Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 2 – 6 ac 8 - 15. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 7. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:17 Gofynnwyd y 14 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 6 a 10 eu grwpio. Atebwyd cwestiwn 8 gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Aflonyddu ar sail Anabledd yng Nghymru NDM4918 Ann Jones
(Dyffryn Clwyd) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Aflonyddu ar sail Anabledd yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Rhagfyr 2011. Dogfennau Ategol: Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Ymateb
y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.59 NDM4918 Ann Jones (Dyffryn Clwyd) Mae Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Aflonyddu ar sail Anabledd yng Nghymru
a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Rhagfyr 2011. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4919 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod: a) yr ymrwymiad a wnaethpwyd gan aelodau’r lluoedd arfog wrth amddiffyn ein gwlad; a b) yr effaith ddinistriol y gall anhwylder straen wedi trawma ei chael ar fywyd cyn-aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cydnabod pa mor annigonol yw’r gwasanaethau presennol i gyn-aelodau’r lluoedd arfog sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma; a b) cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r cynnydd a wnaethpwyd o ran gwella gwasanaethau trin anhwylder straen wedi trawma i gyn-aelodau’r lluoedd arfog ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol i’r gwasanaethau hyn ym mis Chwefror 2011. Nodyn: Gellir gweld adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar Driniaeth ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog, Chwefror 2011, drwy fynd i: Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Ychwanegu is-bwynt 1c newydd: “pwysigrwydd gwasanaethau arbenigol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma” Gwelliant 2 - Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwynt 2a Gwelliant 3 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod mwy o achosion o anhwylder straen wedi trawma ymysg cyn-bersonél y lluoedd arfog ac yn mynegi pryder ar ôl deng mlynedd o weithredu milwrol yn Affganistan a chwe blynedd o weithredu milwrol yn Irac bod nifer yr achosion o anhwylder straen wedi trawma yn debyg o godi yn y dyfodol ac yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau mwy o gefnogaeth ar gyfer anhwylder straen wedi trawma yn y dyfodol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.52 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM4919 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod: a) yr ymrwymiad a wnaethpwyd gan aelodau’r lluoedd arfog wrth amddiffyn ein gwlad; a b) yr effaith ddinistriol y gall anhwylder straen wedi trawma ei chael ar fywyd cyn-aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cydnabod pa mor annigonol yw’r gwasanaethau presennol i gyn-aelodau’r lluoedd arfog sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma; a b) cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r cynnydd a wnaethpwyd o ran gwella gwasanaethau trin anhwylder straen wedi trawma i gyn-aelodau’r lluoedd arfog ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol i’r gwasanaethau hyn ym mis Chwefror 2011.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Ychwanegu is-bwynt 1c newydd: “pwysigrwydd gwasanaethau arbenigol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma” Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1.
Dileu is-bwynt 2a Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod mwy o achosion o anhwylder straen wedi trawma ymysg cyn-bersonél y lluoedd arfog ac yn mynegi pryder ar ôl deng mlynedd o weithredu milwrol yn Affganistan a chwe blynedd o weithredu milwrol yn Irac bod nifer yr achosion o anhwylder straen wedi trawma yn debyg o godi yn y dyfodol ac yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau mwy o gefnogaeth ar gyfer anhwylder straen wedi trawma yn y dyfodol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4919 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod: a) yr ymrwymiad a wnaethpwyd gan aelodau’r lluoedd arfog wrth amddiffyn ein gwlad; b) yr effaith ddinistriol y gall anhwylder straen wedi trawma ei chael ar fywyd cyn-aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd; ac c) pwysigrwydd gwasanaethau arbenigol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad cynhwysfawr o’r cynnydd a wnaethpwyd o ran gwella gwasanaethau trin anhwylder straen wedi trawma i gyn-aelodau’r lluoedd arfog ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol i’r gwasanaethau hyn ym mis Chwefror 2011. 3. Yn nodi bod mwy o achosion o anhwylder straen wedi trawma ymysg cyn-bersonél y lluoedd arfog ac yn mynegi pryder ar ôl deng mlynedd o weithredu milwrol yn Affganistan a chwe blynedd o weithredu milwrol yn Irac bod nifer yr achosion o anhwylder straen wedi trawma yn debyg o godi yn y dyfodol ac yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau mwy o gefnogaeth ar gyfer anhwylder straen wedi trawma yn y dyfodol.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM4920 Peter Black
(Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) adroddiad “All Wales Ethnic Minority Association – AWEMA” yn 2002; b) adroddiad “All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA): Review and Evaluation Report of Equality Policy Unit (EPU) Funded Projects” yn 2004; c) yn nodi bod cadeirydd Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA) wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn 2007 yn mynegi pryderon difrifol am drefn lywodraethu’r mudiad; a d) adroddiad “Adolygiad o Effeithiolrwydd y Llywodraethu a’r Rheoli Ariannol yng Nghymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA)” yn 2012; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi datganiad yn amlinellu’n fanwl eu rhesymau dros barhau i gyllido AWEMA er bod pryderon cychwynnol wedi’u mynegi yn 2002, 2004 a 2007; a b) datblygu a chyhoeddi protocol er mwyn sicrhau y caiff pryderon tebyg eu trin yn effeithiol yn y dyfodol. Nodyn: Gall aelodau weld adroddiad 2002 “All Wales Ethnic Minority Association – AWEMA” ac adroddiad 2004 “All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA): review and Evaluation Report of Equality Policy Unit (EPU) Funded Projects” yn Llyfrgell y Cynulliad. Mae adroddiad 2012 “Adolygiad o Effeithiolrwydd y Llywodraethu a’r Rheoli Ariannol yng Nghymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA)” ar gael drwy fynd i: http://cymru.gov.uk/docs/caecd/publications/120209finalawemareportdated8Febcy.pdf Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: “1. Yn nodi methiant Gweinidogion i fynd i’r afael yn ddigonol â’r pryderon a godwyd gan: a) adroddiad 2002 "All Wales Ethnic Minority Association - AWEMA"; b) adroddiad 2004 “All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA): Review and Evaluation Report of Equality Policy Unit (EPU) Funded Projects”; c) Cadeirydd Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA) a ysgrifennodd at Lywodraeth Cymru yn 2007 i fynegi pryderon difrifol am drefn lywodraethu’r sefydliad; a 2. Yn nodi ymhellach adroddiad 2012 “Adolygiad o Effeithiolrwydd y Llywodraethu a’r Rheoli Ariannol yng Nghymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA)”; ac ail-rifo’r pwyntiau sy’n dilyn. Gwelliant 2 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad oedd amseru cyhoeddi adroddiad 2012: a) wedi rhoi cyfle i Aelodau’r Cynulliad allu craffu arno ar unwaith mewn cyfarfod llawn; a b) wedi rhoi cyfle i’r Gweinidog sy’n gyfrifol roi datganiad llafar brys. Gwelliant 3 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar y Gweinidog i gyhoeddi adroddiadau 2002 a 2004 ar-lein. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16:50. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4920 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) adroddiad "All Wales Ethnic Minority Association - AWEMA" yn 2002; b) adroddiad “All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA): Review and Evaluation Report of Equality Policy Unit (EPU) Funded Projects” yn 2004; c) bod cadeirydd Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA) wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn 2007 yn mynegi pryderon difrifol am drefn lywodraethu’r mudiad; a d) adroddiad “A Review of the Effectiveness of Governance and Financial Management within the All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA)” yn 2012; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi datganiad yn amlinellu’n fanwl ei rhesymau dros barhau i gyllido AWEMA er bod pryderon cychwynnol wedi’u mynegi yn 2002, 2004 a 2007; a b) datblygu a chyhoeddi protocol er mwyn sicrhau y caiff pryderon tebyg eu trin yn effeithiol yn y dyfodol.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: “1. Yn nodi methiant Gweinidogion i fynd i’r afael yn ddigonol â’r pryderon a godwyd gan: a) adroddiad 2002 "All Wales Ethnic Minority Association - AWEMA"; b) adroddiad 2004 “All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA): Review and Evaluation Report of Equality Policy Unit (EPU) Funded Projects”; c) Cadeirydd Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA) a ysgrifennodd at Lywodraeth Cymru yn 2007 i fynegi pryderon difrifol am drefn lywodraethu’r sefydliad; a 2. Yn nodi ymhellach adroddiad 2012 “A Review of the Effectiveness of Governance and Financial Management within the All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA); ac ail-rifo’r pwyntiau sy’n dilyn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol
o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw
drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad oedd amseru cyhoeddi adroddiad 2012: a) wedi rhoi cyfle i Aelodau’r Cynulliad allu craffu arno ar unwaith mewn Cyfarfod Llawn; a b) wedi rhoi cyfle i’r Gweinidog sy’n gyfrifol roi datganiad llafar brys. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Fel sy’n ofynnol
o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw
drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar y Gweinidog i gyhoeddi adroddiadau 2002 a 2004 ar-lein. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4920 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) adroddiad "All Wales Ethnic Minority Association - AWEMA" yn 2002; b) adroddiad “All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA): Review and Evaluation Report of Equality Policy Unit (EPU) Funded Projects” yn 2004; c) bod cadeirydd Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA) wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn 2007 yn mynegi pryderon difrifol am drefn lywodraethu’r mudiad; a d) adroddiad “A Review of the Effectiveness of Governance and Financial Management within the All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA)” yn 2012; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi datganiad yn amlinellu’n fanwl ei rhesymau dros barhau i gyllido AWEMA er bod pryderon cychwynnol wedi’u mynegi yn 2002, 2004 a 2007; a b) datblygu a chyhoeddi protocol er mwyn sicrhau y caiff pryderon tebyg eu trin yn effeithiol yn y dyfodol. 3. Yn galw ar y Gweinidog i gyhoeddi adroddiadau 2002 a 2004 ar-lein.
Fel sy’n ofynnol
o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio. Felly,
gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.48 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4917 Nick Ramsay (Mynwy): Dŵr – Adfywiad Adnodd. O gamlesi i’r arfordir, o ynni gwyrdd i gronfeydd dŵr - bydd y Ddadl Fer yn tynnu sylw at rôl bwysig Dŵr ym mywyd Cymru a sut y gallwn ei reoli’n well. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.51 NDM4917 Nick Ramsay (Mynwy): Dŵr
– Adfywiad
Adnodd. O gamlesi i’r
arfordir, o ynni gwyrdd i gronfeydd dŵr
- bydd y Ddadl Fer yn tynnu
sylw at rôl bwysig Dŵr
ym mywyd Cymru a sut y gallwn ei
reoli’n
well. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |