Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau cyllid i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Penderfyniad: Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 1 a 5 eu grwpio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth Penderfyniad: Gofynnwyd y 15 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Llywydd Cyhoeddodd y Llywydd fod Ken Skates wedi ennill balot yr Aelodau i gyflwyno cynigon ar gyfer deddfwriaeth. Caiff Ken Skates, felly, geisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig Aelod ynghylch Parhad o Ofal i Fywyd fel Oedolyn, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelod unigol, o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NNDM4825 Christine Chapman
(Cwm Cynon) Julie Morgan (Gogledd
Caerdydd) Lindsay Whittle
(Dwyrain De Cymru) Kirsty Williams
(Brycheiniog a Sir Faesyfed) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i’r
Cynulliad ei hystyried a fyddai’n cael gwared â’r gallu i ddefnyddio ‘cosb
gyfreithlon’ fel amddiffyniad yn erbyn cyhuddiad o ymosod ar blentyn. Penderfyniad: Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4834 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r manteision pellgyrhaeddol posibl i Gymru drwy gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr; 2. Yn gresynu’n fawr nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi strategaeth ar waith i geisio codi proffil Cymru yn ystod Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy uchelgeisiol, rhagweithiol a thryloyw wrth geisio denu’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf i Gymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu fel
pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Yn llongyfarch y gwaith
a wnaed gan gynghorau Caerdydd a Chasnewydd wrth ddenu a chefnogi Cyfres y Lludw a Chwpan Ryder yn eu tro. [os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3 a 4 yn cael ei dad-ddethol] Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn gresynu’n fawr bod cyflwr cyllid cyhoeddus ar hyn o bryd yn rhwystro Llywodraeth Cymru rhag cyllido strategaeth sydd â’r nod o godi proffil Cymru yn ystod Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012. [os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei dad-ddethol] Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt
2 a rhoi’r canlynol yn ei le: Yn nodi’r
ffaith y caiff proffil Cymru dramor ei wella yn
sgil profiadau cadarnhaol unigolion a thimau y gwledydd hynny sydd wedi
dewis hyfforddi yng Nghymru cyn
Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012; ac Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ym mhwynt
2 ar ôl ‘2012’ cynnwys ‘ac i ddenu contractau ar gyfer
busnesau o Gymru wrth nesáu at y Gemau;’ Gwelliant 5 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt
3 a rhoi’r canlynol yn ei le: Yn cydnabod
llwyddiant Cymru gyfan yn cynnal Cwpan
Ryder 2010 a’r manteision economaidd sydd wedi dod
yn ei sgil. Penderfyniad: Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4834 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r manteision pellgyrhaeddol posibl i Gymru drwy gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr; 2. Yn gresynu’n fawr nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi strategaeth ar waith i geisio codi proffil Cymru yn ystod Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy uchelgeisiol, rhagweithiol a thryloyw wrth geisio denu’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf i Gymru.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Yn llongyfarch y gwaith a wnaed gan gynghorau Caerdydd a Chasnewydd wrth ddenu a chefnogi Cyfres y Lludw a Chwpan Ryder yn eu tro. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn gresynu’n fawr bod cyflwr cyllid cyhoeddus ar hyn o bryd yn rhwystro Llywodraeth Cymru rhag cyllido strategaeth sydd â’r nod o godi proffil Cymru yn ystod Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2 a rhoi’r canlynol yn ei le: Yn nodi’r ffaith y caiff proffil Cymru dramor ei wella yn sgil profiadau cadarnhaol unigolion a thimau y gwledydd hynny sydd wedi dewis hyfforddi yng Nghymru cyn Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012; ac Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gan fod gwelliant 3 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 4 ei ddad-ddethol. Gwelliant 5 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 3 a rhoi’r canlynol yn ei le: Yn cydnabod llwyddiant Cymru gyfan yn cynnal Cwpan Ryder 2010 a’r manteision economaidd sydd wedi dod yn ei sgil. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd
gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM4834 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r manteision pellgyrhaeddol posibl i Gymru drwy gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr; 2. Yn llongyfarch y gwaith a wnaed gan gynghorau Caerdydd a Chasnewydd wrth ddenu a chefnogi Cyfres y Lludw a Chwpan Ryder yn eu tro. 3. Yn nodi’r ffaith y caiff proffil Cymru dramor ei wella yn sgil profiadau cadarnhaol unigolion a thimau y gwledydd hynny sydd wedi dewis hyfforddi yng Nghymru cyn Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012; ac 4. Yn cydnabod llwyddiant Cymru gyfan yn cynnal Cwpan Ryder 2010 a’r manteision economaidd sydd wedi dod yn ei sgil.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4833 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth: a) dirywiad sydyn darpariaeth cyfryngau lleol ac effaith hynny ar yr adroddiadau ar fywyd cyhoeddus ac ar wleidyddiaeth yng Nghymru; a b) yr argyfwng cyllido yn y diwydiant darlledu. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) chwilio am atebion i roi sylw i’r bwlch democrataidd a achosir gan hyn; a b) ymdrechu’n frwd i ddylanwadu ar y Bil Cyrff Cyhoeddus fel bo dyfodol S4C yn cael ei ddiogelu. Gellir gweld y Bil Cyrff Cyhoeddus drwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://services.parliament.uk/bills/2010-11/publicbodieshl.html
- (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys is-bwynt
1b) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn ‘methiant
Llywodraeth Cymru i ddarparu
cyfeiriad clir i annog a hyrwyddo mwy o luosogrwydd yn y cyfryngau’ Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Dileu 1b) a rhoi
yn ei le: ‘y rheidrwydd i dorri gwariant cyhoeddus yn y sector darlledu ar ôl i Lywodraeth flaenorol y DU gamreoli’r economi’. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Cynnwys is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 1: ‘methiant
Llywodraeth flaenorol Cymru
i gyflawni ei hymrwymiad i gyllido papur newydd dyddiol
Cymraeg.’ Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd is-bwynt 2a): ‘drwy hyrwyddo hyfforddiant ac entrepreneuriaeth yn y diwydiannau cyfryngau Cymraeg i annog darpariaeth ehangach o raglenni sy’n adlewyrchu
diddordebau lleol a gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus yng Nghymru’ [os derbynnir gwelliant 5, bydd gwelliant 6 yn cael ei dad-ddethol] Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt
2b) a rhoi yn ei le: ‘cydnabod
y sicrwydd a roddwyd gan yr Ysgrifennydd
Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon y bydd S4C yn cadw ei
annibyniaeth olygyddol a gweithredol mewn unrhyw drefniadau cyllido newydd ac i weithio’n gadarnhaol gyda Llywodraeth y DU, y BBC ac
S4C i sicrhau'r cyllid ar gyfer S4C y tu hwnt i 2014; a’ Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ym mhwynt
2b), ar ôl ‘ddiogelu’ cynnwys: 'a: i) bod cyllid
S4C yn cael ei neilltuo’n benodol
tan 2016; ii) nad yw cynrychiolwyr y BBC ar Awdurdod S4C hefyd yn aelodau
o Ymddiriedolaeth y BBC; iii) bod bwrdd
rheoli S4C yn parhau’n annibynnol o’r BBC; iv) dylai
Cynulliad Cenedlaethol
Cymru gymeradwyo penodiad aelod Ymddiriedolaeth y BBC gyda chyfrifoldeb dros Gymru a chadeirydd
Awdurdod S4C ar ôl iddynt gael
eu penodi gan Weinidogion Llywodraeth y DU; v) bod S4C yn
cynnal a chadw annibyniaeth lawn yn olygyddol, yn weithredol
ac o ran creu rhaglenni; vi) bod rhaglenni’n
dal i gael eu comisiynu gan gwmnïau
annibynnol o Gymru; vii) bod strwythur
llywodraethol newydd S4C wedi’i wreiddio yn y gyfraith ar
ffurf siarter, ac y bydd y sianel yn
gweithio fel partner i’r BBC ac nid fel is-gwmni iddo;
a bod viii) y Llywodraeth
a’r BBC yn rhoi ymrwymiad clir i raglenni Cymraeg. Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2: ‘gweithio
gyda Llywodraeth y DU ar y Bil Cyfathrebu
arfaethedig i greu mecanwaith ar gyfer
darlledwyr cyhoeddus yng Nghymru i adrodd
i’r Cynulliad Cenedlaethol. Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM4833 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth: a) dirywiad sydyn darpariaeth cyfryngau lleol ac effaith hynny ar yr adroddiadau ar fywyd cyhoeddus ac ar wleidyddiaeth yng Nghymru; a b) yr argyfwng cyllido yn y diwydiant darlledu. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) chwilio am atebion i roi sylw i’r bwlch democrataidd a achosir gan hyn; a b) ymdrechu’n frwd i ddylanwadu ar y Bil Cyrff Cyhoeddus fel bo dyfodol S4C yn cael ei ddiogelu. Gellir gweld y Bil Cyrff Cyhoeddus drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://services.parliament.uk/bills/2010-11/publicbodieshl.html
- (Saesneg yn unig)
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4832 Suzy Davies
(Gorllewin De Cymru): Beth yw Dwy Awr er mwyn Dysgu Plentyn i Achub Bywyd? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |