Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd y 6
chwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 4 a 5 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 muned) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Tynnwyd y cwestiwn yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 muned) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. Penderfyniad: Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(120 muned) |
Dadl ar Araith y Frenhines NDM5792 Rosemary Butler
(Gorllewin Casnewydd) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU 2015/2016. Rhaglen
ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU (ar gael yn Saesneg yn unig): https://www.gov.uk/government/topical-events/queens-speech-2015 Dogfennau ategol: Datganiad
Ysgrifenedig yr Ysgrifennydd Gwladol Gwybodaeth
am y Biliau Seneddol yn Araith y Frenhines a ddarparwyd gan Swyddfa Cymru,
Mehefin 2015 Llythyr
gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu at y ffaith nad yw'r Bil Cymru arfaethedig yn gweithredu yn llawn
argymhellion y Comisiwn Silk trawsbleidiol ac yn galw ar Lywodraeth y DU i
weithredu’r argymhellion llawn heb oedi. Gwelliant 2 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
nodi â phryder ddychweliad y Bil Pwerau Ymchwilio, ffurf newydd ar y siarter
fusnesu, fel y'i gelwir, a gafodd ei rwystro'n rheolaidd gan y Democratiaid
Rhyddfrydol yn ystod Llywodraeth Glymblaid y DU; ac yn gwrthwynebu Llywodraeth
y DU yn cael pwerau i fonitro data cyfathrebu unigolion. Gwelliant 3 – Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu at y ffaith nad yw Bil Cymru arfaethedig Llywodraeth y DU yn mynd mor
bell â chynnig pwerau tebyg i'r rhai sydd ar gael i'r Alban, neu sy'n cael eu
cynnig i'r Alban. Gwelliant 4 – Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu at fwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion i ddiddymu Deddf Hawliau
Dynol 1998. Gwelliant 5 – Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU yn gwrthod cymal mwyafrif dwbl ym Mil
Refferendwm yr UE a'r penderfyniad i atal pobl 16 a 17 oed rhag pleidleisio yn
y refferendwm hwnnw. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.17 Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15
(i), penderfynodd y Pwyllgor Busnes y byddai unrhyw bleidlais angenrheidiol yn
digwydd ar ôl y ddadl. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU
2015/2016.
Gwelliant
1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith nad yw'r Bil Cymru arfaethedig yn
gweithredu yn llawn argymhellion y Comisiwn Silk trawsbleidiol ac yn galw ar
Lywodraeth y DU i weithredu’r argymhellion llawn heb oedi.
Derbyniwyd Gwelliant 1. Gwelliant
2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi â phryder ddychweliad y Bil Pwerau Ymchwilio,
ffurf newydd ar y siarter fusnesu, fel y'i gelwir, a gafodd ei rwystro'n
rheolaidd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn ystod Llywodraeth Glymblaid y DU;
ac yn gwrthwynebu Llywodraeth y DU yn cael pwerau i fonitro data cyfathrebu
unigolion.
Gwrthodwyd Gwelliant 2. Gwelliant
3 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith nad yw Bil Cymru arfaethedig
Llywodraeth y DU yn mynd mor bell â chynnig pwerau tebyg i'r rhai sydd ar gael
i'r Alban, neu sy'n cael eu cynnig i'r Alban.
Derbyniwyd Gwelliant 3. Gwelliant
4 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at fwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion
i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998.
Derbyniwyd Gwelliant 4. Gwelliant
5 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU yn gwrthod
cymal mwyafrif dwbl ym Mil Refferendwm yr UE a'r penderfyniad i atal pobl 16 a
17 oed rhag pleidleisio yn y refferendwm hwnnw.
Gwrthodwyd Gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5792
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y
DU 2015/2016. 2. Yn gresynu at y ffaith nad yw'r Bil Cymru arfaethedig
yn gweithredu yn llawn argymhellion y Comisiwn Silk trawsbleidiol ac yn galw ar
Lywodraeth y DU i weithredu’r argymhellion llawn heb oedi. 3. Yn gresynu at y ffaith nad yw Bil Cymru arfaethedig
Llywodraeth y DU yn mynd mor bell â chynnig pwerau tebyg i'r rhai sydd ar gael
i'r Alban, neu sy'n cael eu cynnig i'r Alban. 4. Yn gresynu at fwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno
cynigion i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998.
Derbyniwyd y Cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5790
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod gwerth darlledu neilltuol yn yr iaith
Gymraeg a chyfraniad pwysig S4C o ran diogelu ein hiaith Gymraeg a chyfoethogi
diwylliant Cymru; 2. Yn gwrthwynebu unrhyw doriadau pellach yng nghyllid
S4C gan Adran Llywodraeth y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a
allai fygwth dyfodol y sianel hon; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i
Lywodraeth y DU am bwysigrwydd cynnal annibyniaeth olygyddol, reolaethol a
gweithredol S4C a'r angen am sail cyllid cynaliadwy i ddiogelu dyfodol darlledu
yn yr iaith Gymraeg. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn gwrthwynebu unrhyw doriadau i gyllid S4C gan Adran
Llywodraeth y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn ystod senedd
bresennol y DU. Gwelliant
2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu mesurau sy'n cynyddu atebolrwydd S4C, yn
ogystal â darlledwyr cyhoeddus eraill yng Nghymru, i'r Cynulliad Cenedlaethol
a'r ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i gryfhau'r atebolrwydd hwnnw, fel y nodir yn
nogfen Dydd Gŵyl Dewi, 'Pwerau at bwrpas'. Mae Pwerau at Bwrpas: Tuag at Setliad Datganoli sy'n Para
i Gymru ar gael yn: Gwelliant
3 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am ddatganoli cyfrifoldeb llawn dros S4C a'i
chyllid. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.17 NDM5790 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod gwerth darlledu
neilltuol yn yr iaith Gymraeg a chyfraniad pwysig S4C o ran diogelu ein hiaith
Gymraeg a chyfoethogi diwylliant Cymru; 2. Yn gwrthwynebu unrhyw
doriadau pellach yng nghyllid S4C gan Adran Llywodraeth y DU dros Ddiwylliant,
y Cyfryngau a Chwaraeon, a allai fygwth dyfodol y sianel hon; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU am bwysigrwydd cynnal annibyniaeth
olygyddol, reolaethol a gweithredol S4C a'r angen am sail cyllid cynaliadwy i
ddiogelu dyfodol darlledu yn yr iaith Gymraeg.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Nid oedd cyfnod pleidleisio. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 muned) |
Dadl Fer - Gohiriwyd tan 7 Gorffennaf 2015 NDM5793
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Hofrennydd heddlu Dyfed-Powys: pam mae'r X99 yn darparu
cefnogaeth hanfodol i ddiogelwch y cyhoedd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Penderfyniad: NDM5793 William Powell (Canolbarth a Gorllewin
Cymru) Hofrennydd heddlu Dyfed-Powys: pam mae'r X99 yn
darparu cefnogaeth hanfodol i ddiogelwch y cyhoedd yng Nghanolbarth a Gorllewin
Cymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |