Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.16 Gofynnwyd y 4 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Remploy Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.27 Yn unol â Rheol Sefydlog 12.16(i), gwnaeth y Gweinidog Addysg a Sgiliau ddatganiad llafar y Llywodraeth heb hysbysiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.02 Gofynnwyd cwestiynau 1 – 4, 7, 9 a 10. Ni ofynnwyd cwestiynau 5 a 6. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NNDM4863 Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru) Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru) William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn hybu cyllid a gweithgarwch sy’n canolbwyntio ar alluogi ystod eang o ddulliau teithio cynaliadwy a charbon isel i gael eu defnyddio mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys Parciau Cenedlaethol. Gellir gweld y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol drwy fynd i: http://wales.gov.uk/topics/transport/publications/ntp/?skip=1&lang=cy Gyda chefnogaeth: Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.18 NNDM4863 Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru) Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru) William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn hybu cyllid a gweithgarwch sy’n canolbwyntio ar alluogi ystod eang o ddulliau teithio cynaliadwy a charbon isel mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys Parciau Cenedlaethol. Gyda chefnogaeth: Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru) Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4930 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i ddyrannu cyllid i roi’r cyfle i awdurdodau lleol Lloegr rewi’r Dreth Gyngor am yr ail flwyddyn yn olynol, ac yn nodi y bydd oddeutu 90% o Gynghorau Lloegr yn defnyddio’r arian hwn i sicrhau na fydd cartrefi’n wynebu cynnydd yn y Dreth Gyngor y flwyddyn nesaf. 2. Yn nodi cyhoeddiad Llywodraeth yr Alban y bydd pob awdurdod lleol yn yr Alban yn rhewi’r Dreth Gyngor ar gyfer 2012/2013, ac yn nodi ei bod wedi dechrau rhewi’r Dreth Gyngor yn 2008/2009. 3. Yn gresynu’n fawr wrth fethiant Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r £38.9 miliwn o arian canlyniadol i gynghorau Cymru, gan wrthod y cyfle i'r 22 awdurdod lleol rewi'r dreth gyngor. 4. Yn gresynu ymhellach yr amcangyfrifir y bydd y dreth gyngor yng Nghymru yn cynyddu bron i 2.2% ar gyfartaledd dros y flwyddyn nesaf. 5. Yn mynegi siom nad yw'r rhan fwyaf o gartrefi Cymru wedi cael cymorth gyda chostau byw beunyddiol o ganlyniad i fethiant Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r £38.9 miliwn o arian canlyniadol i awdurdodau lleol. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 1, dileu “croesawu” a rhoi “nodi” yn ei le. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ym mhwynt 1, ar ôl ‘y flwyddyn nesaf’ rhoi ‘ac yn croesawu’r £38.9 miliwn o gyllid ychwanegol i Gymru o ganlyniad’. Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Yn nodi bod y dreth gyngor yng Nghymru eisoes 19% yn is nag yn Lloegr ac y bydd yn parhau i fod yn sylweddol is eleni. [os derbynnir gwelliant 4, bydd gwelliant 5 a 6 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwyntiau 3, 4 a 5 a rhoi’r canlynol yn eu lle: Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn darparu 1.3% yn rhagor o gyllid ar gyfer cynghorau yng Nghymru dros gyfnod yr adolygiad o wariant nag y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i gynghorau yn Lloegr, ac y gallai cynghorau ddefnyddio’r arian hwn mewn perthynas â rhewi’r dreth gyngor, os dymunant wneud hynny. Yn nodi y rhagwelir, ar ôl i bob awdurdod bennu ei gyllideb ar gyfer 2012-13, y bydd y cynnydd yn y dreth gyngor yng Nghymru yn is nag erioed. Yn mynegi ei fod yn gresynu wrth gynlluniau Llywodraeth y DU i ddiddymu budd-dal y dreth gyngor sy’n effeithio’n negyddol ar y bobl sydd fwyaf agored i niwed. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Dileu pwynt 3. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Dileu pwynt 5. Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y bydd cynghorau’n elwa ar refeniw ychwanegol drwy fwy o weithgarwch economaidd yn eu hardaloedd, ac yn croesawu’r pecyn ysgogi economaidd gwerth £38.9 miliwn, a fydd yn ceisio darparu gweithgarwch economaidd ychwanegol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.05 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM4930 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i ddyrannu cyllid i roi’r cyfle i awdurdodau lleol Lloegr rewi’r Dreth Gyngor am yr ail flwyddyn yn olynol, ac yn nodi y bydd oddeutu 90 y cant o Gynghorau Lloegr yn defnyddio’r arian hwn i sicrhau na fydd cartrefi’n wynebu cynnydd yn y Dreth Gyngor y flwyddyn nesaf. 2. Yn nodi cyhoeddiad Llywodraeth yr Alban y bydd pob awdurdod lleol yn yr Alban yn rhewi’r Dreth Gyngor ar gyfer 2012/2013, ac yn nodi ei bod wedi dechrau rhewi’r Dreth Gyngor yn 2008/2009. 3. Yn gresynu’n fawr wrth fethiant Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r £38.9 miliwn o arian canlyniadol i gynghorau Cymru, gan wrthod y cyfle i'r 22 awdurdod lleol rewi'r dreth gyngor. 4. Yn gresynu ymhellach yr amcangyfrifir y bydd y dreth gyngor yng Nghymru yn cynyddu bron i 2.2 y cant ar gyfartaledd dros y flwyddyn nesaf. 5. Yn mynegi siom nad yw'r rhan fwyaf o gartrefi Cymru wedi cael cymorth gyda chostau byw beunyddiol o ganlyniad i fethiant Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r £38.9 miliwn o arian canlyniadol i awdurdodau lleol.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 1, dileu “croesawu” a rhoi “nodi” yn ei le. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Ym mhwynt 1, ar ôl ‘y flwyddyn nesaf’ rhoi ‘ac yn croesawu’r £38.9 miliwn o gyllid ychwanegol i Gymru o ganlyniad.’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Yn nodi bod y dreth gyngor yng Nghymru eisoes 19% yn is nag yn Lloegr ac y bydd yn parhau i fod yn sylweddol is eleni. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwyntiau 3, 4 a 5 a rhoi’r canlynol yn eu lle: Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn darparu 1.3% yn rhagor o gyllid ar gyfer cynghorau yng Nghymru dros gyfnod yr adolygiad o wariant nag y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i gynghorau yn Lloegr, ac y gallai cynghorau ddefnyddio’r arian hwn mewn perthynas â rhewi’r dreth gyngor, os dymunant wneud hynny. Yn nodi y rhagwelir, ar ôl i bob awdurdod bennu ei gyllidebau ar gyfer 2012-13, y bydd y cynnydd yn y dreth gyngor yng Nghymru yn is nag erioed. Yn mynegi ei fod yn gresynu wrth gynlluniau Llywodraeth y DU i ddiddymu budd-dal y dreth gyngor sy’n effeithio’n negyddol ar y bobl sydd fwyaf agored i niwed. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd
gwelliant 4. Gan fod gwelliant 4
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 5 a 6 eu dad-ddethol. Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y bydd cynghorau’n elwa o refeniw ychwanegol drwy fwy o weithgarwch economaidd yn eu hardaloedd, ac yn croesawu’r pecyn ysgogi economaidd gwerth £38.9 miliwn, a fydd yn ceisio darparu gweithgarwch economaidd ychwanegol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Derbyniwyd
gwelliant 7. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4930 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i ddyrannu cyllid i roi’r cyfle i awdurdodau lleol Lloegr rewi’r Dreth Gyngor am yr ail flwyddyn yn olynol, ac yn nodi y bydd oddeutu 90 y cant o Gynghorau Lloegr yn defnyddio’r arian hwn i sicrhau na fydd cartrefi’n wynebu cynnydd yn y Dreth Gyngor y flwyddyn nesaf ac yn croesawu’r £38.9 miliwn o gyllid ychwanegol i Gymru o ganlyniad. 2. Yn nodi cyhoeddiad Llywodraeth yr Alban y bydd pob awdurdod lleol yn yr Alban yn rhewi’r Dreth Gyngor ar gyfer 2012/2013, ac yn nodi ei bod wedi dechrau rhewi’r Dreth Gyngor yn 2008/2009. 3. Yn nodi bod y dreth gyngor yng Nghymru eisoes 19% yn is nag yn Lloegr ac y bydd yn parhau i fod yn sylweddol is eleni. 4. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn darparu 1.3% yn rhagor o gyllid ar gyfer cynghorau yng Nghymru dros gyfnod yr adolygiad o wariant nag y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i gynghorau yn Lloegr, ac y gallai cynghorau ddefnyddio’r arian hwn mewn perthynas â rhewi’r dreth gyngor, os dymunant wneud hynny. 5. Yn nodi y rhagwelir, ar ôl i bob awdurdod bennu ei gyllidebau ar gyfer 2012-13, y bydd y cynnydd yn y dreth gyngor yng Nghymru yn is nag erioed. 6. Yn mynegi ei fod yn gresynu wrth gynlluniau Llywodraeth y DU i ddiddymu budd-dal y dreth gyngor sy’n effeithio’n negyddol ar y bobl sydd fwyaf agored i niwed. 7. Yn credu y bydd cynghorau’n elwa o refeniw ychwanegol drwy fwy o weithgarwch economaidd yn eu hardaloedd, ac yn croesawu’r pecyn ysgogi economaidd gwerth £38.9 miliwn, a fydd yn ceisio darparu gweithgarwch economaidd ychwanegol.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn Cododd Ann Jones bwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 13.9 ynghylch y defnydd o iaith briodol yn y Siambr. Dyfarnodd y Dirprwy Lywydd fod y defnydd o "crony" yn cael ei ystyried mewn trefn fel arfer oni bai fod y cyd-destun yn gwneud i’r ystyr ymddangos yn waeth. Cytunodd i adolygu’r Cofnod gan nodi y bydd ef neu’r Llywydd yn dyfarnu ar y mater, os bydd angen. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4931 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyflwyno ysgogiad ariannol cynhwysfawr ar gyfer yr economi, sy’n cynnwys buddsoddiad cyfalaf a ddaw o ffrydiau ariannu y tu allan i’r grant bloc; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn o brosiectau cyfalaf a mesurau pellach i gefnogi busnesau ac i ddiogelu swyddi. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i gyflwyno pecyn ariannol cynhwysfawr er mwyn helpu i ysgogi’r economi, gan gynnwys darparu buddsoddiad cyfalaf, o ffynonellau traddodiadol a rhai nad ydynt yn draddodiadol; a Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ym mhwynt 2, ar ôl ‘pellach’, rhoi ‘, fel gwell seilwaith a lefelau sgiliau uwch,’. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2: 'gan gynnwys diddymu ardrethi busnes ar gyfer cwmnïau hyd at werth ardrethol o £12,000’. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i wella economi Cymru. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y gellid darparu ysgogiad economaidd cynhwysfawr pe bai gan y Cynulliad bwerau benthyca a rhagor o gyfrifoldeb ariannol, ac yn croesawu sefydlu Comisiwn Silk sy’n ymchwilio i’r posibilrwydd hwn. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17:05. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM4931 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyflwyno ysgogiad ariannol cynhwysfawr ar gyfer yr economi, sy’n cynnwys buddsoddiad cyfalaf a ddaw o ffrydiau ariannu’r tu allan i’r grant bloc; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn o brosiectau cyfalaf a mesurau pellach i gefnogi busnesau ac i ddiogelu swyddi.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i gyflwyno pecyn ariannol cynhwysfawr er mwyn helpu i ysgogi’r economi, gan gynnwys darparu buddsoddiad cyfalaf, o ffynonellau traddodiadol a rhai nad ydynt yn draddodiadol; a Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ym mhwynt 2, ar ôl ‘pellach’, rhoi ‘, fel gwell seilwaith a lefelau sgiliau uwch,’. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2: 'yn cynnwys diddymu ardrethi busnes ar gyfer cwmnïau hyd at werth ardrethol o £12,000’. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos â Llywodraeth y DU i wella economi Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y gellid darparu ysgogiad economaidd cynhwysfawr petai gan y Cynulliad bwerau benthyca a rhagor o gyfrifoldeb ariannol, ac yn croesawu sefydlu Comisiwn Silk sy’n ymchwilio i’r posibilrwydd hwn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd
gwelliant 5. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4931 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i gyflwyno pecyn ariannol cynhwysfawr er mwyn helpu i ysgogi’r economi, gan gynnwys darparu buddsoddiad cyfalaf, o ffynonellau traddodiadol a rhai nad ydynt yn draddodiadol. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn o brosiectau cyfalaf a mesurau pellach, fel gwell seilwaith a lefelau sgiliau uwch, i gefnogi busnesau ac i ddiogelu swyddi. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos â Llywodraeth y DU i wella economi Cymru. 4. Yn credu y gellid darparu ysgogiad economaidd cynhwysfawr petai gan y Cynulliad bwerau benthyca a rhagor o gyfrifoldeb ariannol, ac yn croesawu sefydlu Comisiwn Silk sy’n ymchwilio i’r posibilrwydd hwn.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4929 Aled Roberts (Gogledd Cymru): “Clywch, Clywch” – Gwella Acwsteg yn yr Ystafell Ddosbarth Mae’r ddadl fer hon yn ceisio tynnu sylw at yr anawsterau y mae plant ysgol sydd â nam ar eu clyw yn eu hwynebu wrth geisio gwrando ar eu hathro mewn ystafell ddosbarth sydd ag acwsteg wael, a chefnogi galwadau am roi mwy o ystyriaeth i acwsteg wrth ddylunio ysgolion ac ystafelloedd dosbarth newydd. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.09 NDM4929 Aled Roberts
(Gogledd Cymru): “Clywch, Clywch” – Gwella Acwsteg yn yr Ystafell Ddosbarth Mae’r ddadl fer hon yn ceisio tynnu sylw at yr anawsterau y mae plant ysgol sydd â nam ar eu clyw yn eu hwynebu wrth geisio gwrando ar eu hathro mewn ystafell ddosbarth sydd ag acwsteg wael, a chefnogi galwadau am roi mwy o ystyriaeth i acwsteg wrth ddylunio ysgolion ac ystafelloedd dosbarth newydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 18.04 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |