Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i
ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 14.16 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y bwriad i gael uned
ddamweiniau wedi’i harwain gan feddygon
yn Ysbyty Tywysog Philip Llanelli yn sgîl ei lythyr
at gadeirydd Plaid Lafur
Llanelli dyddiedig 21 Tachwedd
2013? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.23 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i ethol Aelod i Bwyllgor Dechreuodd yr eitem am 14.37 NDM5375 Rosemary Butler
(Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol
â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jocelyn Davies (Plaid Cymru) yn aelod
o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lle Lindsay Whittle (Plaid Cymru). Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Ymateb Llawn Llywodraeth y DU i Adroddiad Comisiwn Silk ar Ddiwygio Ariannol Dogfen Ategol Grymuso
a Chyfrifoldeb: datganoli pwerau ariannol i Gymru (Saesneg yn unig) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.37 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adolygiad Hill: Darparu Gwasanaethau Addysg yng Nghymru yn y Dyfodol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.20 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Cynllun gweithredu strategol morol a physgodfeydd Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.59 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Y cynnydd o ran cyflwyno Strategaeth Yr Hawl i fod yn Ddiogel Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.39 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 NDM5364 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y
fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun
Diofyn) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2013. Dogfennau Ategol Rheoliadau
Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 Memorandwm
Esboniadol (Saesneg un unig) Y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Adroddiad Ymatebion
y Llywodraeth i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwri Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
17.17 Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem
a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5364 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo
bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun
Diofyn) (Cymru) 2013 yn cael ei
lunio yn unol â’r fersiwn
drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 4 Tachwedd 2013. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 NDM5365 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y
fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion
Rhagnodedig (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2013. Dogfennau
Ategol Rheoliadau
Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Adroddiad Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
17.17 NDM5365 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo
bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 yn cael ei lunio
yn unol â’r
fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2013. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) 2013 NDM5366 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo
bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau eraill) 2013 yn cael ei lunio
yn unol â’r
fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2013. Dogfennau Ategol Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau eraill) 2013 Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
17.44 NDM5366 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo
bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau eraill) 2013 yn cael ei lunio
yn unol â’r
fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2013. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Gofal NDM5247 Gwenda Thomas (Castell-nedd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Gofal, sy’n ymwneud
â threfniadau cyfatebol y DU
ar gyfer lleoli oedolion ar draws ffiniau, trefniadau i sicrhau
parhad yn y gofal i oedolion
yn achos methiant gan y darparwr ac i’w gwneud yn ofynnol
i Weinidogion Cymru gydweithredu â’r Awdurdod Ymchwil
Iechyd, i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog
29.2(i). Mae Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig wedi’i osod yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 22 Gorffennaf 2013 yn unol â Rheol Sefydlog
29.2(i). I weld copi o’r Bil
ewch i: Bill documents — Care Bill [HL] 2013-14 — UK Parliament (Saesneg yn unig) Dogfennau Ategol Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
17.48 Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem
a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân. NDM5247 Gwenda Thomas (Castell-nedd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Gofal, sy’n ymwneud
â threfniadau cyfatebol y
DU ar gyfer lleoli oedolion ar draws ffiniau, trefniadau i sicrhau
parhad yn y gofal i oedolion
yn achos methiant gan y darparwr ac i’w gwneud yn ofynnol
i Weinidogion Cymru gydweithredu â’r Awdurdod Ymchwil
Iechyd, i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Gofal NDM5331 Gwenda Thomas
(Castell-nedd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NNDM5247,
y darpariaethau pellach hynny yn y Bil Gofal sy’n ymwneud â threfniadau
cyfatebol y DU ar gyfer lleoliadau trawsffiniol oedolion ac ôl-ofal iechyd
meddwl ar gyfer pobl, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2013 yn unol â
Rheol Sefydlog 29.2(i). I weld copi o’r Bil ewch
i: Bill documents
– Care Bill [HL] 2013-14 – UK Parliament (Saesneg un unig) Dogfennau
Ategol Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
17.48 NDM5331 Gwenda Thomas (Castell-nedd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig
NNDM5247, y darpariaethau pellach
hynny yn y Bil Gofal sy’n
ymwneud â threfniadau cyfatebol y DU ar gyfer lleoliadau trawsffiniol oedolion ac ôl-ofal iechyd meddwl ar gyfer
pobl, i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â'r eithriad ASBO NDM5342 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU wneud darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol,
Troseddau a Phlismona, i ddiwygio’r eithriad
ynghylch gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol ym mharagraff 12, Atodlen 7 i Ddeddf
Llywodraeth Cymru 2006, sy’n addasu cymhwysedd
deddfwriaethol y Cynulliad. Mae Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2013 yn unol â Rheol
Sefydlog 29.2(i). I weld copi o’r Bil
ewch i: Bill documents – Anti-social Behaviour, Crime and Policing
Bill [HC] 2013-14 – UK Parliament (Saesneg
yn unig) Dogfennau Ategol Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
18.03 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5342 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU wneud darpariaethau yn y Bil Ymddygiad
Gwrthgymdeithasol, Troseddau
a Phlismona, i ddiwygio’r eithriad ynghylch gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol ym mharagraff 12, Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Y manteision i Gymru i'r DU barhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd NDM5367 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod
y manteision i Gymru pe bai’r
Deyrnas Unedig yn parhau’n aelod
o’r Undeb Ewropeaidd. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt
1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod
bod angen ailnegodi ein perthynas bresennol
â’r UE fel y gall Cymru a'r DU fanteisio
ar Undeb Ewropeaidd sy’n canolbwyntio'n fwy ar faterion economaidd. Gwelliant 2 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt
newydd ar ddechrau’r cynnig: Yn nodi
bod 160,000 o swyddi Cymru yn dibynnu ar
y DU yn aros yn aelod o’r
UE; bod Cymru’n elwa o £144
miliwn y flwyddyn o fod yn aelod
o'r UE; a bod dros 10,000 o
gwmnïau yng Nghymru yn masnachu
gyda gwledydd eraill yn yr
UE bob blwyddyn, sy'n dangos pwysigrwydd cael mynediad i'r
farchnad sengl a threfniadau masnach rydd yr UE gyda
thrydydd partïon ar gyfer swyddi
a'r economi yng Nghymru. Gwelliant 3 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt
newydd ar ddechrau’r cynnig: Yn croesawu
rôl yr UE yn diogelu ein
hamgylchedd fel arweinydd byd wrth
fynd i’r afael â newid yn
yr hinsawdd a llygredd trawsffiniol, a phwysigrwydd y cydymrwymiadau allweddol yn nhargedau
20-20-20 i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau nwyon ty gwydr
a chynyddu’r gyfran o’r ynni a ddefnyddir
yn yr UE sy’n cael ei
chynhyrchu o adnoddau adnewyddadwy. Gwelliant 4 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt
newydd ar ddechrau’r cynnig: Yn croesawu
cydweithrediad Cymru ag Europol ac Eurojust, a'i gallu i
ddefnyddio'r Warant Arestio Ewropeaidd fel arf, i
ddiogelu dinasyddion Cymru rhag troseddau. Gwelliant 5 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd y cynnig: sy’n cynnwys
gwneud Cymru yn wlad fwy
llewyrchus, mwy cynaliadwy a mwy diogel. Gwelliant 6 - Elin
Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu,
os bydd refferendwm
yn cael ei
gynnal ynghylch a ddylai’r DU aros yn aelod o’r
Undeb Ewropeaidd, y dylai canlyniad Cymru gyfan gael
ei gofnodi ar wahân. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
18.16 Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5367 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod
y manteision i Gymru pe bai’r Deyrnas
Unedig yn parhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt
1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod
bod angen ailnegodi ein perthynas bresennol
â’r UE fel y gall Cymru a'r DU fanteisio
ar Undeb Ewropeaidd sy’n canolbwyntio'n fwy ar faterion economaidd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt
newydd ar ddechrau’r cynnig: Yn nodi
bod 160,000 o swyddi Cymru yn dibynnu ar
y DU yn aros yn aelod o’r
UE; bod Cymru’n elwa o £144
miliwn y flwyddyn o fod yn aelod
o'r UE; a bod dros 10,000 o
gwmnïau yng Nghymru yn masnachu
gyda gwledydd eraill yn yr
UE bob blwyddyn, sy'n dangos pwysigrwydd cael mynediad i'r
farchnad sengl a threfniadau masnach rydd yr UE gyda
thrydydd partïon ar gyfer swyddi
a'r economi yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt
newydd ar ddechrau’r cynnig: Yn croesawu
rôl yr UE yn diogelu ein
hamgylchedd fel arweinydd byd wrth
fynd i’r afael â newid yn
yr hinsawdd a llygredd trawsffiniol, a phwysigrwydd y cydymrwymiadau allweddol yn nhargedau
20-20-20 i wella effeithlonrwydd
ynni, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chynyddu’r
gyfran o’r ynni a ddefnyddir yn yr UE sy’n
cael ei chynhyrchu
o adnoddau adnewyddadwy. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt
newydd ar ddechrau’r cynnig: Yn croesawu
cydweithrediad Cymru ag Europol ac Eurojust, a'i gallu i ddefnyddio'r
Warant Arestio Ewropeaidd fel arf, i ddiogelu dinasyddion Cymru rhag troseddau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd y cynnig: sy’n cynnwys
gwneud Cymru yn wlad fwy
llewyrchus, mwy cynaliadwy a mwy diogel. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Elin
Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu,
os bydd refferendwm
yn cael ei
gynnal ynghylch a ddylai’r DU aros yn aelod o’r
Undeb Ewropeaidd, y dylai canlyniad Cymru gyfan gael
ei gofnodi ar wahân. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5367 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn croesawu
cydweithrediad Cymru ag Europol ac Eurojust, a'i gallu i ddefnyddio'r
Warant Arestio Ewropeaidd fel arf, i ddiogelu dinasyddion Cymru rhag troseddau. Yn croesawu
rôl yr UE yn diogelu ein
hamgylchedd fel arweinydd byd wrth
fynd i’r afael â newid yn
yr hinsawdd a llygredd trawsffiniol, a phwysigrwydd y cydymrwymiadau allweddol yn nhargedau
20-20-20 i wella effeithlonrwydd
ynni, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
a chynyddu’r gyfran o’r ynni a ddefnyddir
yn yr UE sy’n cael ei
chynhyrchu o adnoddau adnewyddadwy. Yn nodi
bod 160,000 o swyddi Cymru yn dibynnu ar
y DU yn aros yn aelod o’r
UE; bod Cymru’n elwa o £144
miliwn y flwyddyn o fod yn aelod
o'r UE; a bod dros 10,000 o
gwmnïau yng Nghymru yn masnachu
gyda gwledydd eraill yn yr
UE bob blwyddyn, sy'n dangos pwysigrwydd cael mynediad i'r
farchnad sengl a threfniadau masnach rydd yr UE gyda
thrydydd partïon ar gyfer swyddi
a'r economi yng Nghymru. Yn cydnabod
y manteision i Gymru pe bai’r Deyrnas
Unedig yn parhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd
sy’n cynnwys gwneud Cymru yn
wlad fwy llewyrchus, mwy cynaliadwy a mwy diogel. Yn credu,
os bydd refferendwm
yn cael ei
gynnal ynghylch a ddylai’r DU aros yn aelod o’r
Undeb Ewropeaidd, y dylai canlyniad Cymru gyfan gael
ei gofnodi ar wahân.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Dechreuodd yr eitem am
19.15 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |