: a)
bod gan Gymru y gyfran fwyaf o eiddo mewn mannau
gwan posibl, a'r argaeledd isaf
o ran gwasanaethau band eang
cyflym iawn yn y DU; a b)
bod y gwaith diweddar i ad-drefnu a dadgomisiynu mastiau ffonau symudol wedi golygu
bod llawer o gwsmeriaid yn wynebu colli
eu signal symudol neu ddirywiad yn
eu signal symudol, er mawr rwystredigaeth
iddynt. 2.
Yn credu bod gwasanaethau band eang a symudol yn chwarae
rhan hanfodol a chynyddol ym mywydau
defnyddwyr a dinasyddion Cymru a bod diffyg mynediad i seilwaith digidol yn rhwystr
i ddatblygiad cymdeithasol,
economaidd a diwylliannol, gan nodi'n benodol: a)
bod adroddiad diweddar gan Estyn, ‘Effaith
TGCh ar ddysgu
disgyblion mewn ysgolion cynradd’, yn nodi bod tua
hanner yr ysgolion a holwyd wedi dweud bod ansawdd gwael y cysylltiad rhyngrwyd yn rhwystro eu
gwaith TGCh; b)
bod adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, ‘Broadband
services in Wales’, yn mynegi
pryder bod bodolaeth mannau gwan a mannau
araf band eang, yn enwedig mewn
ardaloedd gwledig, wedi rhwystro busnesau
lleol ar draul yr economi
leol; c)
bod y cynnydd mewn siopa ar-lein wedi
cyfrannu at yr heriau y mae'r stryd fawr yn
eu hwynebu, ond ei fod
yn cydnabod potensial y rhyngrwyd fel ffynhonnell i adfywio’r stryd fawr; d)
bod adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ‘Rural Communities’,
yn nodi bod cartrefi mewn ardaloedd
gwledig yn llai tebygol o fanteisio ar gynlluniau
a allai leihau costau tanwydd, megis tariffau rhatach neu gynlluniau
effeithlonrwydd ynni, oherwydd diffyg mynediad i fand eang; e)
bod Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Gwledig wedi dweud bod gwasanaeth gwael o ran y we yn ffactor sy'n
gwthio pobl ifanc allan o ardaloedd
gwledig; ac f)
y cynnydd o ran digideiddio'r
ochr weinyddol o ffermio ac effaith hyn ar ffermwyr
mewn ardaloedd lle mae'r ddarpariaeth
band eang yn wan. 3.
Yn gresynu at y problemau a brofir gan Gynllun Cymorth
Band Eang Arloesol Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i: a)
sicrhau bod cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn cael
ei hysbysebu'n eang ac nad yw'n
wynebu'r un problemau; b)
archwilio’r system gynllunio
i sicrhau bod y rheolau cynllunio'n cefnogi datblygiad seilwaith digidol; c)
archwilio pa gymorth y gellir ei gynnig
i fusnesau i wella eu gallu i gystadlu
ledled y byd drwy fynediad gwell
i wasanaethau digidol; a d)
ymchwilio i broblemau diweddar gyda signalau
ffonau symudol a gweithio gyda darparwyr
rhwydwaith i sicrhau yr eir i'r
afael â'r problemau hyn a sicrhau cymaint o wasanaeth â phosibl ledled Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Dechreuodd
yr eitem am 17.48 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |