Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad gan y Llywydd Gwnaeth y Llywydd ddatganiad i
nodi milfed Cyfarfod Llawn y Cynulliad ers ei sefydlu ym 1999. Dywedodd y
Llywydd fod y Cynulliad heddiw yn sefydliad gwahanol iawn i’r un a gyfarfu
gyntaf bymtheg mlynedd yn ôl, yn enwedig gan ein bod wedi cael pwerau deddfu
ers 2011. Dywedodd y Llywydd hefyd ei
bod yn gobeithio y bydd llawer o newidiadau eraill i’r Cynulliad, dros gyfnod y
mil nesaf o gyfarfodydd, gan gynnwys setliad sy’n gliriach ac yn haws ei
ddeall, mwy o reolaeth gan y Cynulliad dros ei faterion a’i weithdrefnau mewnol
ei hun, a chynnud yn nifer yr Aelodau i adlewyrchu cyfrifoldebau ehangach y
Cynulliad. |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.31 Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.16 Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 5 a 7 eu grwpio.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.00 Gofynnwyd y ddau gwestiwn. |
|||||||||
(30 munud) |
Cynnig i ddiddymu Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) (Dirymu) 2014 NNDM5582
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 27.2: Yn cytuno bod Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd)
a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) (Dirymu) 2014, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar
18 Gorffennaf, yn cael eu dirymu. Dogfennau
ategol: Rheoliadau
Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) (Dirymu) 2014 Memorandwm
Esboniadol (Saesneg yn unig) Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.05 NNDM5582 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2: Yn cytuno bod Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i
Fyfyrwyr (Cymru) (Dirymu) 2014, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 18 Gorffennaf
2014, yn cael eu dirymu. Tynnwyd y cynnig yn ôl yn unol â Rheol
Sefydlog12.27. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ynghylch yr arferion gorau o ran y gyllideb NDM5591
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i’r
arferion gorau o ran y gyllideb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24
Gorffennaf 2014. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2014 Dogfennau
Atodol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.13 NDM5591 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i’r arferion gorau o
ran y gyllideb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Gorffennaf 2014. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch gwasanaethau orthodontig yng Nghymru NDM5590
David Rees (Aberafan) Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ar wasanaethau orthodontig yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15
Gorffennaf 2014. Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2014. Dogfennau
Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.48 NDM5590 David Rees (Aberafan) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar wasanaethau
orthodontig yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Gorffennaf 2014. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5593
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru, ynghyd â
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, wedi sicrhau £95 miliwn o gyllid ychwanegol
dros ddwy flynedd ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion yn y gyllideb newydd. 2. Yn croesawu bod cyllid hefyd wedi cael ei ymestyn i
gynnwys Premiwm Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer plant o dan 5 oed. 3. Yn cydnabod bod y cytundeb cyllidebol dwy flynedd yn
helpu i fynd i'r afael â'r pryderon a fynegwyd gan ysgolion ym mlynyddoedd
blaenorol y cynllun o ran sicrhau bod cyllid yn parhau. 4. Yn cydnabod pwysigrwydd y ddau gynllun o ran helpu i
dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol ac o ran cau'r bwlch
cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a chefndiroedd mwy
breintiedig. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: 1.
Yn nodi'r toriad mewn termau real o £56 miliwn yng nghyllideb addysg y flwyddyn
hon sy'n cynnwys toriadau o £5 miliwn i'r Grant Effeithiolrwydd Ysgolion a
£10.7 miliwn i'r cynllun prentisiaeth Recriwtiaid Newydd. 2.
Yn nodi toriadau pellach o £26.4 miliwn i addysg yn y gyllideb ddrafft o'i
chymharu â'r gyllideb atodol ar gyfer mis Mehefin 2014. 3.
Yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi mynd yn groes i ysbryd cytundebau blaenorol
ar gyllidebau ac yn gwrthod y syniad o dincera â'r gyllideb tra bod diffygion
sylfaenol yn parhau. Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
nodi nad oes gwerthusiad ffurfiol o'r Grant Amddifadedd Disgyblion ar gael eto. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.24 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5593 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru, ynghyd â Democratiaid Rhyddfrydol
Cymru, wedi sicrhau £95 miliwn o gyllid ychwanegol dros ddwy flynedd ar gyfer y
Grant Amddifadedd Disgyblion yn y gyllideb newydd. 2. Yn croesawu bod cyllid hefyd wedi cael ei ymestyn i gynnwys Premiwm
Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer plant o dan 5 oed. 3. Yn cydnabod bod y cytundeb cyllidebol dwy flynedd yn helpu i fynd i'r
afael â'r pryderon a fynegwyd gan ysgolion ym mlynyddoedd blaenorol y cynllun o
ran sicrhau bod cyllid yn parhau. 4. Yn cydnabod pwysigrwydd y ddau gynllun o ran helpu i dorri'r
cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol ac o ran cau'r bwlch cyrhaeddiad
rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a chefndiroedd mwy breintiedig.
Derbyniwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.23 |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5594
Keith Davies (Llanelli) Adfywio Trefol 2.0 - Creu cymunedau trefol a chanol trefi
cynaliadwy Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.24 NDM5594 Keith Davies
(Llanelli) Adfywio Trefol 2.0 - Creu cymunedau trefol a chanol trefi cynaliadwy. |
|||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |