Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13:30. Gofynnwyd y 12 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.16 Gofynnwyd y 13 cwestiwn. Cafodd Cwestiynau 2 a 12 eu grwpio i gael eu hateb
gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Llywydd Cyhoeddodd y Llywydd fod Mick Antoniw wedi ennill ballot yr Aelodau I gyflwyno cynigion ar gyfer deddfwriaeth. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.91, caiff Mick Antoinw felly, geisio cytundeb y Cynulliad I gyflwyno Bil arfaethedig Aelod ynghylch Asbestos (Adennill Costau Meddygol). |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig i gymeradwyo protocol ynghylch newidiadau i’r cynnig cyllidebol NDM4948 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn cymeradwyo'r
Protocol ynghylch Newidiadau
i Gynnig y Gyllideb, a gytunwyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Pwyllgor sy'n gyfrifol
am y swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog
19. Gosodwyd y Protocol ynghylch Newidiadau
i Gynnig y Gyllideb gerbron y Cynulliad ar 14 Mawrth 2012. Dogfen Ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.57 NDM4948 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cymeradwyo'r Protocol ynghylch Newidiadau i Gynnig y Gyllideb, a gytunwyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Pwyllgor sy'n gyfrifol am y swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 19. Gosodwyd y Protocol ynghylch Newidiadau i Gynnig y Gyllideb gerbron y Cynulliad ar 14 Mawrth 2012. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig i ddirymu Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012 NDM4940 Peter Black
(Gorllewin De Cymru) Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2: Yn cytuno bod Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 6 Mawrth 2012, yn cael ei ddirymu. Dogfennau Ategol: Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012 Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.06. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Canlyniad y bleidlais: Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: NDM4940 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2: Yn cytuno bod Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 6 Mawrth 2012, yn cael ei ddirymu.
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4946 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol yn gweithredu mewn modd sy’n dryloyw ac yn atebol i’r bobl y mae’n eu cynrychioli; 2. Yn credu y byddai cyflwyno refferenda ar gynnydd arfaethedig uwch na 3.5 y cant yn y dreth gyngor flynyddol yn gwella tryloywder, atebolrwydd a democratiaeth yng Nghymru; a 3. Yn croesawu camau a gymerir gan rai awdurdodau lleol yng Nghymru i gyhoeddi pob gwariant dros £500.00, ac yn annog pob awdurdod lleol yng Nghymru i sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: [os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2 ac yn ei le rhoi: Yn cydnabod bod pennu’r dreth gyngor yn fater i awdurdodau lleol unigol a bod y tryloywder a’r atebolrwydd yn cael eu cynnal drwy’r blwch pleidleisio bob pedair blynedd.’ [Os
derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ym mhwynt 2 dileu popeth cyn ‘yn gwella’ a rhoi yn ei le ‘Yn credu y byddai cyflwyno system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar lefel llywodraeth leol’ Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2 ‘ond yn credu, wrth i deuluoedd cyffredin wynebu cyfnod anodd, nad yw cost uwch cynnal refferenda lleol yn flaenoriaeth’. Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 3 ac yn ei le rhoi: ‘Yn croesawu camau a gymerir gan gynghorau yng Nghymru i sicrhau mwy o dryloywder ond yn cydnabod bod angen gwneud yn siwr fod y beichiau gweinyddol a roddir ar awdurdodau lleol yn sgîl mwy o dryloywder yn gymesur â hynny.’ Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.47. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM4946 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol yn gweithredu mewn modd sy’n dryloyw ac yn atebol i’r bobl y mae’n eu cynrychioli; 2. Yn credu y byddai cyflwyno refferenda ar gynnydd arfaethedig uwch na 3.5 y cant yn y dreth gyngor flynyddol yn gwella tryloywder, atebolrwydd a democratiaeth yng Nghymru; a 3. Yn croesawu camau a gymerir gan rai awdurdodau lleol yng Nghymru i gyhoeddi pob gwariant dros £500.00, ac yn annog pob awdurdod lleol yng Nghymru i sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2 ac yn ei le rhoi: Yn cydnabod bod pennu’r dreth gyngor yn fater i awdurdodau lleol unigol a bod y tryloywder a’r atebolrwydd yn cael eu cynnal drwy’r blwch pleidleisio bob pedair blynedd.’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ym mhwynt 2 dileu popeth cyn ‘yn gwella’ a rhoi yn ei le ‘Yn credu y byddai cyflwyno system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar lefel llywodraeth leol’ Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2 ‘ond yn credu, wrth i deuluoedd cyffredin wynebu cyfnod anodd, nad yw cost uwch cynnal refferenda lleol yn flaenoriaeth’. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 3 ac yn ei le rhoi: ‘Yn croesawu camau a gymerir gan gynghorau yng Nghymru i sicrhau mwy o dryloywder ond yn cydnabod bod angen gwneud yn siwr fod y beichiau gweinyddol a roddir ar awdurdodau lleol yn sgîl mwy o dryloywder yn gymesur â hynny.’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4946 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol yn gweithredu mewn modd sy’n dryloyw ac yn atebol i’r bobl y mae’n eu cynrychioli; 2. Yn cydnabod bod pennu’r dreth gyngor yn fater i awdurdodau lleol unigol a bod y tryloywder a’r atebolrwydd yn cael eu cynnal drwy’r blwch pleidleisio bob pedair blynedd; a 3. Yn croesawu camau a gymerir gan gynghorau yng Nghymru i sicrhau mwy o dryloywder ond yn cydnabod bod angen gwneud yn siwr fod y beichiau gweinyddol a roddir ar awdurdodau lleol yn sgîl mwy o dryloywder yn gymesur â hynny.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4945 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn credu y byddai datganoli rhagor o bwerau yn helpu i sicrhau economi gynaliadwy a ffyniannus. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1- William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu
gwaith Comisiwn Silk ac yn disgwyl ei
argymhellion ar ragor o ddiwygio cyfansoddiadol. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod
bod economi gynaliadwy a ffyniannus yn galw
am: a) strategaeth i hyrwyddo busnesau cynhenid ar y farchnad
ryngwladol; a b) ymgysylltiad llawn â Llywodraeth y DU i hyrwyddo’r cwmnïau hynny o’r DU sydd
â sefydliadau yng Nghymru. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r
Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a sefydlwyd gan lywodraeth y DU i edrych ar ddatblygiad
pellach o ran datganoli pwerau gan gynnwys
cyfrifoldeb ariannol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.42. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM4945 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn credu y byddai datganoli rhagor o bwerau yn helpu i sicrhau economi gynaliadwy a ffyniannus.
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM4947 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth yr ystadegau newydd sy’n dangos bod Cynnyrch Mewnwladol Crynswth y pen yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd wedi gostwng o 79 y cant i 68.4 y cant o gyfartaledd yr UE; 2. Yn nodi bod yr ystadegau hynny wedi cael eu mesur yn gyson o flwyddyn i flwyddyn ac ar draws gwahanol ranbarthau a gwledydd yr UE; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth datblygu economaidd ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd ar fyrder er mwyn sicrhau, pe byddai Cymru’n gymwys ar gyfer cylch ychwanegol o gyllid, y gall prosiectau sy’n canolbwyntio ar ysgogi twf economaidd ddechrau ar unwaith. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dilewch bwynt 3 a rhoi yn ei le: ‘Yn nodi bod Llywodraeth Cymru law yn llaw â’i phartneriaid yn paratoi strategaethau a hefyd brosiectau posibl i’w darparu yng nghyfnod Rhaglen 2014-2019 y Cronfeydd Strwythurol, sydd ar ein gwarthaf, hynny ynghyd â’r gyfres o weithgareddau sydd wrthi’n cael eu cynnal i helpu adfywiad economaidd y Gorllewin a’r Cymoedd a’r Dwyrain.’ Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod sector preifat cryf yn hanfodol er mwyn hybu twf economaidd yn rhannau tlotaf Cymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.35. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM4947 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth yr ystadegau newydd sy’n dangos bod Cynnyrch Mewnwladol Crynswth y pen yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd wedi gostwng o 79 y cant i 68.4 y cant o gyfartaledd yr UE; 2. Yn nodi bod yr ystadegau hynny wedi cael eu mesur yn gyson o flwyddyn i flwyddyn ac ar draws gwahanol ranbarthau a gwledydd yr UE; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth datblygu economaidd ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd ar fyrder er mwyn sicrhau, pe byddai Cymru’n gymwys ar gyfer cylch ychwanegol o gyllid, y gall prosiectau sy’n canolbwyntio ar ysgogi twf economaidd ddechrau ar unwaith.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dilewch bwynt 3 a rhoi yn ei le: ‘Yn nodi bod Llywodraeth Cymru law yn llaw â’i phartneriaid yn paratoi strategaethau a hefyd brosiectau posibl i’w darparu yng nghyfnod Rhaglen 2014-2019 y Cronfeydd Strwythurol, sydd ar ein gwarthaf, hynny ynghyd â’r gyfres o weithgareddau sydd wrthi’n cael eu cynnal i helpu adfywiad economaidd y Gorllewin a’r Cymoedd a’r Dwyrain.’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod sector preifat cryf yn hanfodol er mwyn hybu twf economaidd yn rhannau tlotaf Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4947 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth yr ystadegau newydd sy’n dangos bod Cynnyrch Mewnwladol Crynswth y pen yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd wedi gostwng o 79 y cant i 68.4 y cant o gyfartaledd yr UE; 2. Yn nodi bod yr ystadegau hynny wedi cael eu mesur yn gyson o flwyddyn i flwyddyn ac ar draws gwahanol ranbarthau a gwledydd yr UE; a 3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru law yn llaw â’i phartneriaid yn paratoi strategaethau a hefyd brosiectau posibl i’w darparu yng nghyfnod Rhaglen 2014-2019 y Cronfeydd Strwythurol, sydd ar ein gwarthaf, hynny ynghyd â’r gyfres o weithgareddau sydd wrthi’n cael eu cynnal i helpu adfywiad economaidd y Gorllewin a’r Cymoedd a’r Dwyrain. 4. Yn cydnabod bod sector preifat cryf yn hanfodol er mwyn hybu twf economaidd yn rhannau tlotaf Cymru.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 18.33. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4944 Joyce Watson
(Canolbarth a Gorllewin
Cymru): Rhagdalu’r pris
am drydan a nwy. A ddylai cwmnïau
ynni sicrhau bod y cartrefi tlotaf ar y tariffau isaf
sydd ar gael? Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.38. NDM4944 Joyce Watson
(Canolbarth a Gorllewin
Cymru): Rhagdalu’r pris am drydan a nwy. A ddylai cwmnïau ynni sicrhau bod y cartrefi tlotaf ar y tariffau isaf sydd ar gael? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |