Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2, 4 ac
8 gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar
ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
14.18 Gofynnwyd y 12
cwestiwn. Cafodd cwestiynau 9 a 12 eu grwpio. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau – Deddfwriaeth orfodol i sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus NDM5838
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb,
'Deddfwriaeth orfodol i sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus'
a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2015. Cyflwynwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 30 Medi 2015. Dogfennau
Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.03 NDM5838 William Powell
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, 'Deddfwriaeth
orfodol i sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus' a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2015.
|
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5839
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bwriad datganedig Llywodraeth y DU i gyflwyno
model cadw pwerau ar gyfer datganoli drwy Fil Cymru newydd; 2. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i ddatganoli yng Nghymru
ar sail model cadw pwerau; 3. Yn gwrthod
unrhyw fodel cadw pwerau sy'n dileu unrhyw bwerau sy'n arferadwy gan y
Cynulliad o dan y trefniadau presennol; 4. Yn galw am greu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru fel y
fframwaith cyfreithiol mwyaf dymunol ac effeithiol i gyd-fynd â'r broses o
weithredu'r model cadw pwerau ar gyfer datganoli; a 5. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol a phlismona
i gyd-fynd â chreu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 5
newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn nodi adroddiad
diweddar Canolfan Llywodraethiant Cymru ac Uned y Cyfansoddiad, 'Darparu Model
Pwerau Wedi Cadw'n ôl ar gyfer Datganoli i Gymru', sy'n datgan bod y 'gallai
awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru fod yn wahanol, ond ni fyddai'n rhaid iddi fod
ar wahân i'r awdurdodaeth yn Lloegr'; ‘Darparu
Model Pwerau Wedi Cadw’n ôl Ar Gyfer Datganoli i Gymru’ Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 5,
dileu 'chreu' a rhoi 'datblygu'. Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
y DU i ddatganoli pwerau i amrywio treth incwm i Gymru ar y cyfle cyntaf. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.45 Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5839 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bwriad datganedig Llywodraeth y DU i gyflwyno model cadw
pwerau ar gyfer datganoli drwy Fil Cymru newydd; 2. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i ddatganoli yng Nghymru ar sail model
cadw pwerau; 3. Yn gwrthod unrhyw fodel cadw
pwerau sy'n dileu unrhyw bwerau sy'n arferadwy gan y Cynulliad o dan y
trefniadau presennol; 4. Yn galw am greu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru fel y fframwaith
cyfreithiol mwyaf dymunol ac effeithiol i gyd-fynd â'r broses o weithredu'r
model cadw pwerau ar gyfer datganoli; a 5. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol a phlismona i gyd-fynd â
chreu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru.
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5840
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi y gall problemau iechyd meddwl, heb gymorth a
thriniaeth briodol, gael effaith ddinistriol ar ansawdd bywyd person, gan
effeithio ar ei waith, ei fywyd cartref a'i berthnasau; 2. Yn croesawu diwrnod iechyd meddwl y byd, Amser i Newid
Cymru, Gyda’n Gilydd Nawr! ac ymgyrchoedd eraill sy'n helpu i godi
ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a rhoi terfyn ar stigma a gwahaniaethu; 3. Yn credu bod llawer i'w wneud o hyd er mwyn darparu
gwell gofal a chymorth i bobl o bob oedran sydd â phroblemau iechyd meddwl yng
Nghymru; a 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) rhoi blaenoriaeth gyfartal i iechyd meddwl ac iechyd
corfforol yn y gyfraith i helpu i yrru newid diwylliannol mewn agweddau; b) sicrhau bod y gyfran o gyllid ar gyfer iechyd meddwl o
fewn cyllideb gyffredinol GIG Cymru yn gyson â'r baich clefydau, gan adlewyrchu
maint cymharol yr her iechyd mewn perthynas ag iechyd corfforol; c) cyflwyno safonau amseroedd aros newydd ar gyfer iechyd
meddwl, gan gynnwys ar gyfer mynediad at therapïau seicolegol; d) gwella hyfforddiant iechyd meddwl i athrawon,
gweithwyr iechyd proffesiynol a chyflogwyr er mwyn rhoi'r sgiliau iddynt
adnabod a chefnogi'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl; ac e) cyflwyno set graidd o ddata iechyd meddwl, sy'n
canolbwyntio ar ganlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau, i lywio'r broses o
wneud penderfyniadau ar flaenoriaethau gweithredu a sicrhau bod adnoddau yn
cael eu dyrannu yn y ffordd fwyaf effeithiol. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ym mhwynt 4,
cynnwys isbwynt newydd: ystyried
clustnodi cyllid i sicrhau bod buddsoddiad digonol mewn gwasanaethau iechyd
meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pryderon
parhaus ynghylch gallu gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng
Nghymru i ateb y galw. Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y
ffaith y bydd toriadau termau real i wariant y GIG yng Nghymru yn ei gwneud yn
fwy heriol i sicrhau gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.42 NDM5840 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi y gall
problemau iechyd meddwl, heb gymorth a thriniaeth briodol, gael effaith
ddinistriol ar ansawdd bywyd person, gan effeithio ar ei waith, ei fywyd
cartref a'i berthnasau; 2. Yn croesawu diwrnod
iechyd meddwl y byd, Amser i Newid Cymru, Gyda’n Gilydd Nawr! ac ymgyrchoedd
eraill sy'n helpu i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a rhoi terfyn ar stigma
a gwahaniaethu; 3. Yn credu bod llawer
i'w wneud o hyd er mwyn darparu gwell gofal a chymorth i bobl o bob oedran sydd
â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru; a 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) rhoi blaenoriaeth
gyfartal i iechyd meddwl ac iechyd corfforol yn y gyfraith i helpu i yrru newid
diwylliannol mewn agweddau; b) sicrhau bod y gyfran
o gyllid ar gyfer iechyd meddwl o fewn cyllideb gyffredinol GIG Cymru yn gyson
â'r baich clefydau, gan adlewyrchu maint cymharol yr her iechyd mewn perthynas
ag iechyd corfforol; c) cyflwyno safonau
amseroedd aros newydd ar gyfer iechyd meddwl, gan gynnwys ar gyfer mynediad at
therapïau seicolegol; d) gwella hyfforddiant
iechyd meddwl i athrawon, gweithwyr iechyd proffesiynol a chyflogwyr er mwyn
rhoi'r sgiliau iddynt adnabod a chefnogi'r rhai sydd â phroblemau iechyd
meddwl; ac e) cyflwyno set graidd o
ddata iechyd meddwl, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i ddefnyddwyr
gwasanaethau, i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ar flaenoriaethau
gweithredu a sicrhau bod adnoddau yn cael eu dyrannu yn y ffordd fwyaf
effeithiol. Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.42 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5837
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Dyfodol adeiladau capeli yng Nghymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.44 NDM5837 Mike Hedges (Dwyrain
Abertawe) Dyfodol adeiladau capeli yng Nghymru |
|||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |