Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy. Penderfyniad: Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Penderfyniad: Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Trosglwyddwyd cwestiwn 1 i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4838 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso creu swyddi drwy alluogi’r sector preifat i dyfu drwy: a) canolbwyntio gwariant datblygu economaidd ar fesurau sy’n hybu twf busnes yn uniongyrchol; b) adolygu rheoliadau Llywodraeth Cymru sy’n effeithio ar fusnesau yng Nghymru; ac c) cynorthwyo pobl yng Nghymru i ennill sgiliau fel bod mwy o gyfleoedd cyflogaeth yn agored iddynt. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: ymateb i’r toriadau anghymesur i gyllideb cyfalaf Cymru gan Lywodraeth y DU drwy chwilio am ddulliau arloesol o godi arian cyfalaf, ac eithrio Mentrau Cyllid Preifat, i hwyluso prosiectau isadeiledd. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: ymgynghori â’r byd busnes a rhanddeiliaid eraill ynglŷn â’r ffordd fwyaf effeithiol o gefnogi economi Cymru. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: sefydlu trefn ariannu drwy gynyddrannau treth fel ffordd o alluogi awdurdodau lleol i gyllido prosiectau adfywio economaidd mawr. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: canolbwyntio Twf Swyddi Cymru ar gyfleoedd hyfforddi yn y sector preifat. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: sefydlu cronfa arloesedd i ysgogi datblygiad yr economi wybodaeth. Penderfyniad: Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4839 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun gweithredu ar gyfer y diwydiant llaeth, sy’n mynd i’r afael â’r arferion masnachol annheg sy’n bodoli yn y gadwyn gyflenwi, ac sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer y canlynol: a) contract gwaelodlin llaeth amrwd safonol; b) cod ymarfer y gellir ei orfodi i sicrhau trafodion teg rhwng ffermwyr a chwmnïau llaeth; ac c) cyhoeddi gwybodaeth dryloyw am ddosbarthiad elw a phrisiau cyfanwerthu. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu gwaith Llywodraeth y DU i gyflwyno Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd i fonitro ac i orfodi'r Cod Ymarfer Cyflenwi Bwydydd. Gellir gweld y Cod Ymarfer Cyflenwi Bwydydd drwy glicio ar y linc isod: http://www.competition-commission.gov.uk/inquiries/ref2006/grocery/pdf/revised_gscop_order.pdf
(Saesneg yn unig) Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM4839 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun gweithredu ar gyfer y diwydiant llaeth, sy’n mynd i’r afael â’r arferion masnachol annheg sy’n bodoli yn y gadwyn gyflenwi, ac sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer y canlynol: a) contract gwaelodlin llaeth amrwd safonol; b) cod ymarfer y gellir ei orfodi i sicrhau trafodion teg rhwng ffermwyr a chwmnïau llaeth; ac c) cyhoeddi gwybodaeth dryloyw am ddosbarthiad elw a phrisiau cyfanwerthu.
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM4840 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu methiant Llywodraeth Cymru i ddefnyddio arian yr Undeb Ewropeaidd yn effeithiol er mwyn helpu i godi CMC cymharol rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd; 2. Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr y rhaglenni sgiliau lefel uwch ac arloesedd, megis y cynllun POWIS, at godi CMC; 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun i olynu POWIS gyda nodau ac amcanion tebyg. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad cynhwysfawr o’i defnydd o arian yr UE yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Yn nodi â phryder y gostyngiad yn CMC Gorllewin Cymru a’r Cymoedd o 66.8 y cant o gyfartaledd yr UE yn 2000 i 64.4 y cant (y ffigur diweddaraf sydd ar gael) yn 2008. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Yn cydnabod bod angen ymgysylltu’n ehangach â’r sector preifat i feithrin twf cynaliadwy yn CMC y rhanbarthau hyn. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Yn cydnabod bod rhaid i gynlluniau a ariannir gan yr UE symud i ffwrdd oddi wrth y ‘rheoliadau ticio blychau’ a chanolbwyntio ar ganlyniadau hyfyw. Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4840 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu methiant Llywodraeth Cymru i ddefnyddio arian yr Undeb Ewropeaidd yn effeithiol er mwyn helpu i godi CMC cymharol rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd; 2. Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr y rhaglenni sgiliau lefel uwch ac arloesedd, megis y cynllun POWIS, at godi CMC; 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun i olynu POWIS gyda nodau ac amcanion tebyg.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad cynhwysfawr o’i defnydd o arian yr UE yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Yn nodi â phryder y gostyngiad yn CMC Gorllewin Cymru a’r Cymoedd o 66.8 y cant o gyfartaledd yr UE yn 2000 i 64.4 y cant (y ffigur diweddaraf sydd ar gael) yn 2008. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Yn cydnabod bod angen ymgysylltu’n ehangach â’r sector preifat i feithrin twf cynaliadwy yn CMC y rhanbarthau hyn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant
3. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Yn cydnabod bod rhaid i gynlluniau a ariannir gan yr UE symud oddi wrth y ‘rheoliadau ticio blychau’ a chanolbwyntio ar ganlyniadau hyfyw. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM4840 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad cynhwysfawr o’i defnydd o arian yr UE yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd. 2. Yn cydnabod bod rhaid i gynlluniau a ariannir gan yr UE symud oddi wrth y ‘rheoliadau ticio blychau’ a chanolbwyntio ar ganlyniadau hyfyw. 3. Yn cydnabod bod angen ymgysylltu’n ehangach â’r sector preifat i feithrin twf cynaliadwy yn CMC y rhanbarthau hyn. 4. Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr y rhaglenni sgiliau lefel uwch ac arloesedd, megis y cynllun POWIS, at godi CMC; 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun i olynu POWIS gyda nodau ac amcanion tebyg.
Gwrthodwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4837 Christine
Chapman (Cwm Cynon): Trefi ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |