Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a’r Dirprwy Wenidog Ffermio a Bwyd
ar ôl cwestiwn 2. Atebwyd cwestiynau 1 a 2 gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a
Bwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.18 Gofynnwyd cwestiynau 1 – 11 ac 13. Tynnwyd cwestiwn 12 yn ôl.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog
Cymunedau a Threchu Tlodi ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5570
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi galwadau gan Gymdeithas Feddygol Prydain am
ymchwiliad annibynnol llawn i wasanaethau'r GIG yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gomisiynu ymchwiliad o'r fath cyn gynted â phosibl. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pryderon y BMA ynghylch anallu Llywodraeth Cymru
i recriwtio a chadw gweithlu meddygol digonol yn y GIG. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at doriadau parhaus Llywodraeth y DU i wariant
cyhoeddus a'r effaith ar fuddsoddi yn ein GIG. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi galwadau gan y BMA y dylid rhoi ystyriaeth i
lefelau staffio diogel a gofynnol ar draws gofal sylfaenol, eilaidd a
chymunedol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:10 NDM5570 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi galwadau gan Gymdeithas Feddygol Prydain am
ymchwiliad annibynnol llawn i wasanaethau'r GIG yng Nghymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad o'r fath cyn gynted â phosibl. Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
Gwrthodwyd y cynnig heb ei
ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pryderon y BMA ynghylch anallu Llywodraeth
Cymru i recriwtio a chadw gweithlu meddygol digonol yn y GIG. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 2 - Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at doriadau parhaus Llywodraeth y DU i
wariant cyhoeddus a'r effaith ar fuddsoddi yn ein GIG. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi galwadau gan y BMA y dylid rhoi ystyriaeth i
lefelau staffio diogel a gofynnol ar draws gofal sylfaenol, eilaidd a
chymunedol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn
y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.Yn nodi galwadau gan Gymdeithas Feddygol Prydain
am ymchwiliad annibynnol llawn i wasanaethau'r GIG yng Nghymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad o'r fath cyn gynted â phosibl. 2.Yn gresynu at doriadau parhaus Llywodraeth y DU i
wariant cyhoeddus a'r effaith ar fuddsoddi yn ein GIG.
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i
ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5571
Elin Jones (Ceredigion) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y dylai'r berthynas rhwng cenhedloedd yr
ynysoedd hyn newid yn dilyn y refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban; 2. Yn credu bod pobl Cymru yn sofran ac mai nhw ddylai benderfynu
ar natur a chyflymder datblygiadau cyfansoddiadol yn y wlad hon; a 3. Yn galw ar y Prif Weinidog i ddechrau trafodaethau
gyda Llywodraeth y DU ar unwaith i hwyluso'r broses o drosglwyddo cyfrifoldeb
dros swyddogaethau i Gymru, er mwyn ail-gydbwyso pwerau rhwng y cenhedloedd. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn croesawu'n fawr benderfyniad diamwys yr Alban i
bleidleisio yn erbyn annibyniaeth ac yn edrych ymlaen at weithio gyda phob rhan
o'r Deyrnas Unedig i greu undeb cryfach at y dyfodol. [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant
2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg), Aled Roberts (Gogledd Cymru): Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le: 1. Yn croesawu'r ffaith fod pobl yr Alban wedi dewis aros
yn aelod o deulu cenhedloedd y Deyrnas Unedig; 2. Yn credu bod yn rhaid inni hyrwyddo undeb newydd ar
gyfer holl bobl y DU, gan gynnwys Cymru; a 3. Yn galw am weithredu ar fyrder Rannau 1 a 2 o'r Comisiwn
ar Ddatganoli yng Nghymru a sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws y DU i
ddrafftio cynllun ar gyfer undeb newydd. Mae Rhan 1 o adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng
Nghymru i'w gweld drwy ddilyn y linc hwn: http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/files/2012/11/Welsh-WEB-main-report.pdf Mae Rhan 2 o adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng
Nghymru i'w gweld drwy ddilyn y linc hwn: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.14 NDM5571 Elin Jones
(Ceredigion) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y dylai'r berthynas rhwng cenhedloedd
yr ynysoedd hyn newid yn dilyn y refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban; 2. Yn credu bod pobl Cymru yn sofran ac mai nhw
ddylai benderfynu ar natur a chyflymder datblygiadau cyfansoddiadol yn y wlad
hon; a 3. Yn galw ar y Prif Weinidog i ddechrau
trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar unwaith i hwyluso'r broses o drosglwyddo
cyfrifoldeb dros swyddogaethau i Gymru, er mwyn ail-gydbwyso pwerau rhwng y
cenhedloedd. Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro): Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn croesawu'n fawr benderfyniad diamwys yr Alban i bleidleisio
yn erbyn annibyniaeth ac yn edrych ymlaen at weithio gyda phob rhan o'r Deyrnas
Unedig i greu undeb cryfach at y dyfodol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro
Morgannwg), Aled Roberts (Gogledd Cymru): Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le: 1. Yn croesawu'r ffaith fod pobl yr Alban wedi
dewis aros yn aelod o deulu cenhedloedd y Deyrnas Unedig; 2. Yn credu bod yn rhaid inni hyrwyddo undeb newydd
ar gyfer holl bobl y DU, gan gynnwys Cymru; a 3. Yn galw am weithredu ar fyrder Rannau 1 a 2 o'r
Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws
y DU i ddrafftio cynllun ar gyfer undeb newydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5571 Elin Jones
(Ceredigion) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu'r ffaith fod pobl yr Alban wedi
dewis aros yn aelod o deulu cenhedloedd y Deyrnas Unedig; 2. Yn credu bod yn rhaid inni hyrwyddo undeb newydd
ar gyfer holl bobl y DU, gan gynnwys Cymru; a 3. Yn galw am weithredu ar fyrder Rannau 1 a 2 o'r
Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws
y DU i ddrafftio cynllun ar gyfer undeb newydd.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i
ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5574
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu'r ffaith yr oedd pobl 16 a 17 oed yn gallu
pleidleisio yn y refferendwm diweddar ar annibyniaeth yr Alban, sef y tro cyntaf
iddynt gael gwneud hynny mewn etholiad arwyddocaol yn y Deyrnas Unedig; 2. Yn cydnabod pwysigrwydd grymuso pobl ifanc yng Nghymru
i ymgysylltu â gwleidyddiaeth a chyfrannu eu safbwyntiau a'u syniadau i helpu i
lunio'r cymunedau lle y maent yn byw; 3. Yn nodi adroddiad y Comisiwn Etholiadol yn 2014 a
ganfu nad yw 49% o bobl rhwng 16 a 17 oed yn y DU wedi cofrestru i bleidleisio
ac yn credu bod angen gwneud mwy i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn
democratiaeth; a 4. Yn croesawu'r camau sy'n cael eu cynnig drwy Fil
Cofrestru Pleidleiswyr y DU i gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn
gwleidyddiaeth drwy rymuso swyddogion cofrestru etholiadol yng Nghymru i wella
prosesau rhannu data a chynyddu nifer y bobl sydd wedi cofrestru o grwpiau sydd
heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae'r adroddiad 'The quality of the 2014 electoral
registers in Great Britain' ar gael yma: http://www.electoralcommission.org.uk/__data/assets/pdf_file/0005/169889/Completeness-and-accuracy-of-the-2014-electoral-registers-in-Great-Britain.pdf
(Saesneg yn unig) Mae'r Bil Cofrestru Pleidleiswyr [HL] 2014-15 ar gael
yma: http://services.parliament.uk/bills/2014-15/voterregistration.html
(Saesneg yn unig) Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y gwaith y mae'r Ddraig Ffynci wedi'i wneud
dros nifer o flynyddoedd i gynyddu cyfranogiad pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth
ac yn credu y dylai Llywodraeth Cymru adfer y cyllid hwn. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.05 NDM5574 Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu'r ffaith yr oedd pobl 16 a 17 oed yn
gallu pleidleisio yn y refferendwm diweddar ar annibyniaeth yr Alban, sef y tro
cyntaf iddynt gael gwneud hynny mewn etholiad arwyddocaol yn y Deyrnas Unedig; 2. Yn cydnabod pwysigrwydd grymuso pobl ifanc yng
Nghymru i ymgysylltu â gwleidyddiaeth a chyfrannu eu safbwyntiau a'u syniadau i
helpu i lunio'r cymunedau lle y maent yn byw; 3. Yn nodi adroddiad y Comisiwn Etholiadol yn 2014
a ganfu nad yw 49% o bobl rhwng 16 a 17 oed yn y DU wedi cofrestru i
bleidleisio ac yn credu bod angen gwneud mwy i annog pobl ifanc i gymryd rhan
mewn democratiaeth; a 4. Yn croesawu'r camau sy'n cael eu cynnig drwy Fil
Cofrestru Pleidleiswyr y DU i gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn
gwleidyddiaeth drwy rymuso swyddogion cofrestru etholiadol yng Nghymru i wella
prosesau rhannu data a chynyddu nifer y bobl sydd wedi cofrestru o grwpiau sydd
heb gynrychiolaeth ddigonol. Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17.54 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5573
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru) Ansawdd mynediad - pwysigrwydd gofal plant o ran sicrhau
bod teuluoedd incwm isel neu deuluoedd un rhiant yn gallu cael mynediad i'r
gweithle Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.59 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol:
|