Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Penderfyniad: Gofynnwyd y 11 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 8 a chwestiwn 10 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Penderfyniad: Gofynnwyd y 15 cwestiwn. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i sefydlu pwyllgor i ystyried offerynnau statudol. NDM4733 Rosemary Butler (Gorllewin
Casnewydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol
â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor
Offerynnau Statudol i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir
yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3 ac i ystyried
unrhyw faterion eraill yn ymwneud
â deddfwriaeth, ar wahân i’r swyddogaethau
angenrheidiol yn ôl Rheol Sefydlog
26, a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes. Penderfyniad: Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Aelodau i'r Pwyllgor Offerynnau Statudol NNDM4738 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn
ethol: 1. Julie James (Llafur), David Melding (Ceidwadwyr Cymreig), Simon Thomas
(Plaid Cymru) a Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelodau o’r
Pwyllgor Offerynnau Statudol; a 2. David Melding yn Gadeirydd y Pwyllgor Offerynnau Statudol. Penderfyniad: Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i sefydlu pwyllgor i ystyried deisebau a gyflwynir i'r Cynulliad NDM4732 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
16.1, yn sefydlu Pwyllgor Deisebau i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir
yn Rheol Sefydlog 23. Penderfyniad: Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Aelodau i'r Pwyllgor Deisebau NNDM4737 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn
ethol: 1. Christine Chapman (Llafur), Russell George (Ceidwadwyr Cymreig), Bethan
Jenkins (Plaid Cymru) a William Powell (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn
aelodau o’r Pwyllgor Deisebau; a 2. Christine Chapman yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Penderfyniad: Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4735 Nick
Ramsay (Mynwy) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithredu i fynd i’r afael â’r
pryderon a godwyd yn adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn
“Gofal gydag Urddas?” Mae copi o Gofal gydag Urddas ar
gael yn: http://www.olderpeoplewales.com/wl/Reviews/dignity-and-respect/Hospital-review.aspx Penderfyniad: Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4734 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen lywodraethu lawn a manwl ar gyfer
tymor 5 mlynedd nesaf y Cynulliad. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ar ôl ‘tymor 5 mlynedd
nesaf y Cynulliad’, ychwanegu ‘a rhoi cyfle i'r Cynulliad
drafod y rhaglen’. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddarparu’r wybodaeth
ddiweddaraf yn rheolaidd, gan gynnwys manylion canlyniadau y gellir eu mesur, er
mwyn dangos y cynnydd a wneir wrth roi ei
rhaglen gyflenwi ar waith. Penderfyniad: Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM4734
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen lywodraethu lawn a manwl ar gyfer
tymor 5 mlynedd nesaf y Cynulliad. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM4736 Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pob dewis a fydd yn helpu i adeiladu economi gref i Gymru, gan gynnwys: (a) Cyflwyno Parthau Menter, a (b) Adeiladu ar gyhoeddiad ‘Cynllunio ar gyfer Adnewyddu Economaidd Cynaliadwy’ drwy gyflwyno proses Ariannu drwy Gynyddrannau Treth er mwyn i awdurdodau lleol allu ariannu prosiectau adnewyddu mawr drwy fenthyg yn erbyn yr incwm a grëir gan yr adnewyddu hwnnw yn y dyfodol. Mae
copi o ‘Cynllunio ar gyfer Adnewyddu
Economaidd Cynaliadwy’ ar gael drwy’r
ddolen ganlynol: Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd
pwynt 1: ceisio datganoli pwerau dros dreth
gorfforaeth ac amrywio treth er mwyn
galluogi’r llywodraeth i fynd i’r afael
â phroblemau strwythurol economi Cymru; parhau i weithredu Rhaglen Adnewyddu’r Economi: Cyfeiriad Newydd. Gellir gweld copi o ‘Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd’ yn: Gwelliant 2 - Nick Ramsay (Sir Fynwy) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig: Yn annog Llywodraeth Cymru i neilltuo symiau canlyniadol Fformiwla Barnett, a fydd yn deillio o greu
Parthau Menter yn Lloegr, i’r
Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth. Gwelliant 3 - Nick Ramsay (Sir Fynwy) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad am ddyfodol Rhaglen Adnewyddu’r Economi. Gellir gweld copi o ‘Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd’ yn: Penderfyniad: Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM4736 Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pob dewis a fydd yn helpu i adeiladu economi gref i Gymru, gan gynnwys: (a) Cyflwyno Parthau Menter, a (b) Adeiladu ar gyhoeddiad ‘Cynllunio ar gyfer Adnewyddu Economaidd Cynaliadwy’ drwy gyflwyno proses Ariannu drwy Gynyddrannau Treth er mwyn i awdurdodau lleol allu ariannu prosiectau adnewyddu mawr drwy fenthyg yn erbyn yr incwm a grëir gan yr adnewyddu hwnnw yn y dyfodol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |