Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Penderfyniad: Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 5 a 10 gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Gofynnwyd cwestiynau 1 – 4 a gofynnwyd cwestiwn 6. Ni ofynnwyd cwestiwn 5. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Comisiynydd y Gymraeg |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig Gweithdrefnol Cafwyd cynnig
gweithdrefnol gan Dafydd Elis-Thomas yn unol â Rheol Sefydlog 12.32 i ohirio’r ddadl fer. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Gofynnwyd y 10 cwestiwn. Cafodd Cwestiynau 1, 2, 4, 7 ac 8 eu hateb gan Angela Burns. Cafodd Cwestiynau 3, 5 a 9 eu hateb gan Sandy Mewies. Cafodd Cwestiwn 6 ei ateb gan Peter Black. Cafodd Cwestiwn 10 ei ateb gan Rhodri Glyn Thomas. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4816 William
Graham (Dwyrain De Cymru): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod mwy o bobl yn cael diagnosis o ganser; 2. Yn mynegi pryder bod amseroedd aros targed ar gyfer cleifion canser yn cael eu methu; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cronfa Cyffuriau Canser Cymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 1, ar ôl “ganser”, rhoi “, i raddau helaeth oherwydd bod y boblogaeth hŷn yn tyfu a bod ein technegau diagnosis yn llawer gwell erbyn hyn.” Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2, a rhoi yn ei le: “Yn nodi bod angen sicrhau bod amseroedd aros i rai cleifion canser yn fyrrach, ac yn cydnabod y gwaith sy’n parhau i fynd i’r afael â hyn.” [os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei
dad-ddethol] Gwelliant 3 -
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol. Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 3, a rhoi yn ei le: “Yn nodi bod pobl yng Nghymru yn gallu cael cyffuriau canser heb fodel Cronfa Cyffuriau Canser Lloegr.” Penderfyniad: Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4816 William Graham (Dwyrain
De Cymru): Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi
bod mwy o bobl yn cael diagnosis o ganser; 2. Yn mynegi
pryder bod amseroedd aros targed ar
gyfer cleifion canser yn cael
eu methu; a 3. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cronfa Cyffuriau Canser Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 1, ar ôl
“ganser”, rhoi “, i raddau helaeth oherwydd bod y boblogaeth hŷn yn
tyfu a bod ein technegau diagnosis yn llawer gwell erbyn hyn.” Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2, a rhoi
yn ei le: “Yn nodi bod angen sicrhau bod amseroedd aros i rai cleifion canser
yn fyrrach, ac yn cydnabod y gwaith sy’n parhau i fynd i’r afael â hyn.” Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei
le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Ni chafodd gwelliant 4 ei ddewis gan
fod gwelliant 3 wedi’i dderbyn. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM4816 William Graham (Dwyrain
De Cymru): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod mwy o bobl yn cael diagnosis o ganser, i raddau helaeth oherwydd bod y boblogaeth hŷn yn tyfu a bod ein technegau diagnosis yn llawer gwell erbyn hyn; 2. Yn nodi bod angen sicrhau bod amseroedd aros i rai cleifion canser yn fyrrach, ac yn cydnabod y gwaith sy’n parhau i fynd i’r afael â hyn; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4817 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod y system gynllunio yn hanfodol ar gyfer economi gref, amgylchedd deniadol a chynaliadwy a democratiaeth lwyddiannus; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) Cyflwyno Bil Cynllunio Cymru yn gynharach na’r hyn a nodir yn y Datganiad Deddfwriaethol; b) Cynyddu hyblygrwydd system gynllunio Cymru; c) Symleiddio canllawiau cynllunio presennol Cymru; d) Cynyddu cyfraniad cymunedau lleol at y system cynllunio. Gellir gweld copi o’r Datganiad Deddfwriaethol drwy ddilyn y linc a ganlyn: Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt
2 a rhoi yn ei le: Yn nodi
Datganiad Ysgrifenedig Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i’r
Cabinet, a anfonwyd drwy e-bost at Aelodau’r Cynulliad ar 30 Medi, yn sefydlu
panel cynghori annibynnol i roi cyngor ar sut y dylid cynnal gwasanaethau
cynllunio yn y dyfodol, a fydd yn llywio’r Papur Gwyn Cynllunio a’r Mesur
dilynol. Gwelliant 2 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai adolygiad Llywodraeth Cymru o’r system gynllunio hefyd ystyried Cynllun Gofodol Cymru a’r system cynlluniau datblygu lleol. Gellir gweld Cynllun Gofodol Cymru drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://wales.gov.uk/location/strategy/spatial/documents/?skip=1&lang=cy Penderfyniad: Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4817 William Graham (Dwyrain
De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod y system gynllunio yn hanfodol
ar gyfer economi gref, amgylchedd
deniadol a chynaliadwy a democratiaeth lwyddiannus; a 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) Cyflwyno Bil Cynllunio
Cymru yn gynharach na’r hyn a nodir yn
y Datganiad Deddfwriaethol; b) Cynyddu hyblygrwydd system gynllunio Cymru; c) Symleiddio canllawiau cynllunio presennol Cymru; d) Cynyddu cyfraniad cymunedau lleol at y system gynllunio. Gellir gweld copi o’r Datganiad
Deddfwriaethol drwy ddilyn y linc a ganlyn:
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2 a
rhoi yn ei le: Yn nodi Datganiad
Ysgrifenedig Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i’r Cabinet, a
anfonwyd drwy e-bost at Aelodau’r Cynulliad ar 30 Medi, yn sefydlu panel
cynghori annibynnol i roi cyngor ar sut y dylid cynnal gwasanaethau cynllunio
yn y dyfodol, a fydd yn llywio’r Papur Gwyn Cynllunio a’r Mesur dilynol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai
adolygiad Llywodraeth Cymru o’r system gynllunio hefyd ystyried Cynllun Gofodol
Cymru a’r system cynlluniau datblygu lleol. Gellir gweld
Cynllun Gofodol Cymru drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://wales.gov.uk/location/strategy/spatial/documents/?skip=1&lang=cy Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Fel sy’n ofynnol
o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw
drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM4817 William Graham (Dwyrain
De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod y system gynllunio yn hanfodol
ar gyfer economi gref, amgylchedd
deniadol a chynaliadwy a democratiaeth lwyddiannus; a 2. Yn nodi
Datganiad Ysgrifenedig Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i’r
Cabinet, a anfonwyd drwy e-bost at Aelodau’r Cynulliad ar 30 Medi, yn sefydlu
panel cynghori annibynnol i roi cyngor ar sut y dylid cynnal gwasanaethau
cynllunio yn y dyfodol, a fydd yn llywio’r Papur Gwyn Cynllunio a’r Mesur
dilynol.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4818 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at ddiffyg manylion a thargedau ystyrlon yn y Rhaglen Lywodraethu: a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Rhaglen yn canolbwyntio ar y sialensiau y bydd yr economi yn eu hwynebu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Gellir gweld y Rhaglen Lywodraethu drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://wales.gov.uk/about/programmeforgovernment/?skip=1&lang=cy Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1
- Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 1) a rhoi yn ei le: "Yn nodi’r Rhaglen
Lywodraethu a’r angen i allu mesur
sut y gweithredir polisi’r Llywodraeth”; a Gwelliant 2
- William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu fel pwynt 1 newydd
ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ddiwygio ei Rhaglen Lywodraethu i fynd i’r afael
â’r sialensiau economaidd a chymdeithasol sy’n wynebu pobl
Cymru. Gwelliant 3
- Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad
yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni
addewid y Prif Weinidog ar gyfer
rhaglen lywodraethu sydd â thargedau mesuradwy. Gwelliant 4
- Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyflwyno rhaglen lywodraethu ddiwygiedig sydd â thargedau pendant a mesuradwy ac amserlen ar gyfer eu
cyflawni. Gwelliant 5
- William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ailgyhoeddi ei Rhaglen Lywodraethu er mwyn cynnwys
targedau a chanlyniadau mesuradwy. Gwelliant 6
- William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth
Cymru i bennu, yn y Rhaglen Lywodraethu,
fesurau i godi perfformiad Gwerth Ychwanegol Crynswth Cymru erbyn 2015. Gwelliant 7
- William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai’r Rhaglen Lywodraethu gynnwys rhaglen gynhwysfawr o ryddhad ardrethi busnes sef yr ymyriad
polisi gorau i hybu cyflogaeth a buddsoddiad yn y sector preifat ac y gellid cyflwyno ymyriad o’r fath ar
unwaith heb yr angen am adolygiad
pellach. Penderfyniad: Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4818 Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at ddiffyg
manylion a thargedau ystyrlon yn y Rhaglen
Lywodraethu: a 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Rhaglen yn canolbwyntio
ar y sialensiau y bydd yr economi
yn eu hwynebu
dros yr ychydig
flynyddoedd nesaf. Gellir gweld y Rhaglen Lywodraethu drwy ddilyn y linc
a ganlyn: http://wales.gov.uk/about/programmeforgovernment/?skip=1&lang=cy
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 1) a rhoi
yn ei le: "Yn nodi’r
Rhaglen Lywodraethu a’r angen i allu mesur sut y gweithredir polisi’r
Llywodraeth”; a Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De
Cymru) Ychwanegu fel pwynt
1 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddiwygio ei Rhaglen Lywodraethu i fynd i’r afael â’r
sialensiau economaidd a chymdeithasol sy’n wynebu pobl Cymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig: Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni addewid
y Prif Weinidog ar gyfer rhaglen
lywodraethu sydd â thargedau mesuradwy. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyflwyno rhaglen lywodraethu ddiwygiedig sydd â thargedau pendant a mesuradwy ac amserlen ar gyfer eu
cyflawni. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ailgyhoeddi ei Rhaglen Lywodraethu er mwyn cynnwys
targedau a chanlyniadau mesuradwy. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig: Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth
Cymru i bennu, yn y Rhaglen Lywodraethu,
fesurau i godi perfformiad Gwerth Ychwanegol Crynswth Cymru erbyn 2015. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant 6. Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig: Yn credu y dylai’r Rhaglen Lywodraethu gynnwys rhaglen gynhwysfawr o ryddhad ardrethi busnes sef yr
ymyriad polisi gorau i hybu cyflogaeth
a buddsoddiad yn y sector preifat ac y gellid cyflwyno ymyriad o’r fath ar
unwaith heb yr angen am adolygiad
pellach. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
Gwrthodwyd gwelliant 7. Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwygio, ac wedi gwrthhod y gwelliannau i’r cynnig, nid
yw’r cynnig wedi ei gymeradwyo. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4815 Dafydd
Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Diwygo Amodau Deiliadaeth y Sector Rhentu Preifat Penderfyniad: Cafodd y Ddadl Fer ei gohirio gan gynnig gweithdrefnol yn gynharach yn nhrafodion y dydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |