Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Mae’r Llywydd wedi cytuno i
alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar
ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30. Gofynnwyd cwestiwn 1 a chwestiynau 3-14. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Llywydd: Diwrnod y Gymanwlad |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.28. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.40. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Diwygio Budd-dal Tai NDM4934 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at yr effaith y bydd newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU
i fudd-dal tai yn ei chael ar bobl dlotaf Cymru; 2. Yn nodi’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i’w wneud gyda
rhanddeiliaid i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: [os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 a 4 yn cael eu
dad-ddethol] Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i fudd-dal tai, sy'n
angenrheidiol er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg a gafodd ei adael gan y
Llywodraeth Lafur flaenorol. 2. Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i gynnwys cymorth tai mewn Credyd
Cynhwysol. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1 ‘gan gynnwys gweithwyr sydd ar gyflog isel’. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: 2. Yn nodi’r adroddiad gan Cuts Watch Cymru ‘Cymru ar y Dibyn’ a’i
argymhellion yng nghyswllt y newidiadau i fudd-dal tai. Mae linc i’r adroddiad ar gael drwy fynd i: http://www.cutswatchcymru.org/ Gwelliant 4 -
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2: ‘, ond yn credu ei bod yn amser rhoi'r gorau i siarad â Rhanddeiliaid ac yn
amser dechrau modelau cyflenwi da' Gwelliant 5 -
William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod ymgynghoriad Llywodraeth flaenorol y DU ar Fudd-dal Tai yn
dangos mewn rhai ardaloedd bod Budd-dal Tai yn gallu cefnogi cwsmeriaid i fyw
mewn llety na all nifer o bobl sydd mewn gwaith ei fforddio, ac yn dadlau bod
angen rhagor o ddiwygiadau. Gellir gweld ymgynghoriad Llywodraeth flaenorol y DU ar Fudd-dal Tai drwy
fynd i: http://www.dwp.gov.uk/consultations/2009/supportingpeopleintowork.shtml Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.15 NDM4934 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at yr effaith y bydd newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU
i fudd-dal tai yn ei chael ar bobl dlotaf Cymru; 2. Yn nodi’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i’w wneud gyda
rhanddeiliaid i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau. Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: [Os caiff gwelliant
1 ei dderbyn, caiff gwelliannau 2 a 4 eu dad-ddethol] Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i fudd-dal tai, sy'n
angenrheidiol er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg a gafodd ei adael gan y
Llywodraeth Lafur flaenorol. 2. Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i gynnwys cymorth tai mewn Credyd
Cynhwysol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1 ‘gan gynnwys gweithwyr sydd ar gyflog isel’. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: 2. Yn nodi’r adroddiad gan Cuts Watch Cymru ‘Cymru ar y Dibyn’ a’i
argymhellion yng nghyswllt y newidiadau i fudd-dal tai. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 -
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2: ‘, ond yn credu ei bod yn amser rhoi'r gorau i siarad â Rhanddeiliaid ac yn
amser dechrau modelau cyflenwi da' Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod ymgynghoriad Llywodraeth flaenorol y DU ar Fudd-dal Tai yn
dangos mewn rhai ardaloedd bod Budd-dal Tai yn gallu cefnogi cwsmeriaid i fyw
mewn llety na all nifer o bobl sydd mewn gwaith ei fforddio, ac yn dadlau bod
angen rhagor o ddiwygiadau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant
5. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4934 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at yr effaith y bydd newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU
i fudd-dal tai yn ei chael ar bobl dlotaf Cymru gan gynnwys gweithwyr sydd ar gyflog isel. 2. Yn nodi’r adroddiad gan Cuts Watch Cymru ‘Cymru ar y Dibyn’ a’i
argymhellion yng nghyswllt y newidiadau i fudd-dal tai. 3. Yn nodi’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i’w wneud gyda
rhanddeiliaid i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Strategaeth yr Iaith Gymraeg 2012-17 NDM4935
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg,
Iaith fyw: iaith byw, a fabwysiadwyd yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru
2006, wedi’i chyhoeddi; a 2. Yn nodi ymhellach yr ymrwymiad sydd yn y Strategaeth i weld y Gymraeg yn
ffynnu yng Nghymru a chynnydd yn nifer y bobl sy’n siarad ac yn defnyddio’r
iaith.
http://wales.gov.uk/topics/welshlanguage/publications/wlstrategy2012/?skip=1&lang=cy Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro lefel y cyfranogiad a fydd gan
sefydliadau gwirfoddol, annibynnol a phreifat wrth gyflenwi’r strategaeth. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi gyda phryder y ffaith bod nifer y cymunedau lle mae dros 70 y cant
o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi gostwng yn sylweddol yn ôl y cyfrifiad
diwethaf. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu grŵp gorchwyl
a gorffen i gynllunio ar gyfer cynyddu nifer y cymunedau lle mae'r Gymraeg yn
brif iaith. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar y Llywodraeth i gynnwys mesurau i adfywio'r Gymraeg fel iaith
gymunedol yn ei rhaglen ddeddfwriaeth. Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar y Llywodraeth i adnabod y gyllideb sy'n angenrheidiol i
wireddu'r strategaeth. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y caiff ei thargedau i gynyddu nifer
y disgyblion sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg eu cyrraedd. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.20 NDM4935 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, Iaith
fyw: iaith byw, a fabwysiadwyd yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru
2006, wedi’i chyhoeddi; a 2. Yn nodi
ymhellach yr ymrwymiad sydd yn y Strategaeth i weld y Gymraeg yn ffynnu yng
Nghymru a chynnydd yn nifer y bobl sy’n siarad ac yn defnyddio’r iaith. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro lefel y cyfranogiad a fydd gan
sefydliadau gwirfoddol, annibynnol a phreifat wrth gyflenwi’r strategaeth. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi gyda phryder y ffaith bod nifer y cymunedau lle mae dros 70 y cant
o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi gostwng yn sylweddol yn ôl y cyfrifiad
diwethaf. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu grŵp gorchwyl
a gorffen i gynllunio ar gyfer cynyddu nifer y cymunedau lle mae'r Gymraeg yn
brif iaith. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar y Llywodraeth i gynnwys mesurau i adfywio'r Gymraeg fel iaith
gymunedol yn ei rhaglen ddeddfwriaeth. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar y Llywodraeth i adnabod y gyllideb sy'n angenrheidiol i
wireddu'r strategaeth. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y caiff ei thargedau i gynyddu nifer y disgyblion sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg eu cyrraedd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant
6. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4935 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg,
Iaith fyw: iaith byw, a fabwysiadwyd yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth
Cymru 2006, wedi’i chyhoeddi; 2. Yn nodi
ymhellach yr ymrwymiad sydd yn y Strategaeth i weld y Gymraeg yn ffynnu yng
Nghymru a chynnydd yn nifer y bobl sy’n siarad ac yn defnyddio’r iaith; 3. Yn nodi gyda phryder y ffaith bod nifer y cymunedau lle mae dros 70 y
cant o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi gostwng yn sylweddol yn ôl y
cyfrifiad diwethaf; 4. Yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu grŵp
gorchwyl a gorffen i gynllunio ar gyfer cynyddu nifer y cymunedau lle mae'r
Gymraeg yn brif iaith; a 5. Yn galw ar y Llywodraeth i adnabod y gyllideb sy'n angenrheidiol i
wireddu'r strategaeth.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.11 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |