Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2 a 4 i 9.
Tynnwyd cwestiynau 3, 13 a 15 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog
Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.18 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 10 a 13 i
15. Tynnwyd cwestiynau 11 a 12 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 1, 2, 9 a 1 3 gan y
Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi. |
|||||||||
Datganiad gan y Llywydd Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Aelodau, oherwydd y bydd y
cynnig a ganlyn yn mynd gerbron yr Uchel Lys eleni, y byddai’r rheol ‘sub
judice’, a amlinellir yn Rheol Sefydlog 13.15 yn gymwys i’r ddadl. |
||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM5423
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) yr effaith andwyol y mae colli eu pensiynau wedi’i chael
ar dros 700 o gyn-weithwyr Visteon sy’n byw yn ardal Abertawe a’r cyffiniau; b) yr effaith ddilynol y mae colli pensiynau gweithwyr
Visteon wedi’i chael ar economi Abertawe a’r cyffiniau; c) y bydd pum mlynedd wedi mynd heibio ar 2 Ebrill eleni ers
cau Visteon fel cwmni, a bod gorymdaith fawr yn cael ei threfnu yn San Steffan;
a d) bod eleni’n flwyddyn bwysig i’r ymgyrch, o ystyried y bydd
achos llys Unite the Union yn erbyn Ford yn cael ei gynnal yn yr Uchel Lys yn
Llundain ddiwedd 2014. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i effaith colli eu
pensiynau ar weithwyr Visteon ac ar economi’r ardal lle maent yn byw. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.56 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5423 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn nodi: a) yr effaith andwyol y mae colli
eu pensiynau wedi’i chael ar dros 700 o gyn-weithwyr Visteon sy’n byw yn ardal
Abertawe a’r cyffiniau; b) yr effaith ddilynol y mae colli
pensiynau gweithwyr Visteon wedi’i chael ar economi Abertawe a’r cyffiniau; c) y bydd pum mlynedd wedi mynd
heibio ar 2 Ebrill eleni ers cau Visteon fel cwmni, a bod gorymdaith fawr yn
cael ei threfnu yn San Steffan; a d) bod eleni’n flwyddyn bwysig i’r
ymgyrch, o ystyried y bydd achos llys Unite the Union yn erbyn Ford yn cael ei
gynnal yn yr Uchel Lys yn Llundain ddiwedd 2014. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ymchwilio i effaith colli eu pensiynau ar weithwyr Visteon ac ar economi’r
ardal lle maent yn byw.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Ardaloedd Menter NDM5429
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i
Ardaloedd Menter, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2013. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2014. Dogfennau
Ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 15.27 NDM5429
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i
Ardaloedd Menter, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2013. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5430
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni rhaglen frys i fynd
i'r afael â'r argyfwng parhaus o ran cyflenwad tai yng Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu popeth ar ôl ‘gyflawni’ a rhoi yn ei le, ‘rhaglen
gynhwysfawr a chynaliadwy i fynd i’r afael â’r prinder tai fforddiadwy ar gyfer
pob math o ddaliadaeth’. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith bod diffyg mynediad at dir sydd ar
gael, mynediad at gyllid ac oedi yn y system gynllunio, yn creu rhwystrau rhag
adeiladu tai yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ffyrdd o roi
hwb i’r cyflenwad tai. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.57 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5430 William Graham (Dwyrain De
Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gyflawni rhaglen frys i fynd i'r afael â'r argyfwng parhaus o ran cyflenwad tai
yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 16.52 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5419
Peter Black (Gorllewin De Cymru) Rheoli diwygio lles Sut y mae cynghorau lleol yn defnyddio taliadau tai yn ôl
disgresiwn i liniaru effaith newidiadau i fudd-dal tai. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.52 NDM5419 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Rheoli diwygio lles Sut y mae cynghorau
lleol yn defnyddio taliadau tai yn ôl disgresiwn i liniaru effaith newidiadau i
fudd-dal tai. |
|||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |