Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Datganiad gan y Llywydd: galw'r Cynulliad yn ôl

 

Nododd y Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog 12.3, ar gais y Prif Weinidog, ei bod wedi cynnull y Cynulliad i ystyried y Rheoliadau Treth Gyngor drafft fel mater sydd o bwys cyhoeddus brys.

 

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:

(30 munud)

1.

Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru)

 

NDM5122 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2012.

 

Dogfennau Ategol:

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012

Memorandwm Esboniadol
Y Gwasanaeth Ymchwil Briff i’r Cyfarfod Llawn – Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.31

Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 y byddai’r ddwy eitem a ganlyn yn cael eu trafod gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.

NDM5122 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

2.

Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru)

 

NDM5123 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2012.

 

Dogfennau Ategol:

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012

Memorandwm Esboniadol

Penderfyniad:

NDM5123 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15(i), bydd unrhyw bleidlais angenrheidiol yn cael ei chynnal ar ddiwedd y ddadl ar y cynnig.

Pwynt o Drefn

 

Dechreuodd yr eitem am 14.23

 

Cododd Andrew R. T. Davies, Arweinydd yr Wrthblaid, Bwynt o Drefn yn gofyn am gyngor ynghylch a ellid gofyn Cwestiynau Brys yn y Cyfarfod Llawn heddiw.

 

Cyfeiriodd y Llywydd at Reol Sefydlog 12.3 a wnaeth ei galluogi i gynnull y Cynulliad ar gyfer y cyfarfod heddiw ar gais y Prif Weinidog. Rhaid i’r cais fod mewn perthynas â mater penodol o bwys cyhoeddus brys, sef ystyried y Rheoliadau Treth Gyngor.

 

Dyfarnodd y Llywydd fod cynnull cyfarfod yn y ffordd hon yn eithriadol ac yn syrthio y tu allan i lawer o’r gweithdrefnau arferol ar gyfer pennu busnes yn y Cyfarfod Llawn ac mai’r unig beth y byddai’r Cynulliad yn canolbwyntio arno heddiw oedd y Rheoliadau.

 

Atgoffodd y Llywydd yr Aelodau y bydd unrhyw Gwestiynau Brys a gaiff eu cyflwyno yn ystod y toriad yn cael eu hystyried fel arfer cyn y Cyfarfod Llawn cyntaf a bod hefyd cyfle i’r Aelodau gyflwyno cwestiynau ysgrifenedig i’r Llywodraeth yn ystod y toriad.

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: