Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 14 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 15 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.11 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.00 Gofynnwyd y 3 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5527
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn gresynu bod gormod o bobl yng Nghymru yn aros yn rhy hir
am brofion diagnostig a thriniaeth y GIG. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at yr anawsterau y mae cleifion yn eu hwynebu wrth
drefnu apwyntiadau gyda meddyg teulu er mwyn cael triniaeth yn brydlon. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y cynnydd o 20% rhwng mis Mawrth a mis Ebrill
2014 yn nifer y cleifion sy’n disgwyl 36 wythnos i gael dechrau triniaeth ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar fyrder i fynd i'r afael â rhestrau aros
hirdymor. Gwelliant
3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith bod amseroedd aros o’r fath yn
sylweddol hirach yn GIG Cymru nag yn yr Alban a Lloegr. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.07 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5527 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn gresynu bod gormod o bobl yng Nghymru yn aros yn rhy hir am brofion
diagnostig a thriniaeth y GIG.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at yr anawsterau y mae cleifion yn eu hwynebu wrth drefnu
apwyntiadau gyda meddyg teulu er mwyn cael triniaeth yn brydlon. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd
gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y cynnydd o 20% rhwng mis Mawrth
a mis Ebrill 2014 yn nifer y cleifion sy’n disgwyl 36 wythnos i gael dechrau
triniaeth ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar fyrder i fynd i'r afael
â rhestrau aros hirdymor. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Fel
sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei
bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant. Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith bod amseroedd aros o’r
fath yn sylweddol hirach yn GIG Cymru nag yn yr Alban a Lloegr. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn
y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y
cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig,
gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5529
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi Dogfen Ymgynghori Llywodraeth Cymru ar y Cynllun
drafft “Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd”. 2. Yn nodi mai dewis Llywodraeth Cymru fyddai adeiladu M4 newydd
dros Wastadeddau Gwent i'r de o Gasnewydd. 3. Yn credu y dylid diystyru'r llwybr a ffefrir gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer M4 newydd ar sail amgylcheddol a gwerth am arian. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau i ôl
troed ffordd yr A48 bresennol o amgylch Casnewydd fel yr amlinellwyd yng
nghysyniad y ‘Llwybr Glas’. 5. Yn credu na ddylai pwerau benthyca i Gymru fod yn
seiliedig ar gymorth Llywodraeth Cymru i brosiect penodol, ond y dylent fod ar
gael i'w defnyddio ar draws y cyfan o'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Mae gweld Dogfen Ymgynghori ar y Cynllun drafft ‘Coridor yr
M4 o amgylch Casnewydd’ ar gael yma: http://cymru.gov.uk/docs/det/consultation/130923m4conscy.pdf Mae dogfen y ‘Llwybr Glas’ ar gael yma: http://www.foe.co.uk/sites/default/files/downloads/m4-blue-route-45610.pdf
[Saesneg yn unig] Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwyntiau 3, 4 a 5. [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4: ‘fel rhan o strategaeth drafnidiaeth integredig ar gyfer de
ddwyrain Cymru sy’n cynnwys buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith
rheilffyrdd ar gyfer cludo nwyddau a gwella llwybrau lleol strategol'. Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r buddsoddiad gan Lywodraeth y DU a’r ymrwymiad i
gael mynediad cynnar at bwerau benthyca er mwyn ariannu gwelliannau i’r M4; Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod angen penderfyniad cynnar ynghylch cael
ffordd i ysgafnhau’r tagfeydd ar seilwaith presennol yr M4 o amgylch Casnewydd,
a rhoi’r penderfyniad hwnnw ar waith. Gwelliant
5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod pryderon y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
yn ei lythyr yn dwyn y teitl ‘Cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o
amgylch Casnewydd’, ar 5 Mehefin 2014. Mae llythyr y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar gael
yn: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/documents/s28157/Llythyr.pdf Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.07 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5529 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi Dogfen Ymgynghori Llywodraeth Cymru ar y Cynllun
drafft “Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd”. 2. Yn nodi mai dewis Llywodraeth Cymru fyddai adeiladu M4
newydd dros Wastadeddau Gwent i'r de o Gasnewydd. 3. Yn credu y dylid diystyru'r llwybr a ffefrir gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer M4 newydd ar sail amgylcheddol a gwerth am arian. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau i ôl
troed ffordd yr A48 bresennol o amgylch Casnewydd fel yr amlinellwyd yng
nghysyniad y ‘Llwybr Glas’. 5. Yn credu na ddylai pwerau benthyca i Gymru fod yn
seiliedig ar gymorth Llywodraeth Cymru i brosiect penodol, ond y dylent fod ar
gael i'w defnyddio ar draws y cyfan o'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwyntiau 3, 4 a 5. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd
gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4: ‘fel rhan o strategaeth drafnidiaeth integredig ar gyfer de ddwyrain Cymru
sy’n cynnwys buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith rheilffyrdd ar
gyfer cludo nwyddau a gwella llwybrau lleol strategol'. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r buddsoddiad gan Lywodraeth y DU a’r ymrwymiad i gael
mynediad cynnar at bwerau benthyca er mwyn ariannu gwelliannau i’r M4; Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod angen penderfyniad cynnar ynghylch cael ffordd i
ysgafnhau’r tagfeydd ar seilwaith presennol yr M4 o amgylch Casnewydd, a rhoi’r
penderfyniad hwnnw ar waith. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd
gwelliant 4. Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod pryderon y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ei lythyr
yn dwyn y teitl ‘Cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch
Casnewydd’, ar 5 Mehefin 2014. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd
gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM5529 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi Dogfen Ymgynghori Llywodraeth Cymru ar y Cynllun
drafft “Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd”. 2. Yn nodi mai dewis Llywodraeth Cymru fyddai adeiladu M4
newydd dros Wastadeddau Gwent i'r de o Gasnewydd. 3. Yn credu y dylid diystyru'r llwybr a ffefrir gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer M4 newydd ar sail amgylcheddol a gwerth am arian. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau i ôl
troed ffordd yr A48 bresennol o amgylch Casnewydd fel yr amlinellwyd yng
nghysyniad y ‘Llwybr Glas’ fel rhan o strategaeth
drafnidiaeth integredig ar gyfer de ddwyrain Cymru sy’n cynnwys buddsoddiad
mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith rheilffyrdd ar gyfer cludo nwyddau a
gwella llwybrau lleol strategol. 5. Yn credu na ddylai pwerau benthyca i Gymru fod yn
seiliedig ar gymorth Llywodraeth Cymru i brosiect penodol, ond y dylent fod ar
gael i'w defnyddio ar draws y cyfan o'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. 6. Yn croesawu’r buddsoddiad gan
Lywodraeth y DU a’r ymrwymiad i gael mynediad cynnar at bwerau benthyca er mwyn
ariannu gwelliannau i’r M4. 7. Yn cydnabod bod angen penderfyniad cynnar
ynghylch cael ffordd i ysgafnhau’r tagfeydd ar seilwaith presennol yr M4 o
amgylch Casnewydd, a rhoi’r penderfyniad hwnnw ar waith. 8. Yn cydnabod pryderon y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ei
lythyr yn dwyn y teitl ‘Cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch
Casnewydd’, ar 5 Mehefin 2014.
Gwrthodwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5530
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd microgynhyrchu a chynhyrchu sy'n
eiddo i gymunedau o ran datblygu cymysgedd ynni amrywiol i ddarparu ar gyfer
anghenion ynni Cymru yn y dyfodol, a'r angen am fwy o effeithlonrwydd ynni i
leihau ein defnydd o ynni a lleihau tlodi tanwydd. 2. Yn croesawu'r cynigion gan Lywodraeth y DU i gymunedau
gael y cyfle i brynu rhan yn eu cynllun trydan adnewyddadwy lleol. 3. Yn gresynu at y canfyddiadau yng Ngwerthusiad Canol Tymor
Ynni'r Fro Llywodraeth Cymru mai prin iawn fu'r cyflawniad yn erbyn y targedau
ar gyfer cynhyrchu ynni, gostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr a
chreu swyddi hyd yma. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gynorthwyo ynni
cymunedol ac effeithlonrwydd ynni drwy: a) sicrhau bod prosiectau microgynhyrchu yn cael eu hystyried
gyda rhagdybiaeth o blaid datblygu; b) rhoi fframwaith cyfreithiol a busnes enghreifftiol ar
gyfer Cwmnïau Cydweithredol Ynni Adnewyddadwy sy'n Eiddo i Gymunedau i leihau'r
costau cyfreithiol a'r cymhlethdod i gymunedau sydd am sefydlu eu rhai eu
hunain; c) sicrhau bod y cyngor a'r cymorth a gynigir gan Swyddogion
Datblygu Technegol Ynni'r Fro yn parhau ar ôl y rhaglen bresennol; d) creu llyfrgell o adnoddau i gynorthwyo grwpiau cymunedol
wrth wneud cais am gymorth ar gyfer prosiectau cynhyrchu cymunedol; ac e) gweithio gyda darparwyr addysg i sicrhau bod polisïau
newid yn yr hinsawdd ac addysg yn cydnabod yn llawn rôl addysg ac ysgolion o
ran cyflwyno newid ymddygiad, a sicrhau mwy o ddealltwriaeth o faterion
ecolegol yn ein hysgolion. Mae Gwerthusiad Canol Tymor Ynni’r Fro ar gael yma: http://cymru.gov.uk/statistics-and-research/evaluation-ynnir-fro/?lang=cy Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Ym mhwynt 2, dileu ‘croesawu’r’ a rhoi ‘nodi’r’ yn ei le. Gwelliant
2 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Ym mhwynt 3, dileu ‘gresynu at y’ a rhoi ‘nodi’r’ yn ei le. Gwelliant
3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4: sefydlu cronfa ynni cymunedol, yn seiliedig ar y rhaglen
lwyddiannus Community Energy Scotland, i ddarparu cyllid drwy fenthyciadau i
gymunedau lleol sy’n awyddus i sefydlu prosiectau ynni cymunedol, benthyciadau
a fyddai'n cael eu dileu petai’r prosiectau’n aflwyddiannus. Gwelliant
4 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4: ystyried cyflwyno rhaglen ôl-ffitio ledled y wlad i leihau'n
sylweddol y defnydd o ynni yng Nghymru. Gwelliant
5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r buddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol
y gellir eu cyflawni o fewn un prosiect cynhyrchu sy’n eiddo i gymunedau. Gwelliant
6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi cyllid cyhoeddus
i Ynni Cymunedol Cymru i hwyluso prosiectau. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.02 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5530 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd microgynhyrchu a
chynhyrchu sy'n eiddo i gymunedau o ran datblygu cymysgedd ynni amrywiol i
ddarparu ar gyfer anghenion ynni Cymru yn y dyfodol, a'r angen am fwy o
effeithlonrwydd ynni i leihau ein defnydd o ynni a lleihau tlodi tanwydd. 2. Yn croesawu'r cynigion gan Lywodraeth y DU i
gymunedau gael y cyfle i brynu rhan yn eu cynllun trydan adnewyddadwy lleol. 3. Yn gresynu at y canfyddiadau yng Ngwerthusiad Canol Tymor
Ynni'r Fro Llywodraeth Cymru mai prin iawn fu'r cyflawniad yn erbyn y targedau
ar gyfer cynhyrchu ynni, gostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr a
chreu swyddi hyd yma. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i
gynorthwyo ynni cymunedol ac effeithlonrwydd ynni drwy: a) sicrhau bod prosiectau microgynhyrchu yn
cael eu hystyried gyda rhagdybiaeth o blaid datblygu; b) rhoi fframwaith cyfreithiol a busnes
enghreifftiol ar gyfer Cwmnïau Cydweithredol Ynni Adnewyddadwy sy'n Eiddo i
Gymunedau i leihau'r costau cyfreithiol a'r cymhlethdod i gymunedau sydd am
sefydlu eu rhai eu hunain; c) sicrhau bod y cyngor a'r cymorth a gynigir
gan Swyddogion Datblygu Technegol Ynni'r Fro yn parhau ar ôl y rhaglen
bresennol; d) creu llyfrgell o adnoddau i gynorthwyo
grwpiau cymunedol wrth wneud cais am gymorth ar gyfer prosiectau cynhyrchu
cymunedol; ac e) gweithio gyda darparwyr addysg i sicrhau bod polisïau newid yn yr
hinsawdd ac addysg yn cydnabod yn llawn rôl addysg ac ysgolion o ran cyflwyno
newid ymddygiad, a sicrhau mwy o ddealltwriaeth o faterion ecolegol yn ein
hysgolion.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Ym mhwynt 2, dileu ‘croesawu’r’ a rhoi‘nodi’r’ yn ei le. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Gwelliant 2 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Ym mhwynt 3, dileu ‘gresynu at y’ a rhoi‘nodi’r’ yn ei le. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Fel
sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei
bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4: sefydlu cronfa ynni cymunedol, yn seiliedig ar y rhaglen lwyddiannus
Community Energy Scotland, i ddarparu cyllid drwy fenthyciadau i gymunedau
lleol sy’n awyddus i sefydlu prosiectau ynni cymunedol, benthyciadau a fyddai'n
cael eu dileu petai’r prosiectau’n aflwyddiannus. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4: ystyried cyflwyno rhaglen ôl-ffitio ledled y wlad i leihau'n sylweddol y
defnydd o ynni yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd
gwelliant 4. Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r buddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y gellir eu cyflawni
o fewn un prosiect cynhyrchu sy’n eiddo i gymunedau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd
gwelliant 5. Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi cyllid cyhoeddus i Ynni
Cymunedol Cymru i hwyluso prosiectau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd
gwelliant 6. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM5530 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd microgynhyrchu a
chynhyrchu sy'n eiddo i gymunedau o ran datblygu cymysgedd ynni amrywiol i
ddarparu ar gyfer anghenion ynni Cymru yn y dyfodol, a'r angen am fwy o
effeithlonrwydd ynni i leihau ein defnydd o ynni a lleihau tlodi tanwydd. 2. Yn nodi’r cynigion gan Lywodraeth y DU i
gymunedau gael y cyfle i brynu rhan yn eu cynllun trydan adnewyddadwy lleol. 3. Yn gresynu at y canfyddiadau yng Ngwerthusiad Canol Tymor
Ynni'r Fro Llywodraeth Cymru mai prin iawn fu'r cyflawniad yn erbyn y targedau
ar gyfer cynhyrchu ynni, gostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr a
chreu swyddi hyd yma. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i
gynorthwyo ynni cymunedol ac effeithlonrwydd ynni drwy: a) sicrhau bod prosiectau microgynhyrchu yn
cael eu hystyried gyda rhagdybiaeth o blaid datblygu; b) rhoi fframwaith cyfreithiol a busnes enghreifftiol
ar gyfer Cwmnïau Cydweithredol Ynni Adnewyddadwy sy'n Eiddo i Gymunedau i
leihau'r costau cyfreithiol a'r cymhlethdod i gymunedau sydd am sefydlu eu rhai
eu hunain; c) sicrhau bod y cyngor a'r cymorth a gynigir
gan Swyddogion Datblygu Technegol Ynni'r Fro yn parhau ar ôl y rhaglen
bresennol; d) creu llyfrgell o adnoddau i gynorthwyo
grwpiau cymunedol wrth wneud cais am gymorth ar gyfer prosiectau cynhyrchu
cymunedol; e) gweithio gyda darparwyr addysg i sicrhau bod
polisïau newid yn yr hinsawdd ac addysg yn cydnabod yn llawn rôl addysg ac
ysgolion o ran cyflwyno newid ymddygiad, a sicrhau mwy o ddealltwriaeth o
faterion ecolegol yn ein hysgolion; f) sefydlu cronfa ynni cymunedol, yn seiliedig
ar y rhaglen lwyddiannus Community Energy Scotland, i ddarparu cyllid drwy
fenthyciadau i gymunedau lleol sy’n awyddus i sefydlu prosiectau ynni
cymunedol, benthyciadau a fyddai'n cael eu dileu petai’r prosiectau’n
aflwyddiannus; ac g) ystyried cyflwyno rhaglen ôl-ffitio ledled y
wlad i leihau'n sylweddol y defnydd o ynni yng Nghymru. 5. Yn nodi’r buddiannau economaidd,
cymdeithasol ac amgylcheddol y gellir eu cyflawni o fewn un prosiect cynhyrchu
sy’n eiddo i gymunedau. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi
cyllid cyhoeddus i Ynni Cymunedol Cymru i hwyluso prosiectau.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Dechreuodd yr
eitem am 17.46 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer - Gohiriwyd NDM5528
Nick Ramsay (Mynwy) Llais - Siarad ar ran pobl sy'n byw gyda Chlefyd Niwronau
Motor yng Nghymru. Penderfyniad: NDM5528 Nick Ramsay (Mynwy) Llais - Siarad ar ran pobl sy'n byw gyda Chlefyd Niwronau
Motor yng Nghymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol:
|