Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy Penderfyniad: Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 5 a 10 eu grwpio. Cafodd cwestiynau 7 a 8 eu grwpio. Tynnwyd cwestiwn 12 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Penderfyniad: Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn cysylltiad ag anghymhwyso Aled Roberts - WEDI'I OHIRIO TAN 6 GORFFENNAF 2011 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn cysylltiad ag anghymhwyso John Dixon - WEDI'I OHIRIO TAN 6 GORFFENNAF 2011 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4770 Nick Ramsay (Mynwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cyfnod canol (8-13 oed) er mwyn integreiddio’r system ysgol ac i bontio’r gagendor rhwng y Cyfnod Sylfaen a’r Llwybrau Dysgu 14-19. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu’r cyfan
a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu a chyhoeddi strategaeth ar gyfer plant 8-13 oed gyda’r nod o sicrhau bod y cyfraddau presennol ar gyfer anllythrennedd ac anrhifogrwydd ymhlith plant sy’n gadael ysgol gynradd yn cael eu haneru erbyn 2016. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai’r
cyfnod canol hwn wella’r trefniadau
pontio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd drwy ffurfioli
partneriaethau rhwng yr ysgolion hyn,
cyflogi mwy o athrawon pontio, a sicrhau bod y blynyddoedd cynnar mewn ysgolion
uwchradd yn cynnig gwell cydbwysedd
rhwng addysgu academaidd a bugeiliol. Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: NDM4770 Nick
Ramsay (Mynwy) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cyfnod canol (8-13 oed) er mwyn
integreiddio’r system ysgol
ac i bontio’r gagendor rhwng y Cyfnod Sylfaen a’r Llwybrau
Dysgu 14-19.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu’r cyfan a
rhoi yn ei le: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddatblygu a chyhoeddi strategaeth ar gyfer plant 8-13 oed
gyda’r nod o sicrhau bod y cyfraddau presennol ar gyfer anllythrennedd ac
anrhifogrwydd ymhlith plant sy’n gadael ysgol gynradd yn cael eu haneru erbyn
2016. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y
dylai’r cyfnod canol hwn wella’r trefniadau pontio rhwng ysgolion cynradd ac
uwchradd drwy ffurfioli partneriaethau rhwng yr ysgolion hyn, cyflogi mwy o
athrawon pontio, a sicrhau bod y blynyddoedd cynnar mewn ysgolion uwchradd yn
cynnig gwell cydbwysedd rhwng addysgu academaidd a bugeiliol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd
gwelliant 2. Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwgio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i’r cynnig, nid yw’r cynnig wedi ei
gymeradwyo. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4771 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi ymgynghoriad yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ‘A Communications Review for the Digital Age’, gan gynnwys ei bwyslais ar ddadreoleiddio a’r goblygiadau o ran comisiynu rhanbarthol a’r cyfryngau ehangach yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei hymateb. Mae copi o ‘A Communications Review for the Digital Age’ ar gael yn: http://www.culture.gov.uk/what_we_do/telecommunications_and_online/8109.aspx Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Hefyd yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi unrhyw ohebiaeth rhyngddi â’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar fater darlledu a’r cyfryngau yng Nghymru. Gwelliant 2 - Nick Ramsay (Mynwy) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a sefydliadau’r cyfryngau yng Nghymru i ymrwymo i archwilio ac adnabod y buddion cynaliadwy a allai ddod i Gymru yn sgil teledu lleol er mwyn helpu i ddiogelu ein sector cyfryngau cryf ac amrywiol. Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: NDM4771
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi ymgynghoriad yr Adran dros Ddiwylliant,
y Cyfryngau a Chwaraeon ‘A
Communications Review for the Digital Age’, gan gynnwys ei bwyslais
ar ddadreoleiddio a’r goblygiadau o ran comisiynu rhanbarthol a’r cyfryngau ehangach
yng Nghymru, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyhoeddi
ei hymateb.
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM4772 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu rhaglen gwella safonau ysgolion drwy: a) cyflwyno premiwm disgybl er mwyn targedu arian at ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig, gan helpu i gau'r bwlch cyllido rhwng Cymru a Lloegr; b) datblygu rhaglen gynhwysfawr ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus, a gaiff ei chyllido drwy gael gwared ar Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru a thrwy wella prosesau cynllunio’r gweithlu; c) diweddaru’r cwricwlwm cenedlaethol fel ei fod yn canolbwyntio ar sgiliau allweddol; d) fynnu bod adolygiad annibynnol llawn o drefniadau llywodraethu ysgolion yn cael ei gynnal, gan archwilio’n benodol faterion yn ymwneud ag atebolrwydd lleol, yr arweinyddiaeth briodol ar gyfer cyrff llywodraethu, ac a fyddai un corff llywodraethu yn briodol ar gyfer dalgylchoedd; ac e) gwella’r trefniadau pontio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd drwy ffurfioli’r partneriaethau rhwng yr ysgolion hyn, cyflogi mwy o athrawon pontio, a sicrhau bod y blynyddoedd cynnar mewn ysgolion uwchradd yn cynnig gwell cydbwysedd rhwng addysgu academaidd a bugeiliol. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu is-bwynt a) ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn. [os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3, 4 a 5 yn cael eu
dad-ddethol] Gwelliant 2 - Nick Ramsay (Mynwy) Dileu is-bwyntiau b) i e) a rhoi is-bwyntiau newydd yn eu lle: Gweithredu cynlluniau Llywodraeth Cymru yn fanwl ar gyfer gwella safonau llythrennedd a monitro canlyniadau’r cynlluniau hynny; Darparu cwricwlwm cenedlaethol cyflawn i gynnwys amser ar gyfer chwaraeon, economeg y cartref a sgiliau bywyd; a Datblygu cam canol mewn addysg. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Yn is-bwynt b), dileu popeth ar ôl ‘datblygiad proffesiynol parhaus’ Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Yn is-bwynt d), dileu ‘Gorchymyn adolygiad annibynnol llawn’ a rhoi ‘Cynnal adolygiad’ yn ei le. Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu is-bwynt e). Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: NDM4772 Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu rhaglen gwella safonau ysgolion drwy: a) cyflwyno premiwm disgybl er mwyn targedu
arian at ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig, gan helpu i gau'r
bwlch cyllido rhwng Cymru a Lloegr; b) datblygu rhaglen gynhwysfawr ar gyfer datblygiad
proffesiynol parhaus, a gaiff ei chyllido
drwy gael gwared ar Gyngor
Addysgu Cyffredinol Cymru a
thrwy wella prosesau cynllunio’r gweithlu; c) diweddaru’r cwricwlwm cenedlaethol fel ei fod
yn canolbwyntio ar sgiliau allweddol; d) fynnu bod adolygiad annibynnol llawn o drefniadau llywodraethu ysgolion yn cael ei
gynnal, gan archwilio’n benodol faterion yn ymwneud
ag atebolrwydd lleol, yr arweinyddiaeth
briodol ar gyfer cyrff llywodraethu,
ac a fyddai un corff llywodraethu yn briodol ar gyfer
dalgylchoedd; ac e) gwella’r trefniadau pontio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd drwy ffurfioli’r partneriaethau rhwng yr ysgolion hyn,
cyflogi mwy o athrawon pontio, a sicrhau bod y blynyddoedd cynnar mewn ysgolion
uwchradd yn cynnig gwell cydbwysedd
rhwng addysgu academaidd a bugeiliol.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu is-bwynt a) ac ailrifo’r
pwyntiau sy'n dilyn. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant
1. Gwelliant 2 - Nick
Ramsay (Mynwy) Dileu is-bwyntiau b) i
e) a rhoi is-bwyntiau newydd yn eu
lle: Gweithredu cynlluniau Llywodraeth Cymru yn fanwl ar gyfer
gwella safonau llythrennedd a monitro canlyniadau’r cynlluniau hynny; Darparu cwricwlwm cenedlaethol cyflawn i gynnwys amser ar
gyfer chwaraeon, economeg y cartref a sgiliau bywyd; a Datblygu cam canol mewn addysg. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Yn is-bwynt b), dileu popeth ar
ôl ‘datblygiad proffesiynol parhaus’ Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4
- Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Yn is-bwynt d), dileu ‘Gorchymyn adolygiad annibynnol llawn’ a rhoi ‘Cynnal adolygiad’
yn ei le. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant
4. Gwelliant 5
- Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu is-bwynt e). Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd
gwelliant 5. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4772 Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu rhaglen gwella safonau ysgolion drwy: a) datblygu rhaglen gynhwysfawr ar gyfer datblygiad
proffesiynol parhaus; b) diweddaru’r cwricwlwm cenedlaethol fel ei fod
yn canolbwyntio ar sgiliau allweddol; c) fynnu bod adolygiad annibynnol llawn o drefniadau llywodraethu ysgolion yn cael ei
gynnal, gan archwilio’n benodol faterion yn ymwneud
ag atebolrwydd lleol, yr arweinyddiaeth
briodol ar gyfer cyrff llywodraethu,
ac a fyddai un corff llywodraethu yn briodol ar gyfer
dalgylchoedd; ac
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |