Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 5 gan y Dirprwy Weinidog
Sgiliau a Thechnoleg. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.20 Gofynnwyd y 14 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. Trosglwyddwyd cwestiwn 15 i’w
ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015/16 NDM5621
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 20.16: Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer
2015-16, fel y pennir yn Nhabl 1 "Cynigion Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol
Cymru 2015-16", a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 12 Tachwedd 2014 a'i bod
yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog
20.26(ii). Dogfennau
Ategol: Dogfen
Cyllideb Comisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.05 NDM5621 Rosemary Butler
(Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015-16, fel y
pennir yn Nhabl 1 "Cynigion Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2015-16", a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 12 Tachwedd 2014 a'i bod yn
cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog
20.26(ii). Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5624
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae pobl hŷn
yn ei wneud i les cymdeithasol ac economaidd Cymru a phwysigrwydd sicrhau bod
hawliau pobl hŷn yn cael eu hadlewyrchu mewn polisïau a deddfwriaeth
Llywodraeth Cymru. 2. Yn nodi cyhoeddi'r ddogfen 'Lle i'w Alw'n Gartref',
adolygiad gan y Comisiynydd Pobl Hŷn o ofal pobl hŷn sy'n byw mewn
cartrefi gofal yng Nghymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r
Comisiynydd Pobl Hŷn i fwrw ymlaen â'r argymhellion yn yr adolygiad. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu a nodi gofynion
hyfforddiant sylfaenol ar gyfer gweithwyr cartref gofal sy'n ymgorffori
egwyddorion urddas a pharch. Mae'r ddogfen 'Lle i'w Alw'n Gartref' ar gael yn: Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi bod cyfran gynyddol o bobl yng Nghymru dros 65
oed ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cynllunio ar gyfer iechyd a
gwasanaethau cymdeithasol yn rhoi ystyriaeth i hyn. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag amodau a
chyflog isel a gwella cyfleoedd hyfforddiant a gyrfa i weithwyr mewn cartrefi
gofal. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.14 NDM5624 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae pobl hŷn yn ei wneud i
les cymdeithasol ac economaidd Cymru a phwysigrwydd sicrhau bod hawliau pobl
hŷn yn cael eu hadlewyrchu mewn polisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.
2. Yn nodi cyhoeddi'r ddogfen 'Lle i'w Alw'n Gartref', adolygiad gan y
Comisiynydd Pobl Hŷn o ofal pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yng
Nghymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiynydd Pobl
Hŷn i fwrw ymlaen â'r argymhellion yn yr adolygiad. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu a nodi gofynion hyfforddiant
sylfaenol ar gyfer gweithwyr cartref gofal sy'n ymgorffori egwyddorion urddas a
pharch. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5622
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod costau cyfleustodau yn annerbyniol o
uchel ac yn nodi'r anawsterau penodol y mae hyn yn eu hachosi ar gyfer
cymunedau gwledig, busnesau, a'r rhai ar incwm isel. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun
gweithredu i liniaru costau cyfleustodau uchel. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi'r gronfa 'Cheaper Energy Together' a lansiwyd gan
Adran Llywodraeth y DU ar Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) i gefnogi newid
cyflenwyr ar y cyd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda DECC i
hyrwyddo newid cyflenwyr ar y cyd ledled Cymru i leihau biliau defnyddwyr. Mae manylion y gronfa 'Cheaper Energy Together' ar gael
yn: https://www.gov.uk/collective-switching-and-purchasing (Saesneg yn unig) Gwelliant
2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn galw ar Lywodraeth y DU i rewi prisiau ynni. Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar gostau cysylltiad
â'r grid a'u heffaith ar filiau cyfleustodau, yn enwedig mewn ardaloedd
gwledig. Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i'r Grid
Cenedlaethol i sicrhau ei fod yn edrych ar Gymru yn ei chyfanrwydd wrth gyfrifo
sut y mae trydan yn cael ei allforio pan gaiff cyfrifiadau prisio eu gwneud er
mwyn sicrhau gwerth am arian i ddefnyddwyr. Gwelliant
5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pa mor agored i
gynnydd mewn prisiau y mae cwsmeriaid nad ydynt ar y grid, lle mae opsiynau ar
gyfer newid yn gyfyngedig, neu lle nad yw marchnadoedd yn cael eu rheoleiddio. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.14 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5622
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod costau cyfleustodau yn annerbyniol o
uchel ac yn nodi'r anawsterau penodol y mae hyn yn eu hachosi ar gyfer
cymunedau gwledig, busnesau, a'r rhai ar incwm isel. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun
gweithredu i liniaru costau cyfleustodau uchel.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi'r gronfa 'Cheaper Energy Together' a lansiwyd gan
Adran Llywodraeth y DU ar Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) i gefnogi newid
cyflenwyr ar y cyd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda DECC i
hyrwyddo newid cyflenwyr ar y cyd ledled Cymru i leihau biliau defnyddwyr. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn galw ar Lywodraeth y DU i rewi prisiau ynni. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar gostau cysylltiad
â'r grid a'u heffaith ar filiau cyfleustodau, yn enwedig mewn ardaloedd
gwledig. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno
sylwadau i'r Grid Cenedlaethol i sicrhau ei fod yn edrych ar Gymru yn ei
chyfanrwydd wrth gyfrifo sut y mae trydan yn cael ei allforio pan gaiff
cyfrifiadau prisio eu gwneud er mwyn sicrhau gwerth am arian i ddefnyddwyr. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried
pa mor agored i gynnydd mewn prisiau y mae cwsmeriaid nad ydynt ar y grid, lle
mae opsiynau ar gyfer newid yn gyfyngedig, neu lle nad yw marchnadoedd yn cael
eu rheoleiddio. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5622
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod costau cyfleustodau yn annerbyniol o uchel
ac yn nodi'r anawsterau penodol y mae hyn yn eu hachosi ar gyfer cymunedau
gwledig, busnesau, a'r rhai ar incwm isel. 2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i rewi prisiau ynni. 3. Yn nodi'r gronfa 'Cheaper Energy Together' a lansiwyd
gan Adran Llywodraeth y DU ar Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) i gefnogi newid
cyflenwyr ar y cyd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda DECC i
hyrwyddo newid cyflenwyr ar y cyd ledled Cymru i leihau biliau defnyddwyr. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu
i liniaru costau cyfleustodau uchel. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar gostau
cysylltiad â'r grid a'u heffaith ar filiau cyfleustodau, yn enwedig mewn
ardaloedd gwledig. 6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i'r Grid Cenedlaethol i sicrhau ei fod yn
edrych ar Gymru yn ei chyfanrwydd wrth gyfrifo sut y mae trydan yn cael ei
allforio pan gaiff cyfrifiadau prisio eu gwneud er mwyn sicrhau gwerth am arian
i ddefnyddwyr. 7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ystyried pa mor agored i gynnydd mewn prisiau y mae cwsmeriaid nad ydynt ar y
grid, lle mae opsiynau ar gyfer newid yn gyfyngedig, neu lle nad yw
marchnadoedd yn cael eu rheoleiddio.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5623
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod pobl drawsryweddol yng Nghymru ymhlith
y rhai mwyaf agored i arwahanrwydd cymdeithasol a rhagfarn. 2. Yn nodi bod y ddarpariaeth o wasanaethau ar gyfer y
gymuned drawsryweddol yng Nghymru yn annigonol mewn nifer o feysydd, gan
gynnwys cyflogaeth, hyfforddiant, gofal iechyd a thai. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) pennu Gweinidog i gymryd cyfrifoldeb am y materion y
mae'r gymuned drawsryweddol yn eu hwynebu; b) llunio cynllun gweithredu ar gyfer canfod rhagfarn
sefydliadol, gwella mynediad at wasanaethau cyhoeddus a mynd i'r afael â stigma
cymdeithasol, aflonyddu a bwlio ar gyfer y grŵp hwn; ac c) adrodd yn ôl i'r Cynulliad o fewn 6 mis i'r dyddiad y
caiff y Gweinidog ei benodi. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3: "codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o droseddau casineb yn
erbyn pobl drawsryweddol, er mwyn annog dioddefwyr i roi gwybod am achosion o'r
fath." Gwelliant
2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3: "sicrhau bod pobl drawsryweddol sy'n dioddef
troseddau casineb yn cael mynediad at wasanaethau cymorth cynhwysfawr a hawdd
eu cyrraedd." Gwelliant
3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gweithio gyda grwpiau LGBT a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu
i sicrhau bod yr heddlu yn cymryd troseddau casineb yn erbyn pobl drawsryweddol
o ddifrif a bod dioddefwyr yn teimlo eu bod yn gallu rhoi gwybod am droseddau
a'u bod yn cael eu cefnogi drwy'r broses cyfiawnder troseddol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.11 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5623
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod pobl drawsryweddol yng Nghymru ymhlith
y rhai mwyaf agored i arwahanrwydd cymdeithasol a rhagfarn. 2. Yn nodi bod y ddarpariaeth o wasanaethau ar gyfer y
gymuned drawsryweddol yng Nghymru yn annigonol mewn nifer o feysydd, gan
gynnwys cyflogaeth, hyfforddiant, gofal iechyd a thai. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) pennu Gweinidog i gymryd cyfrifoldeb am y materion y
mae'r gymuned drawsryweddol yn eu hwynebu; b) llunio cynllun gweithredu ar gyfer canfod rhagfarn
sefydliadol, gwella mynediad at wasanaethau cyhoeddus a mynd i'r afael â stigma
cymdeithasol, aflonyddu a bwlio ar gyfer y grŵp hwn; ac c) adrodd yn ôl i'r Cynulliad o fewn 6 mis i'r dyddiad y
caiff y Gweinidog ei benodi.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.58 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer - Gohiriwyd |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol:
|