Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1, 3, 5 - 11. Tynnwyd cwestiynau 2
a 4 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.29 Gofynnwyd yr 14 cwestiwn cyntaf.
Ni chafodd cwestiwn 15 ei ofyn. Cafodd cwestiynau 1, 2, 7, 8 ac 12 eu hateb gan
y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5497 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn nodi bod nifer y busnesau
bach a chanddynt werth ardrethol o hyd at £12,000 yng Nghymru bellach yn 73% o
bob busnes; 2. Yn cydnabod y bydd gan Lywodraeth
Cymru gyfrifoldeb llawn am ardrethi busnes pan fydd Bil Cymru wedi cael
Cydsyniad Brenhinol; 3. Yn cydnabod bod cydbwysedd rhwng
manwerthwyr y trydydd sector a manwerthwyr annibynnol yn hanfodol i gynnal y
stryd fawr; 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) Ystyried manteision rhannu
lluosydd Cymru yn fusnesau bach a mawr i sicrhau bod Cymru yn unol â'r Alban a
Lloegr; b) Adfywio rhyddhad caledi, sy'n
hanfodol i fusnesau bach. Mae Bil Cymru ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/wales-bill Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion) Ym mhwynt 4a) dileu popeth ar ôl
‘fusnesau bach a mawr’. Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 4: Ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi
busnesau bach i gwmpasu pob busnes â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 4: Edrych ar ffyrdd o wneud ardrethi
busnes yn fwy ymatebol i newidiadau yn amodau’r farchnad, er mwyn sicrhau bod
gwerthoedd ardrethol yn adlewyrchu prisiadau cyfredol yn well. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.22 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5497 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod nifer y busnesau bach a
chanddynt werth ardrethol o hyd at £12,000 yng Nghymru bellach yn 73% o bob
busnes; 2. Yn cydnabod y bydd gan Lywodraeth Cymru
gyfrifoldeb llawn am ardrethi busnes pan fydd Bil Cymru wedi cael Cydsyniad
Brenhinol; 3. Yn cydnabod bod cydbwysedd rhwng manwerthwyr
y trydydd sector a manwerthwyr annibynnol yn hanfodol i gynnal y stryd fawr; 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) Ystyried manteision rhannu lluosydd Cymru yn
fusnesau bach a mawr i sicrhau bod Cymru yn unol â'r Alban a Lloegr; b) Adfywio rhyddhad caledi, sy'n hanfodol i fusnesau bach.
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5498
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw am ddiddymu'r dreth ystafell wely. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod problem tanfeddiannaeth mewn tai cymdeithasol. 2. Yn cydnabod gwaith y Democratiaid Rhyddfrydol yn
Llywodraeth y DU o ran sicrhau Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn i awdurdodau lleol
er mwyn helpu i liniaru effaith diwygiadau mewn achosion teilwng unigol. 3. Yn croesawu'r cyhoeddiad diweddar y bydd y cap ar y swm y
gall cynghorau ei wario ar Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn yn cael ei godi i roi
mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol. 4. Yn mynegi pryder ynghylch y rhwystrau a roddwyd yn eu lle
gan gynghorau lleol i'r rhai sy'n ceisio gwneud cais am Daliadau Tai yn ôl
Disgresiwn a'u methiant i ddyrannu'r holl adnoddau a roddwyd iddynt at y diben
hwn mewn da bryd. 5. Yn croesawu'r cynnig a basiwyd yng nghynhadledd y
Democratiaid Rhyddfrydol ym mis Medi 2013 yn galw am werthusiad ar unwaith o
effaith y cymhorthdal ystafell sbâr, ac yn aros am ganlyniad yr adolygiad
annibynnol o'r polisi a gomisiynwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sydd ar y
gweill. 6. Yn credu y dylai tynnu'r cymhorthdal ystafell sbâr yn ôl
gael ei liniaru drwy eithrio oedolion anabl a phlant anabl y mae angen gofalwr
arnynt a'i gymhwyso i denantiaethau newydd y sector cyhoeddus yn unig. [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant
2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi: a) bod prinder tai cymdeithasol ledled y DU, ac yng Nghymru’n
arbennig, a bod cael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr yn ymateb dilynol
i’r cynnydd mewn rhestrau aros, gorlenwi a digartrefedd cudd sy’n mynd ochr yn
ochr â phroblem tanfeddiannu mewn tai cymdeithasol; b) mai Llywodraeth Lafur y DU, ym mis Ebrill 2008, aeth ati i
gael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr am y tro cyntaf ar gyfer y rheini a
oedd yn derbyn budd-dal tai yn y sector rhentu preifat; c) bod arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU wedi cael ei
ddarparu ar gyfer Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn o 2013/14 ymlaen gan ganiatáu i
awdurdodau lleol dargedu’r rheini sydd ei angen fwyaf; d) y cyhoeddiad diweddar y bydd y cap ar faint y caiff
cynghorau ei wario ar Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn yn cael ei godi er mwyn
rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol; e) methiant awdurdodau lleol i ddyrannu’r holl adnoddau a
roddwyd iddynt ar gyfer Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn mewn da bryd; f) yr arweiniad a roddwyd ymlaen llaw i awdurdodau lleol gan
yr Adran Gwaith a Phensiynau, sy’n dweud y dylai pobl anabl sy’n byw mewn llety
sydd wedi’i addasu’n sylweddol a’r rheini sy’n ddibynnol iawn ar rwydwaith
cefnogi lleol gael eu blaenoriaethu ar gyfer taliadau tai yn ôl disgresiwn. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.13 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5498 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw am ddiddymu'r dreth ystafell wely.
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5499 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn nodi cyhoeddi adroddiad
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 'Powering Wales’ Future'. 2. Yn gresynu bod pleidiau ledled y
DU sy'n wleidyddol geidwadol yn parhau i wrthod y dystiolaeth lethol sy'n
cadarnhau'r newid yn yr hinsawdd. 3. Yn cydnabod y gellir sicrhau
dyfodol carbon isel cynaliadwy drwy newid uchelgeisiol o ran sut rydym yn
cynhyrchu ynni. 4. Yn cydnabod bod rhwydwaith grid
clyfar ac amrywiol yn hanfodol i sicrhau y gellir diwallu ein hanghenion ynni
ar gyfer y dyfodol mewn modd dibynadwy a chynaliadwy. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) adolygu Nodyn Cyngor Technegol 8
i ganiatáu diweddariadau sy'n adlewyrchu gwelliannau technolegol a datblygu
Ardaloedd Chwilio Strategol newydd, i annog prosiectau newydd a lleihau
crynodiadau presennol; b) gweithio gyda diwydiant i
ddatblygu cynlluniau budd cymunedol rhanbarthol, er mwyn i gymunedau ar hyd
coridorau cludiant a grid gael budd o'r buddsoddiadau economaidd sydd ynghlwm
wrth ynni adnewyddadwy; c) sicrhau manteision economaidd
mwyaf posibl ynni adnewyddadwy drwy weithio gyda datblygwyr a sefydliadau
addysgol i ehangu cadwyni cyflenwi a chanolfannau rhagoriaeth ar gyfer y
genhedlaeth nesaf o beirianwyr a phrentisiaid; d) archwilio datblygu Canolfannau
Ynni Morol i ddarparu amgylchedd diogel i weithgynhyrchu a phrofi technolegau
morol sy'n dod i'r amlwg i helpu Cymru i gael mantais gystadleuol; e) canolbwyntio cefnogaeth y
cyhoedd ar gyfer ymchwil i dechnoleg storio drydanol ar raddfa fawr fel batris; f) archwilio potensial datblygu
cyfleusterau storio pwmp newydd er mwyn gallu storio mwy o ynni at ddefnydd yn
ystod oriau brig a sicrhau cyflenwad sefydlog o drydan carbon isel; a g) datblygu cyngor technegol newydd
ar gyfer hollti hydrolig, gan gynnwys profion tyllu, i sicrhau bod diogelwch a
diogelu'r amgylchedd yn cyrraedd y safonau uchaf. Gellir gweld adroddiad Democratiaid
Rhyddfrydol Cymru 'Powering Wales’ Future' yma: http://welshlibdems.org.uk/en/document/energy-policy-paper-2014.pdf Mae Nodyn Cyngor Technegol 8 ar
gael yn: http://cymru.gov.uk/docs/desh/publications/050701techical-advice-note-8-en.pdf Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le “Yn
nodi bod pobl ym mhob rhan o gymdeithas a fydd yn dal i gwestiynu'r rhesymau
sydd wrth wraidd newidiadau yn ein hinsawdd fyd-eang”. [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion) Ym mhwynt 2, dileu ‘pleidiau ledled
y DU sy'n wleidyddol geidwadol’ a rhoi ‘Llywodraeth y DU’ yn ei le. Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo
yn unol â hynny: Yn gresynu at y cyfyngiadau a osodwyd
ar gymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym maes ynni. Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys is-bwynt 5b) newydd ac
ailrifo yn unol â hynny: archwilio potensial sefydlu cwmni
ynni cyhoeddus, hyd braich, nid er elw i'w ddosbarthu; Gwelliant 5 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu is-bwynt 5g Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 5: cyllido cynllun ôl-ffitio ledled y
wlad i leihau'r defnydd o ynni a sicrhau biliau ynni is i ddefnyddwyr; Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 5: cyhoeddi unrhyw ymchwil i
ddichonoldeb adeiladu cysylltiad grid rhwng gogledd a de Cymru; Gwelliant 8 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth
Cymru gefnogi amrywiol fathau o ynni adnewyddadwy, a buddsoddi ynddynt, er mwyn
cyflawni’r amcanion allweddol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd ac yn nodi
bod digon o geisiadau ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir ar y gweill yn y system
gynllunio i fodloni targedau ynni adnewyddadwy’r DU Gwelliant 9 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn credu y dylai’r Bil Cynllunio
roi mwy o rym i gymunedau lleol dderbyn neu wrthod cynlluniau ynni adnewyddadwy
penodol yn ôl yr hyn sydd orau i’w hardal leol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.11 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5499 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyhoeddi adroddiad Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 'Powering
Wales’ Future'. 2. Yn gresynu bod pleidiau ledled y DU sy'n wleidyddol geidwadol yn parhau
i wrthod y dystiolaeth lethol sy'n cadarnhau'r newid yn yr hinsawdd. 3. Yn cydnabod y gellir sicrhau dyfodol carbon isel cynaliadwy drwy newid
uchelgeisiol o ran sut rydym yn cynhyrchu ynni. 4. Yn cydnabod bod rhwydwaith grid clyfar ac amrywiol yn hanfodol i
sicrhau y gellir diwallu ein hanghenion ynni ar gyfer y dyfodol mewn modd
dibynadwy a chynaliadwy. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) adolygu Nodyn Cyngor Technegol 8 i ganiatáu diweddariadau sy'n
adlewyrchu gwelliannau technolegol a datblygu Ardaloedd Chwilio Strategol
newydd, i annog prosiectau newydd a lleihau crynodiadau presennol; b) gweithio gyda diwydiant i ddatblygu cynlluniau budd cymunedol
rhanbarthol, er mwyn i gymunedau ar hyd coridorau cludiant a grid gael budd o'r
buddsoddiadau economaidd sydd ynghlwm wrth ynni adnewyddadwy; c) sicrhau manteision economaidd mwyaf posibl ynni adnewyddadwy drwy
weithio gyda datblygwyr a sefydliadau addysgol i ehangu cadwyni cyflenwi a
chanolfannau rhagoriaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf o beirianwyr a
phrentisiaid; d) archwilio datblygu Canolfannau Ynni Morol i ddarparu amgylchedd diogel
i weithgynhyrchu a phrofi technolegau morol sy'n dod i'r amlwg i helpu Cymru i
gael mantais gystadleuol; e) canolbwyntio cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer ymchwil i dechnoleg storio
drydanol ar raddfa fawr fel batris; f) archwilio potensial datblygu cyfleusterau storio pwmp newydd er mwyn
gallu storio mwy o ynni at ddefnydd yn ystod oriau brig a sicrhau cyflenwad
sefydlog o drydan carbon isel; a g) datblygu cyngor technegol newydd ar gyfer
hollti hydrolig, gan gynnwys profion tyllu, i sicrhau bod diogelwch a diogelu'r
amgylchedd yn cyrraedd y safonau uchaf.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le “Yn nodi bod pobl
ym mhob rhan o gymdeithas a fydd yn dal i gwestiynu'r rhesymau sydd wrth wraidd
newidiadau yn ein hinsawdd fyd-eang”. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion) Ym mhwynt 2, dileu ‘pleidiau ledled y DU sy'n
wleidyddol geidwadol’ a rhoi ‘Llywodraeth y DU’ yn ei le. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu at y cyfyngiadau a osodwyd ar
gymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym maes ynni. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys is-bwynt 5b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: archwilio potensial sefydlu cwmni ynni
cyhoeddus, hyd braich, nid er elw i'w ddosbarthu; Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu is-bwynt 5g Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5: cyllido cynllun ôl-ffitio ledled y wlad i
leihau'r defnydd o ynni a sicrhau biliau ynni is i ddefnyddwyr; Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5: cyhoeddi unrhyw ymchwil i ddichonoldeb adeiladu
cysylltiad grid rhwng gogledd a de Cymru; Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
Derbyniwyd gwelliant 7. Gwelliant 8 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru
gefnogi amrywiol fathau o ynni adnewyddadwy, a buddsoddi ynddynt, er mwyn
cyflawni’r amcanion allweddol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd ac yn nodi
bod digon o geisiadau ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir ar y gweill yn y system
gynllunio i fodloni targedau ynni adnewyddadwy’r DU Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 8:
Gwrthodwyd gwelliant 8. Gwelliant 9 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai’r Bil Cynllunio roi mwy o rym
i gymunedau lleol dderbyn neu wrthod cynlluniau ynni adnewyddadwy penodol yn ôl
yr hyn sydd orau i’w hardal leol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 9:
Gwrthodwyd gwelliant 9. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5499 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyhoeddi adroddiad Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 'Powering
Wales’ Future'. 2. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU yn parhau i wrthod y dystiolaeth lethol
sy'n cadarnhau'r newid yn yr hinsawdd. 3. Yn gresynu at y cyfyngiadau a osodwyd ar
gymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym maes ynni. 4. Yn cydnabod y gellir sicrhau dyfodol carbon isel cynaliadwy drwy newid
uchelgeisiol o ran sut rydym yn cynhyrchu ynni. 5. Yn cydnabod bod rhwydwaith grid clyfar ac amrywiol yn hanfodol i
sicrhau y gellir diwallu ein hanghenion ynni ar gyfer y dyfodol mewn modd
dibynadwy a chynaliadwy. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) adolygu Nodyn Cyngor Technegol 8 i ganiatáu diweddariadau sy'n
adlewyrchu gwelliannau technolegol a datblygu Ardaloedd Chwilio Strategol
newydd, i annog prosiectau newydd a lleihau crynodiadau presennol; b) archwilio potensial sefydlu cwmni ynni
cyhoeddus, hyd braich, nid er elw i'w ddosbarthu; c) gweithio gyda diwydiant i ddatblygu cynlluniau budd cymunedol
rhanbarthol, er mwyn i gymunedau ar hyd coridorau cludiant a grid gael budd o'r
buddsoddiadau economaidd sydd ynghlwm wrth ynni adnewyddadwy; d) sicrhau manteision economaidd mwyaf posibl ynni adnewyddadwy drwy
weithio gyda datblygwyr a sefydliadau addysgol i ehangu cadwyni cyflenwi a
chanolfannau rhagoriaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf o beirianwyr a
phrentisiaid; e) archwilio datblygu Canolfannau Ynni Morol i ddarparu amgylchedd diogel
i weithgynhyrchu a phrofi technolegau morol sy'n dod i'r amlwg i helpu Cymru i
gael mantais gystadleuol; f) canolbwyntio cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer ymchwil i dechnoleg storio
drydanol ar raddfa fawr fel batris; g) archwilio potensial datblygu cyfleusterau storio pwmp newydd er mwyn
gallu storio mwy o ynni at ddefnydd yn ystod oriau brig a sicrhau cyflenwad
sefydlog o drydan carbon isel; h) cyllido cynllun ôl-ffitio ledled y wlad i leihau'r defnydd o ynni a
sicrhau biliau ynni is i ddefnyddwyr; a i) cyhoeddi unrhyw ymchwil i ddichonoldeb
adeiladu cysylltiad grid rhwng gogledd a de Cymru;
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr
eitem am 18.05 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5496
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Cost bod yn dlawd Sut y mae benthycwyr llog uchel a darparwyr eraill yn gwneud
i bobl dlawd dalu mwy. Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 18.10 NDM5496 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Cost bod yn dlawd Sut y mae benthycwyr llog uchel a darparwyr eraill yn gwneud i bobl dlawd
dalu mwy. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |