Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau cyllid i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Penderfyniad:

Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Penderfyniad:

Gofynnwyd y 14 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiwn 9 ei drosglwyddo i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau.

Pwynt o drefn

Cododd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, bwynt o drefn dan Reol Sefydlog 13.9 yn gofyn i Antoinette Sandbach dynnu’n ôl sylwadau a wnaeth yn ystod cwestiynau nad oedd y Gweinidog wedi ymweld â Phrifysgol Glyndŵr ers iddo ddod yn Weinidog. Roedd y Gweinidog yn gwrthod y sylwadau. Caniataodd y Llywydd y pwynt o drefn a thynnodd Antoinette Sandbach ei sylwadau yn ôl.

 

 

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Y Comisiwn Ffiniau

Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog

NDM4758 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

 

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynigion o dan eitem 4 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher, 22 Mehefin 2011.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

(5 munud)

4.

Cynigion i sefydlu pwyllgorau

NNDM4749 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn y Rheol Sefydlog honno.

 

NNDM4750 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn y Rheol Sefydlog honno.

 

NNDM4751 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn y Rheol Sefydlog honno.

 

NNDM4752 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn y Rheol Sefydlog honno.

 

NNDM4753 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Menter a Busnes i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn y Rheol Sefydlog honno.

 

NNDM4754 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cyllid i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 19.

 

NNDM4755 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 18.

 

NNDM4756 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 22.

 

NNDM4757 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno bod y Pwyllgor Offerynnau Statudol a sefydlwyd ar 15 Mehefin 2011 yn cael ei ailenwi y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Cylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yw cyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol neu lywodraethol arall o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu mewn perthynas â’r rheini.

 

Penderfyniad:

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(5 munud)

5.

Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau

NNDM4759 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Joyce Watson (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau yn lle Christine Chapman (Llafur).

NNDM4760 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol William Powell (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

NNDM4761 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Antoinette Sandbach (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

NNDM4762 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

(i)     Christine Chapman (Llafur), Keith Davies (Llafur), Julie Morgan (Llafur), Lynne Neagle (Llafur), Jenny Rathbone (Llafur), Angela Burns (Ceidwadwyr Cymreig), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Jocelyn Davies (Plaid Cymru), Simon Thomas (Plaid Cymru) a Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc; a

(ii)   Christine Chapman yn Gadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.

NNDM4763 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

(i)     Mick Antoniw (Llafur), Rebecca Evans (Llafur), Vaughan Gething (Llafur), Julie James (Llafur), David Rees (Llafur), Antoinette Sandbach (Ceidwadwyr Cymreig), Russell George (Ceidwadwyr Cymreig), Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), Llyr Huws Gruffydd (Plaid Cymru) a William Powell (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)  yn aelodau o’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ; a

(ii)   Dafydd Elis-Thomas yn Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

NNDM4764 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

(i)     Mick Antoniw (Llafur), Mark Drakeford (Llafur), Rebecca Evans (Llafur), Vaughan Gething (Llafur), Lynne Neagle (Llafur), Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig), Elin Jones (Plaid Cymru), Lindsay Whittle (Plaid Cymru) a Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol; a

(ii)   Mark Drakeford yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

NNDM4765 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

(i)   Mike Hedges (Llafur), Ann Jones (Llafur), Gwyn Price (Llafur), Ken Skates (Llafur), Joyce Watson (Llafur), Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig), William Graham (Ceidwadwyr Cymreig), Bethan Jenkins (Plaid Cymru), Rhodri Glyn Thomas (Plaid Cymru) a Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)  yn aelodau o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol; a

(ii)   Ann Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

NNDM4766 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

(i)     Keith Davies (Llafur), Julie James (Llafur), David Rees (Llafur), Ken Skates (Llafur), Joyce Watson (Llafur), Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Byron Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Alun Ffred Jones (Plaid Cymru), Leanne Wood (Plaid Cymru) a William Powell (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)  yn aelodau o’r Pwyllgor Menter a Busnes; a

(ii)   Andrew RT Davies yn Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes.

NNDM4767 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

(i)   Christine Chapman (Llafur), Julie Morgan (Llafur), Ann Jones (Llafur), Mike Hedges (Llafur), Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig), Jocelyn Davies (Plaid Cymru), Ieuan Wyn Jones (Plaid Cymru) a Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Cyllid; a

(ii) Jocelyn Davies yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

NNDM4768 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

(i)   Mike Hedges (Llafur), Gwyn Price (Llafur), Jenny Rathbone (Llafur), Julie Morgan (Llafur), Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig), Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig), Leanne Wood (Plaid Cymru) a Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus; a

(ii)   Darren Millar yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

NNDM4769 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

(i)   Mick Antoniw (Llafur), Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig), Llyr Huws Gruffydd (Plaid Cymru) a Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad; a

(ii) Mick Antoniw yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

 

 

Penderfyniad:

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM4742 Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) Cynnal adolygiad cyhoeddus o Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8: Ynni Adnewyddadwy (2005) a ddylai gynnwys y goblygiadau o ran cludo, yr amgylchedd, iechyd ac adeiladu wrth roi’r arweiniad ar waith;

b) Cefnogi moratoriwm ar adeiladau pob datblygiad fferm wynt, ac eithrio cynlluniau microgynhyrchu a phrosiectau sydd â chefnogaeth glir gan y gymuned, yn yr Ardaloedd Chwilio Strategol tan i’r adolygiad o TAN 8 ddod i ben; ac

c) Hyrwyddo ystod eang o ffynonellau adnewyddadwy er mwyn lleihau effaith cynlluniau trydan adnewyddadwy unigol gymaint ag sy’n bosibl.

Mae copi o TAN 8 ar gael yn:

http://wales.gov.uk/topics/planning/policy/tans/tan8/?skip=1&lang=cy

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1- Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

Yn gwahodd y pwyllgor cyfrifol i gynnal ymchwiliad i faterion effeithiolrwydd ynni ac amgylcheddol polisi Cynllunio ac Ynni Adnewyddadwy Llywodraeth Cymru ac i adrodd cyn pen tri mis o ddechrau tymor yr Hydref.

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 1a

Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 1b

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad oedd datganiad ysgrifenedig y Prif Weinidog ar 17 Mehefin yn cynnwys ymrwymiad i ddiwygio TAN 8.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y byddai mwy o gymysgedd o ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn cynnwys gwynt ar y môr, ynni’r llanw, a microgynhyrchu, yn lleihau’r angen yng Nghymru am y cynnydd sylweddol mewn capasiti gwynt ar y tir.

 

Penderfyniad:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

NDM4742 Nick Ramsay (Mynwy)

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) Cynnal adolygiad cyhoeddus o Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8: Ynni Adnewyddadwy (2005) a ddylai gynnwys y goblygiadau o ran cludo, yr amgylchedd, iechyd ac adeiladu wrth roi’r arweiniad ar waith;

b) Cefnogi moratoriwm ar adeiladau pob datblygiad fferm wynt, ac eithrio cynlluniau microgynhyrchu a phrosiectau sydd â chefnogaeth glir gan y gymuned, yn yr Ardaloedd Chwilio Strategol tan i’r adolygiad o TAN 8 ddod i ben; ac

c) Hyrwyddo ystod eang o ffynonellau adnewyddadwy er mwyn lleihau effaith cynlluniau trydan adnewyddadwy unigol gymaint ag sy’n bosibl.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

39

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1- Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

Yn gwahodd y pwyllgor cyfrifol i gynnal ymchwiliad i faterion effeithiolrwydd ynni ac amgylcheddol polisi Cynllunio ac Ynni Adnewyddadwy Llywodraeth Cymru ac i adrodd cyn pen tri mis o ddechrau tymor yr Hydref.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 1a

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

15

54

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 1b

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

15

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad oedd datganiad ysgrifenedig y Prif Weinidog ar 17 Mehefin yn cynnwys ymrwymiad i ddiwygio TAN 8.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

39

54

Gwrthodwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y byddai mwy o gymysgedd o ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn cynnwys gwynt ar y môr, ynni’r llanw, a microgynhyrchu, yn lleihau’r angen yng Nghymru am y cynnydd sylweddol mewn capasiti gwynt ar y tir.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

11

54

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ystod eang o ffynonellau adnewyddadwy er mwyn lleihau effaith cynlluniau trydan adnewyddadwy unigol gymaint ag sy’n bosibl.

Yn credu y byddai mwy o gymysgedd o ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn cynnwys gwynt ar y môr, ynni’r llanw, a microgynhyrchu, yn lleihau’r angen yng Nghymru am y cynnydd sylweddol mewn capasiti gwynt ar y tir.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

3

0

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

(60 munud)

7.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM4743 Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Brosiectau Trafnidiaeth Mawr (2011);

2. Yn nodi â phryder fod llawer o brosiectau trafnidiaeth wedicostio cryn dipyn yn fwy ac wedi cymryd mwy o amser i'w cwblhau na'r disgwyl’;

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid ar gyfer prosiectau trafnidiaeth yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd effeithlon ac effeithiol.

Mae copi o Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar gael yn:

http://www.wao.gov.uk/cymraeg/newyddion_3866.asp

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

Yn croesawu’r rheolaeth ariannol well dros brosiectau trafnidiaeth a reolwyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu ei bod yn hanfodol i gadw prosiectau trafnidiaeth o fewn y gyllideb er mwyn sicrhau bod prosiectau eraill sydd mawr eu hangen yn gallu bwrw ymlaen.

 

Penderfyniad:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4743 Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Brosiectau Trafnidiaeth Mawr (2011);

2. Yn nodi â phryder fod llawer o brosiectau trafnidiaeth wedicostio cryn dipyn yn fwy ac wedi cymryd mwy o amser i'w cwblhau na'r disgwyl’;

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid ar gyfer prosiectau trafnidiaeth yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd effeithlon ac effeithiol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

38

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

Yn croesawu’r rheolaeth ariannol well dros brosiectau trafnidiaeth a reolwyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

15

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu ei bod yn hanfodol i gadw prosiectau trafnidiaeth o fewn y gyllideb er mwyn sicrhau bod prosiectau eraill sydd mawr eu hangen yn gallu bwrw ymlaen.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Brosiectau Trafnidiaeth Mawr (2011);

2. Yn nodi â phryder fod llawer o brosiectau trafnidiaeth wedicostio cryn dipyn yn fwy ac wedi cymryd mwy o amser i'w cwblhau na'r disgwyl’;

3. Yn croesawu’r rheolaeth ariannol well dros brosiectau trafnidiaeth a reolwyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid ar gyfer prosiectau trafnidiaeth yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd effeithlon ac effeithiol.

5. Yn credu ei bod yn hanfodol i gadw prosiectau trafnidiaeth o fewn y gyllideb er mwyn sicrhau bod prosiectau eraill sydd mawr eu hangen yn gallu bwrw ymlaen.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

12

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

(60 munud)

8.

Dadl Plaid Cymru

NDM4741 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso sefydlu cwmni nid-am-elw-dosbarthiadwy i godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2,3 a 4 yn cael eu dad-ddethol]

Gwelliant 1 - Nick Ramsay (Mynwy)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) Ystyried yr holl gyfleoedd i godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith; a

b) Sicrhau bod mwy o ddadansoddi costau mewn prosiectau adeiladwaith mawr er mwyn cael mwy o gyfrifoldeb dros gyllidebau a bod gwaith yn cael ei gyflawni ar amser.

[os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Dileuyn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso sefydlu’ a rhoi yn ei le ‘yn pryderu am y diffyg manylion sydd ar gael ar gyfer’.

[os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol]

Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth ar ôlLywodraeth Cymru i’ a rhoi yn ei le:

archwilio dulliau arloesol, cydweithredol y gall Llywodraeth Cymru ac eraill, megis awdurdodau lleol a’r sector preifat, reoli asedau a chodi cyfalaf ar gyfer ei fuddsoddi mewn seilwaith ar gyfer y gwasanaeth cyhoeddus, a pharhau i archwilio ffyrdd cynaliadwy a hyblyg eraill o fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ar ôlseilwaithrhoi 'ond yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dichonoldeb cynllun o’r fath o fewn y setliad datganoli ariannol presennol.’

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod, er mwyn bod mewn safle cryfach i godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith, bod angen mwy o hunanreolaeth ariannol ar Gymru.

 

Penderfyniad:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

                                

NDM4741 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso sefydlu cwmni nid-am-elw-dosbarthiadwy i godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

43

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Nick Ramsay (Mynwy)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) Ystyried yr holl gyfleoedd i godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith; a

b) Sicrhau bod mwy o ddadansoddi costau mewn prosiectau adeiladwaith mawr er mwyn cael mwy o gyfrifoldeb dros gyllidebau a bod gwaith yn cael ei gyflawni ar amser.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

14

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Oherwydd y cafodd gwelliant 1 ei dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Dileuyn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso sefydlu’ a rhoi yn ei le ‘yn pryderu am y diffyg manylion sydd ar gael ar gyfer’.

Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth ar ôlLywodraeth Cymru i’ a rhoi yn ei le:

archwilio dulliau arloesol, cydweithredol y gall Llywodraeth Cymru ac eraill, megis awdurdodau lleol a’r sector preifat, reoli asedau a chodi cyfalaf ar gyfer ei fuddsoddi mewn seilwaith ar gyfer y gwasanaeth cyhoeddus, a pharhau i archwilio ffyrdd cynaliadwy a hyblyg eraill o fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ar ôlseilwaithrhoi 'ond yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dichonoldeb cynllun o’r fath o fewn y setliad datganoli ariannol presennol.’

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod, er mwyn bod mewn safle cryfach i godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith, bod angen mwy o hunanreolaeth ariannol ar Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

11

0

54

Derbyniwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4741

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) Ystyried yr holl gyfleoedd i godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith; a

b) Sicrhau bod mwy o ddadansoddi costau mewn prosiectau adeiladwaith mawr er mwyn cael mwy o gyfrifoldeb dros gyllidebau a bod gwaith yn cael ei gyflawni ar amser.

2.Yn cydnabod, er mwyn bod mewn safle cryfach i godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith, bod angen mwy o hunanreolaeth ariannol ar Gymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

1

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

 

Cyfnod pleidleisio

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: