Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ethol Dirprwy Lywydd dros dro Cafodd Rhodri Glyn Thomas ei ethol yn
Ddirprwy Lywydd dros dro. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty Penderfyniad: Gofynnwyd y 11 cwestiwn cyntaf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth Penderfyniad: Gofynnwyd y 14 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(10 muned) |
Cwestiwn Brys 1 Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae’r
Gweinidog yn eu cymryd yn
dilyn marwolaeth dau faban o ganlyniad
i haint E. coli yn Abertawe? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(10 munud) |
Cwestiwn Brys 2 Bethan Jenkins (Gorllewin De
Cymru): Pa gamau
y mae Llywodraeth
Cymru yn eu cymryd yn dilyn
y cyhoeddiad y bydd gorsaf gwylwyr y glannau Abertawe yn cau? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4858 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod: a) buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth yn angenrheidiol er mwyn cyflawni twf economaidd ledled Cymru; b) Maes Awyr Caerdydd, ein porth rhyngwladol, yn methu marchnata Cymru yn effeithiol nac ymestyn ei lwybrau hedfan a bod angen cefnogaeth ac arweinyddiaeth arno ar frys gan Lywodraeth Cymru; ac c) nad oes gan Lywodraeth Cymru weledigaeth nac uchelgais ar gyfer creu rhwydwaith trafnidiaeth sydd gyda’r gorau yn y byd. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) lunio rhaglen farchnata i ddenu’r sector hedfan i Gymru ac adolygu a buddsoddi mewn mynediad cyhoeddus i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd; b) adolygu’r gorsafoedd gwasanaeth a’r mannau aros i lorïau sydd ar hyd y prif ffyrdd ar draws Cymru ar hyn o bryd a rhoi manylion rhaglen fuddsoddi; ac c) adolygu ac ailasesu defnyddio rhaglenni cyllid Ewropeaidd ar gyfer prosiectau seilwaith trafnidiaeth ledled Cymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwynt
1b) a rhoi yn ei le: bod pryderon fod
angen cynyddu effaith economaidd Maes Awyr Caerdydd
a datblygu llwybrau awyr newydd, a bod Llywodraeth Cymru felly yn gweithio gyda’r perchnogion i ysgogi rhagor o weithgarwch busnes a gwella’r cysylltiadau rhyngwladol. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwynt
1c). Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ym mhwynt
2a) cyn ‘lunio’ rhoi: ‘Gweithio gyda pherchnogion Maes Awyr Caerdydd i’ Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys is-bwynt
2b) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: b) Parhau i ymgyrchu dros ddatganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru; Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddechrau gweithio ar gynllun
cyflenwi ar gyfer trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu’r cymhorthdal i’r cyswllt hedfan
rhwng y De a’r Gogledd ar y cyfle
cyntaf ac i ddiystyru rhoi cymhorthdal i gwmnïau hedfan ychwanegol. Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd rhan mewn
deialog gyda Network Rail a
gweithredwyr cludiant cyhoeddus i wella cysylltiadau ar draws y ffin rhwng Gogledd
Cymru a Meysydd Awyr Manceinion a Lerpwl. Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cefnogi
gwaith parhaus Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru i lunio achos busnes dros
drydaneiddio’r brif reilffordd cyn belled ag Abertawe. Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4858 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod: a) buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth yn angenrheidiol er mwyn cyflawni twf economaidd ledled Cymru; b) Maes Awyr Caerdydd, ein porth rhyngwladol, yn methu marchnata Cymru yn effeithiol nac ymestyn ei lwybrau hedfan a bod angen cefnogaeth ac arweinyddiaeth arno ar frys gan Lywodraeth Cymru; ac c) nad oes gan Lywodraeth Cymru weledigaeth nac uchelgais ar gyfer creu rhwydwaith trafnidiaeth sydd gyda’r gorau yn y byd. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) lunio rhaglen farchnata i ddenu’r sector hedfan i Gymru ac adolygu a buddsoddi mewn mynediad cyhoeddus i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd; b) adolygu’r gorsafoedd gwasanaeth a’r mannau aros i lorïau sydd ar hyd y prif ffyrdd ar draws Cymru ar hyn o bryd a rhoi manylion rhaglen fuddsoddi; ac c) adolygu ac ailasesu defnyddio rhaglenni cyllid Ewropeaidd ar gyfer prosiectau seilwaith trafnidiaeth ledled Cymru.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwynt 1b) a rhoi yn ei le: bod pryderon fod angen cynyddu effaith economaidd Maes Awyr Caerdydd a datblygu llwybrau awyr newydd, a bod Llywodraeth Cymru felly yn gweithio gyda’r perchnogion i ysgogi rhagor o weithgarwch busnes a gwella’r cysylltiadau rhyngwladol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwynt 1c). Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ym mhwynt 2a) cyn ‘lunio’ rhoi: ‘Gweithio gyda pherchnogion Maes Awyr Caerdydd i’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys is-bwynt 2b) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: b) Parhau i ymgyrchu dros ddatganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru; Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddechrau gweithio ar gynllun cyflenwi ar gyfer trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd
gwelliant 5. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu’r cymhorthdal i’r cyswllt hedfan rhwng y De a’r Gogledd ar y cyfle cyntaf ac i ddiystyru rhoi cymhorthdal i gwmnïau hedfan ychwanegol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd
gwelliant 6. Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd rhan mewn deialog gyda Network Rail a gweithredwyr cludiant cyhoeddus i wella cysylltiadau ar draws y ffin rhwng Gogledd Cymru a Meysydd Awyr Manceinion a Lerpwl. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Derbyniwyd
gwelliant 7. Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cefnogi gwaith parhaus Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru i lunio achos busnes dros drydaneiddio’r brif reilffordd cyn belled ag Abertawe. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
Derbyniwyd
gwelliant 8. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4858 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod: a) buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth yn angenrheidiol er mwyn cyflawni twf economaidd ledled Cymru; b) bod pryderon fod angen cynyddu effaith economaidd Maes Awyr Caerdydd a datblygu llwybrau awyr newydd, a bod Llywodraeth Cymru felly yn gweithio gyda’r perchnogion i ysgogi rhagor o weithgarwch busnes a gwella’r cysylltiadau rhyngwladol. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) Gweithio gyda pherchnogion Maes Awyr Caerdydd i lunio rhaglen farchnata i ddenu’r sector hedfan i Gymru ac adolygu a buddsoddi mewn mynediad cyhoeddus i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd; b) Parhau i ymgyrchu dros ddatganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru; c) adolygu’r gorsafoedd gwasanaeth a’r mannau aros i lorïau sydd ar hyd y prif ffyrdd ar draws Cymru ar hyn o bryd a rhoi manylion rhaglen fuddsoddi; ac d) adolygu ac ailasesu defnyddio rhaglenni cyllid Ewropeaidd ar gyfer prosiectau seilwaith trafnidiaeth ledled Cymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddechrau gweithio ar gynllun cyflenwi ar gyfer trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd rhan mewn deialog gyda Network Rail a gweithredwyr cludiant cyhoeddus i wella cysylltiadau ar draws y ffin rhwng Gogledd Cymru a Meysydd Awyr Manceinion a Lerpwl. 5. Yn cefnogi gwaith parhaus Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru i lunio achos busnes dros drydaneiddio’r brif reilffordd cyn belled ag Abertawe.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4860 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y rhan hanfodol y mae nyrsys, gan gynnwys nyrsys arbenigol, yn ei chwarae yn y GIG. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gynnal y cynllun bwrsariaeth nyrsio fel y mae’n cael ei weithredu ar hyn o bryd; b) sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus yn y proffesiwn nyrsio; ac c) datblygu rhwydwaith digonol o nyrsys arbenigol. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwynt
2a) a rhoi yn ei le: sicrhau
bod egwyddorion cydraddoldeb
a thegwch wedi’u dilyn wrth newid
y cynllun bwrsariaeth ar gyfer nyrsys. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys is-bwynt
2a) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
‘diffinio a datblygu swyddogaeth Nyrsys Presgripsiynu yng Nghymru’. Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Gorgannwg) Dileu is-bwynt
2c) a rhoi yn ei le: sicrhau
bod y BILlau yn cynllunio ac yn cynnal rhwydwaith digonol o nyrsys arbenigol. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu fel
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt
2: ‘gwella diogelwch a gwella’r amgylchedd gweithio diogel i nyrsys.’ Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2: sicrhau
bod pob nyrs yn gallu cael
gafael ar yr hyfforddiant angenrheidiol er mwyn gallu bod yn gwbl effeithiol
yn eu swyddogaeth. Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4860 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y rhan hanfodol y mae nyrsys, gan gynnwys nyrsys arbenigol, yn ei chwarae yn y GIG. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gynnal y cynllun bwrsariaeth nyrsio fel y mae’n cael ei weithredu ar hyn o bryd; b) sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus yn y proffesiwn nyrsio; ac c) datblygu rhwydwaith digonol o nyrsys arbenigol.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwynt 2a) a rhoi yn ei le: sicrhau bod egwyddorion cydraddoldeb a thegwch wedi’u dilyn wrth newid y cynllun bwrsariaeth ar gyfer nyrsys. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys is-bwynt 2a) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: ‘diffinio a datblygu swyddogaeth Nyrsys Presgripsiynu yng Nghymru’. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Gorgannwg) Dileu is-bwynt 2c) a rhoi yn ei le: sicrhau bod y BILlau yn cynllunio ac yn cynnal rhwydwaith digonol o nyrsys arbenigol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: ‘gwella diogelwch a gwella’r amgylchedd gweithio diogel i nyrsys.’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: sicrhau bod pob nyrs yn gallu cael gafael ar yr hyfforddiant angenrheidiol er mwyn gallu bod yn gwbl effeithiol yn eu swyddogaeth. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4860 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y rhan hanfodol y mae nyrsys, gan gynnwys nyrsys arbenigol, yn ei chwarae yn y GIG. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) diffinio a datblygu swyddogaeth Nyrsys Presgripsiynu yng Nghymru b) sicrhau bod egwyddorion cydraddoldeb a thegwch wedi’u dilyn wrth newid y cynllun bwrsariaeth ar gyfer nyrsys; c) sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus yn y proffesiwn nyrsio; d) sicrhau bod y BILlau yn cynllunio ac yn cynnal rhwydwaith digonol o nyrsys arbenigol; e) gwella diogelwch a gwella’r amgylchedd gweithio diogel i nyrsys; ac f) sicrhau bod pob nyrs yn gallu cael gafael ar yr hyfforddiant angenrheidiol er mwyn gallu bod yn gwbl effeithiol yn eu swyddogaeth
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM4859 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod: a) oddeutu 26,000 o gartrefi gwag preifat yng Nghymru ar hyn o bryd; b) cartrefi gwag yn achosi melltith gymdeithasol ac amgylcheddol ar gymunedau lleol; c) mwy o alw am dai cymdeithasol yng Nghymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth cartrefi gwag sy’n cynnwys: a) cymorth i gynghorau a chymdeithasau tai ddefnyddio cartrefi gwag fel tai cymdeithasol; b) caniatáu i gynghorau gael mwy o hyblygrwydd i osod cyfraddau’r dreth gyngor cosbedigol ar gartrefi sydd wedi bod yn wag yn y tymor hir er mwyn annog perchnogion i’w hailddefnyddio ac i wneud iawn i gymunedau am y felltith maent yn ei hachosi’n lleol; c) cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i leihau cyfradd TAW ar waith atgyweirio a gwella ar adeiladau sydd eisoes yn bodoli; d) archwilio'r posibilrwydd o ddarparu benthyciadau rhad i berchnogion i’w hannog i ailddatblygu cartrefi gwag fel tai fforddiadwy i’w gosod ar rent. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Yn is-bwynt
2a) dileu ‘tai cymdeithasol’
a rhoi yn ei le ‘tai ar gyfer
rhent canolradd a chymdeithasol;’ Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu ar
ddiwedd is-bwynt 2b) ond mae hynny’n
golygu bod angen delio â sefyllfaoedd ystadau sydd mewn
profedigaeth yn sensitif; Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Yn is-bwynt
2c), dileu popeth ar ôl ‘Lywodraeth
y DU’ a rhoi yn ei le ‘i ymgymryd â dadansoddiad cost a budd ynghylch effaith economaidd gostwng cyfradd TAW ar waith atgyweirio a gwella ar adeiladau
sydd eisoes yn bodoli;’ Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu fel
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt
2: ‘darpariaeth y dylai
unrhyw gamau gorfodi fod yn
gam olaf.' Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu fel
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt
2: ‘datblygu ym
mhob sir gronfa ddata o gartrefi sydd wedi bod yn
wag yn y tymor hir.’ Gwelliant 6 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu fel
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt
2: ‘cyhoeddi targedau
ar gyfer nifer y cartrefi sydd yn dod
yn ôl i gael
eu defnyddio bob blwyddyn.’ Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4859 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod: a) oddeutu 26,000 o gartrefi gwag preifat yng Nghymru ar hyn o bryd; b) cartrefi gwag yn achosi melltith gymdeithasol ac amgylcheddol ar gymunedau lleol; c) mwy o alw am dai cymdeithasol yng Nghymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth cartrefi gwag sy’n cynnwys: a) cymorth i gynghorau a chymdeithasau tai ddefnyddio cartrefi gwag fel tai cymdeithasol; b) caniatáu i gynghorau gael mwy o hyblygrwydd i osod cyfraddau’r dreth gyngor cosbedigol ar gartrefi sydd wedi bod yn wag yn y tymor hir er mwyn annog perchnogion i’w hailddefnyddio ac i wneud iawn i gymunedau am y felltith maent yn ei hachosi’n lleol; c) cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i leihau cyfradd TAW ar waith atgyweirio a gwella ar adeiladau sydd eisoes yn bodoli; d) archwilio'r posibilrwydd o ddarparu benthyciadau rhad i berchnogion i’w hannog i ailddatblygu cartrefi gwag fel tai fforddiadwy i’w gosod ar rent.
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4861 Janet
Finch-Saunders (Aberconwy): Siarter i Wyrion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |