Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13:30 Gofynnwyd y 15 cwestiwn.
Atebwyd cwestiynau 3 a 8 gan y Dirprwy Weinidog
Sgiliau. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:18 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 15:01 Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn datganiad ysgrifenedig y Gweinidog ar yr Adolygiad Canol-Blwyddyn o Gyllid y GIG, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys ar gynaliadwyedd cyllid y GIG yng Nghymru. |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Mick Antoniw: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod - y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:11 |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Atal Thrombo-emboledd Gwythiennol Ymhlith Cleifion Mewn Ysbytai NDM5116 Mark
Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar
ei ymchwiliad undydd i atal thrombo-emboledd gwythiennol ymhlith cleifion mewn
ysbytai yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2012. Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Tachwedd 2012. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:43 NDM5116 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad undydd i atal thrombo-emboledd gwythiennol ymhlith cleifion mewn ysbytai yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2012. Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Tachwedd 2012. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5114 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn credu bod Uned Gyflawni’r Prif Weinidog yn aneffeithiol, o ystyried methiant parhaus Llywodraeth Cymru i wella bywydau pobl Cymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Yn galw ar y Prif Weinidog i gyhoeddi adroddiad blynyddol yn amlinellu cynnydd yr Uned Gyflawni o ran gwella gwasanaethau cyhoeddus. Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Rhoi pwyntiau newydd ar ddechrau’r cynnig: Yn gresynu wrth y ffaith, ers sefydlu’r Uned Gyflawni: a) bod nifer y cleifion sy’n cael eu trin o fewn 26 wythnos ac o fewn 36 wythnos wedi gostwng, yn ôl ffigurau mis Medi 2011 a mis Medi 2012 gan StatsCymru; b) roedd nifer y myfyrwyr a gafodd 5 TGAU A*-C yng Nghymru yn sylweddol is nag yn Lloegr; c) bod diweithdra tymor hir ymysg pobl ifanc wedi codi 400%, yn ôl ffigurau mis Awst 2011 a mis Awst 2012 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol; Yn gresynu ymhellach, er gwaethaf yr Uned Gyflawni, bod y Llywodraeth yn dal yn annhebygol o gyrraedd ei tharged o ddileu tlodi tanwydd ymysg pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol erbyn 2012. Gellir gweld yr ystadegau ar amseroedd aros drwy fynd i: http://wales.gov.uk/docs/statistics/2012/121108sdr1942012en.pdf (Saesneg yn unig) Gellir gweld yr ystadegau ar ddiweithdra ymysg pobl ifanc drwy fynd i: http://www.nomisweb.co.uk/reports/lmp/gor/2013265930/subreports/gor_ccadr_time_series/report.aspx (Saesneg yn unig) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16:22 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5114 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn credu bod Uned Gyflawni’r Prif Weinidog yn aneffeithiol, o ystyried methiant parhaus Llywodraeth Cymru i wella bywydau pobl Cymru.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Yn galw ar y Prif Weinidog i gyhoeddi adroddiad blynyddol yn amlinellu cynnydd yr Uned Gyflawni o ran gwella gwasanaethau cyhoeddus. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Rhoi pwyntiau newydd ar ddechrau’r cynnig: Yn gresynu wrth y ffaith, ers sefydlu’r Uned Gyflawni: a) bod nifer y cleifion sy’n cael eu trin o fewn 26 wythnos ac o fewn 36 wythnos wedi gostwng, yn ôl ffigurau mis Medi 2011 a mis Medi 2012 gan StatsCymru; b) roedd nifer y myfyrwyr a gafodd 5 TGAU A*-C yng Nghymru yn sylweddol is nag yn Lloegr; c) bod diweithdra tymor hir ymysg pobl ifanc wedi codi 400%, yn ôl ffigurau mis Awst 2011 a mis Awst 2012 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol; Yn gresynu ymhellach, er gwaethaf yr Uned Gyflawni, bod y Llywodraeth yn dal yn annhebygol o gyrraedd ei tharged o ddileu tlodi tanwydd ymysg pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol erbyn 2012. Gellir gweld yr ystadegau ar amseroedd aros drwy fynd i: http://wales.gov.uk/docs/statistics/2012/121108sdr1942012en.pdf (Saesneg yn unig) Gellir gweld yr ystadegau ar ddiweithdra ymysg pobl ifanc drwy fynd i: http://www.nomisweb.co.uk/reports/lmp/gor/2013265930/subreports/gor_ccadr_time_series/report.aspx (Saesneg yn unig) Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd
gwelliant 2. Gan nad yw’r Cynulliad wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio,
na derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd
y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5115 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth y lefel uchel barhaus o bobl ifanc sy’n ddi-waith; 2. Yn croesawu cytundeb Llywodraeth Cymru i ddarparu £20m ychwanegol ar gyfer 2013-14, a swm dangosol tebyg ar gyfer 2014-15, i gyllido prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi ychwanegol i bobl ifanc 16-24 oed; 3. Yn cydnabod bod angen rhoi rhagor o gymhellion i gyflogwyr bach a chanolig gynnig prentisiaethau sy’n gallu cynnig amrywiaeth o sgiliau i bobl ifanc. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn mynegi pryder nad yw cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru yn sicrhau’n ddigonol bod swyddi’n cael eu creu’n barhaol i bobl ifanc. [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn nodi nad yw’n glir yn union pa raglenni’r Llywodraeth fydd yn cael eu hehangu, na pha raglenni newydd fydd yn cael eu creu, o ganlyniad i gytundeb Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau, ac felly’n galw ar y Llywodraeth i wneud datganiad cyn gynted â phosibl ynghylch sut y mae’n bwriadu dyrannu’r arian hwn. Gwelliant 3 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu bod diweithdra ymysg pobl ifanc yn uwch yng Nghymru (43%) nag yn Lloegr (39%) yn 2011/12. Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3: ‘, gan gynnwys, o bosibl, grantiau hyfforddi i fusnesau sy’n cyflogi pobl ifanc ddi-waith’ Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth y ffaith, o dan un Llywodraeth Cymru ar ôl y llall ers datganoli, nad yw canran y bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed sy’n hawlio budd-dal diweithdra erioed wedi bod o dan ffigur cyfartalog y DU. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17:23 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5115 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth y lefel uchel barhaus o bobl ifanc sy’n ddi-waith; 2. Yn croesawu cytundeb Llywodraeth Cymru i ddarparu £20m ychwanegol ar gyfer 2013-14, a swm dangosol tebyg ar gyfer 2014-15, i gyllido prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi ychwanegol i bobl ifanc 16-24 oed; 3. Yn cydnabod bod angen rhoi rhagor o gymhellion i gyflogwyr bach a chanolig gynnig prentisiaethau sy’n gallu cynnig amrywiaeth o sgiliau i bobl ifanc.
Derbyniwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer - GOHIRIWYD NDM5113 Ken Skates
(De Clwyd): Y Dirwasgiad Maethol – Effaith cynnydd mewn prisiau bwyd a gostyngiad mewn cyllidebau ar iechyd maethol Cymru Penderfyniad: NDM5113 Ken Skates
(De Clwyd): Y Dirwasgiad Maethol – Effaith cynnydd mewn prisiau bwyd a gostyngiad mewn cyllidebau ar iechyd maethol Cymru |
|||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn 1 Cododd Antoinette Sandbach Bwynt o Drefn ynghylch amseriad y cynnig i atal dros dro y Rheolau Sefydlog a’r cynigion i dderbyn y Rheoliadau. Gofynnodd sut yr oedd y Llywydd yn fodlon na fyddai caniatáu’r cynnig i atal dros dro y Rheolau Sefydlog yn amharu ar hawliau lleiafrifoedd yn y Cynulliad. Cadarnhaodd y Llywydd ei bod yn fodlon
bod y Cynnig mewn trefn gan fod
wythnos o rybudd wedi ei roi
i’r Cynulliad y bydd y Rheoliadau yn cael eu
trafod. |
||||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn 2 Cododd Simon Thomas Bwynt o drefn ynghylch y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gosod deddfwriaeth yn Saesneg yn unig. Eglurodd y Llywydd fod y Rheolau Sefydlog
yn caniatáu i hyn ddigwydd o dan amgylchiadau eithriadol. |
||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i atal dros dro Reol Sefydlog 27.7 ac 12.20(i) er mwyn caniatáu cynnal dadl ar y ddwy eitem nesaf o fusnes (5 munud) Dechreuodd yr eitem am 18:20 NDM5117 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal dros dro Reol Sefydlog 12.20(i) a Rheol Sefydlog 27.7 er mwyn caniatáu i NDM5118 a NDM5119 gael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 5 Rhagfyr 2012. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Gan nad
oedd dwy ran o dair o’r Aelodau
a bleidleisiodd yn cefnogi’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn 3 Cododd y Prif Weinidog Bwynt o Drefn yn hysbysu’r Cynulliad ei fod yn ystyried ysgrifennu at y Llywydd yn galw am ailgynnull y Cynulliad. Nododd y Llywydd y byddai’n ystyried unrhyw gais ffurfiol a ddaw i law, ond y byddai am gael gwybod pa amgylchiadau sydd wedi newid er mwyn cyfianwhau’r alwad i ailgynnull. |
||||||||||||||||||||||||||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: |
||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) NDM5118 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2012. Dogfennau Ategol: Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 Penderfyniad: Gan nad
oedd dwy ran o dair o’r Aelodau
a bleidleisiodd yn cefnogi’r cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros dro,
ni chafodd eitemau 8 a 9 eu trafod. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) NDM5119 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2012. Dogfennau Ategol: Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012 Penderfyniad: Gan nad
oedd dwy ran o dair o’r Aelodau
a bleidleisiodd yn cefnogi’r cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros dro,
ni chafodd eitemau 8 a 9 eu trafod. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 18:57 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |