Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am
13.30. Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 4 a 5 eu grwpio. Cafodd cwestiynau 4, 5 ac 8 eu hateb gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am
14.17. Gofynnwyd cwestiynau 1 a 3. Ni ofynnwyd cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am
14.25. Gofynnwyd y 7 cwestiwn. Cafodd Cwestiynau 1, 2 a 3 eu hateb gan Sandy Mewies AC. Cafodd Cwestiynau 4, 5, 6 a 7 eu hateb gan Peter Black AC. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Cartrefi mewn Parciau (Peter Black) NDM4879 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91: Yn cytuno y caiff Peter Black gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 13 Hydref 2011 o dan Reol Sefydlog 26.90. Gellir gweld y wybodaeth cyn y balot drwy fynd i: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill_010.htm Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am
14.38. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4905 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd adnoddau digonol ar gael ym mhob adran Damweiniau ac Achosion Brys, ac na fydd yr un ohonynt yn cael ei hisraddio na’i chau yn ystod gweddill y Pedwerydd Cynulliad. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: [os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu “y bydd adnoddau digonol ar gael ym mhob adran Damweiniau ac Achosion Brys, ac na fydd yr un ohonynt yn cael ei hisraddio na’i chau” a rhoi yn ei le “bod darpariaeth adrannau Damweiniau ac Achosion Brys y Byrddau Iechyd Lleol yn ateb y gofyn clinigol ac yn cwrdd ag anghenion y boblogaeth” Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ar ôl ‘Pedwerydd Cynulliad’ rhoi ‘oni bai fod rheswm clinigol cadarn a di-gwestiwn dros wneud hynny’ Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r rhan allweddol mae unedau mân anafiadau yn ei chwarae o ran lleihau’r pwysau ar adrannau Damweiniau ac Achosion Brys. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod mai dim ond â staff priodol y gall adrannau Damweiniau ac Achosion Brys weithredu, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn gwneud popeth yn ei gallu i recriwtio a chadw staff nyrsio a chlinigol Damweiniau ac Achosion Brys. Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am
15.33. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4905 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd adnoddau digonol ar gael ym mhob adran Damweiniau ac Achosion Brys, ac na fydd yr un ohonynt yn cael ei hisraddio na’i chau yn ystod gweddill y Pedwerydd Cynulliad.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu "y bydd adnoddau digonol ar gael ym mhob adran Damweiniau ac Achosion Brys, ac na fydd yr un ohonynt yn cael ei hisraddio na’i chau" a rhoi yn ei le "bod darpariaeth adrannau Damweiniau ac Achosion Brys y Byrddau Iechyd Lleol yn ateb y gofyn clinigol ac yn cwrdd ag anghenion y boblogaeth" Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r rhan allweddol mae unedau mân anafiadau yn ei chwarae o ran lleihau’r pwysau ar adrannau Damweiniau ac Achosion Brys. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod mai dim ond â staff priodol y gall adrannau Damweiniau ac Achosion Brys weithredu, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn gwneud popeth yn ei gallu i recriwtio a chadw staff nyrsio a chlinigol Damweiniau ac Achosion Brys. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4905 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod darpariaeth adrannau Damweiniau ac Achosion Brys y Byrddau Iechyd Lleol yn ateb y gofyn clinigol ac yn cwrdd ag anghenion y boblogaeth yn ystod gweddill y Pedwerydd Cynulliad. Yn nodi’r rhan allweddol mae unedau mân anafiadau yn ei chwarae o ran lleihau’r pwysau ar adrannau Damweiniau ac Achosion Brys. Yn cydnabod mai dim ond â staff priodol y gall adrannau Damweiniau ac Achosion Brys weithredu, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn gwneud popeth yn ei gallu i recriwtio a chadw staff nyrsio a chlinigol Damweiniau ac Achosion Brys.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4906 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm wrth y rheini sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Dileu ‘y rheini sy’n
ddibynnol ar y system fudd-daliadau’ a rhoi yn ei le ‘y bobl
hynny sy’n cael cymorth lles’. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd y Cynnig: ‘ac yn credu mai un o’r
ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau’r stigma hwn yw drwy
helpu pobl yn ôl i waith’. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod bod
heb waith a dibyniaeth ar fudd-daliadau
yn creu rhwystrau
mwy byth i’r rheini sy’n
dymuno dianc o fywyd ar fudd-daliadau
a chael gwaith. Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cytuno
y bydd agenda diwygio lles Llywodraeth y DU yn cynyddu’r stigma i’r rhai sy’n
ddibynnol ar y system fudd-daliadau, a chan mai mater sydd heb ei ddatganoli
yw hwn, na
ddylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo’r baich ariannol fydd ynghlwm
wrth leddfu’r sefyllfa. Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am
16.31. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4906 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm wrth y rheini sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Dileu ‘y rheini sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau’ a rhoi yn ei le ‘y bobl hynny sy’n cael cymorth lles’. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd y Cynnig: ‘ac yn credu mai un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau’r stigma hwn yw drwy helpu pobl yn ôl i waith’. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod bod heb waith a dibyniaeth ar fudd-daliadau yn creu rhwystrau mwy byth i’r rheini sy’n dymuno dianc o fywyd ar fudd-daliadau a chael gwaith. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cytuno y bydd agenda diwygio lles Llywodraeth y DU yn cynyddu’r stigma i’r rhai sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau, a chan mai mater sydd heb ei ddatganoli yw hwn, na ddylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo’r baich ariannol fydd ynghlwm wrth leddfu’r sefyllfa. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4906 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm wrth y rheini sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau. Yn cytuno
y bydd agenda diwygio lles Llywodraeth y DU yn cynyddu’r stigma i’r rhai sy’n
ddibynnol ar y system fudd-daliadau, a chan mai mater sydd heb ei ddatganoli
yw hwn, na
ddylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo’r baich ariannol fydd ynghlwm
wrth leddfu’r sefyllfa.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.25. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl fer a ohiriwyd ers 25 Ionawr 2012 NDM4898 Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin
Cymru): All Cymru Dalu ei Ffordd ei Hun? Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am
17.30. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4904 Mark
Drakeford (Gorllewin Caerdydd):
Treth ar Werth Tir yng Nghymru? Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am
17.58. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |