Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1
– 5, 7 a 9 - 11. Tynnwyd cwestiynau 6 ac 8 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 1, 3, 4,
9, 10 ac 11 gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn
2. Ar ôl cwestiwn 10 croesawodd y Llywydd ddirprwyaeth o
Senedd Gwlad yr Iorddonen, a oedd yn yr Oriel Gyhoeddus. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
14.16 Gofynnwyd y 12
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys 1 Dechreuodd yr eitem am
15.01 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaeth meddygon
teulu y tu allan i oriau arferol yng ngogledd Cymru, yn sgil adroddiad a nododd
bryderon ynghylch pa mor ddiogel ydyw? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys 2 Dechreuodd yr eitem am
15.21 Eluned
Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adnewyddu rhaglen Twf
Swydd Cymru, yn sgil y cyhoeddiad heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i’w
hariannu? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd NDM5756
David Rees (Aberafan) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ar ei ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 18 Mawrth 2015. Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mai 2015. Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.35 NDM5756
David Rees (Aberafan) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ar ei ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 18 Mawrth 2015. Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5755
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod manteision digwyddiadau chwaraeon mawr yng
Nghymru; 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati'n weithredol i
wneud cais ar gyfer Gemau'r Gymanwlad; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y gwneir y gorau
o fanteision i iechyd y cyhoedd, twristiaeth a'r economi yn ystod Cwpan Rygbi'r
Byd. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 2, ar
ôl 'Gemau'r Gymanwlad' mewnosod 'a'r Tour de France'. Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod
cyfleusterau sefyll diogel mewn stadia yn creu awyrgylch gwell mewn
digwyddiadau mawr ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Awdurdod
Diogelwch Meysydd Chwaraeon i baratoi canllawiau y gellir cyflwyno ardaloedd
sefyll diogel oddi tanynt. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.21 NDM5755
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod manteision digwyddiadau chwaraeon mawr yng
Nghymru; 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati'n weithredol i
wneud cais ar gyfer Gemau'r Gymanwlad; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y gwneir y gorau
o fanteision i iechyd y cyhoedd, twristiaeth a'r economi yn ystod Cwpan Rygbi'r
Byd. Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5759
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod nad yw fformiwla gyllido Barnett er budd
pennaf Cymru; 2. Yn nodi pe bai Cymru'n cael ei hariannu ar yr un sail
â'r Alban fesul pen o'r boblogaeth, byddai'n cael £1.2 biliwn ychwanegol bob
blwyddyn; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddadlau'r achos o blaid cyllido
Cymru ar yr un sail â'r Alban. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu popeth a
rhoi yn ei le: 1. Yn cydnabod
canfyddiadau Comisiwn Holtham fod fformiwla Barnett yn tanwario ar Gymru o ryw
£300 miliwn y flwyddyn; 2. Yn credu y
dylai Cymru gael ei hariannu'n deg; 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i: a) comisiynu
diweddariad o ddadansoddiad Comisiwn Holtham; b) sefydlu llawr
Barnett ar unwaith; ac c) cynyddu'r
grant bloc i lefel teg i sicrhau cyllid teg i Gymru. [os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a
5 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 2 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwyntiau 2
a 3 ac yn eu lle rhoi: 2. Yn nodi bod
astudiaethau wedi dod i'r casgliad dro ar ôl tro nad yw Cymru'n cael ei
chyllido'n unol â'r angen. 3. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i sicrhau bod Cymru yn cael ei chyllido'n deg drwy weithredu terfyn
ariannu isaf sy'n cael cefnogaeth drawsbleidiol. [os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3 a 5
yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 2 a
rhoi yn ei le: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gynnal adolygiad ar y cyd i asesu
anghenion cyllido Cymru. Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnwys pwynt 3
newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn croesawu cytundeb
Dydd Gŵyl Dewi a'r cynlluniau ar gyfer cyllid gwaelodol ar gyfer Cymru. Gwelliant 5 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ym mhwynt 3,
dileu ' yr un sail â'r Alban' a rhoi yn ei le 'sail angen, nid y boblogaeth'. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.20 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5759
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod nad yw fformiwla gyllido Barnett er budd
pennaf Cymru; 2. Yn nodi pe bai Cymru'n cael ei hariannu ar yr un sail
â'r Alban fesul pen o'r boblogaeth, byddai'n cael £1.2 biliwn ychwanegol bob
blwyddyn; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddadlau'r achos o blaid
cyllido Cymru ar yr un sail â'r Alban.
Gwrthodwyd y Cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu popeth a
rhoi yn ei le: 1. Yn cydnabod
canfyddiadau Comisiwn Holtham fod fformiwla Barnett yn tanwario ar Gymru o ryw
£300 miliwn y flwyddyn; 2. Yn credu y
dylai Cymru gael ei hariannu'n deg; 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i: a) comisiynu
diweddariad o ddadansoddiad Comisiwn Holtham; b) sefydlu llawr
Barnett ar unwaith; ac c) cynyddu'r grant
bloc i lefel teg i sicrhau cyllid teg i Gymru. Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
Gwrthodwyd Gwelliant 1. Gwelliant 2 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwyntiau 2 a
3 ac yn eu lle rhoi: 2. Yn nodi bod
astudiaethau wedi dod i'r casgliad dro ar ôl tro nad yw Cymru'n cael ei
chyllido'n unol â'r angen. 3. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn cael ei chyllido'n deg drwy weithredu
terfyn ariannu isaf sy'n cael cefnogaeth drawsbleidiol.
Derbyniwyd Gwelliant 2. Derbyniwyd gwelliant 2, felly cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnwys pwynt 3
newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn croesawu
cytundeb Dydd Gŵyl Dewi a'r
cynlluniau ar gyfer cyllid gwaelodol ar gyfer Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
Gwrthodwyd Gwelliant 4. Derbyniwyd gwelliant 2, felly cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5759
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod nad yw fformiwla gyllido Barnett er budd
pennaf Cymru; 2. Yn nodi bod
astudiaethau wedi dod i'r casgliad dro ar ôl tro nad yw Cymru'n cael ei
chyllido'n unol â'r angen. 3. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i sicrhau bod Cymru yn cael ei chyllido'n deg drwy weithredu terfyn
ariannu isaf sy'n cael cefnogaeth drawsbleidiol.
Derbyniwyd y Cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.21 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5758
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) Addysg heblaw yn yr ysgol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.24 NDM5758
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) Addysg heblaw yn yr ysgol |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |