Agenda
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: |
|
(0 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
|
(0 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Kirsty Williams: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod - y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) |
|
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NNDM5625 Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn credu y dylid datganoli plismona (heblaw am Asiantaeth
Troseddu Cenedlaethol y DU a diogelwch gwladol). |
|
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar agwedd Llywodraeth Cymru tuag at hybu masnach a mewnfuddsoddi NDM5644
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei
Ymchwiliad i Agwedd Llywodraeth Cymru tuag at Hybu Masnach a Mewnfuddsoddi, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2014. Dogfennau
Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Menter a Busnes |
|
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5643
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu masnach rhwng Cymru ac
Unol Daleithiau America; 2. Yn credu y dylai gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y
Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gael eu heithrio rhag effeithiau y Bartneriaeth
Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig; 3. Yn credu na ddylid caniatáu i'r Bartneriaeth Masnach a
Buddsoddi Trawsatlantig atal llywodraethau democrataidd rhag trefnu unrhyw
wasanaethau eraill ar sail perchnogaeth gyhoeddus; 4. Yn gwrthwynebu cynnwys setliad ar gyfer anghydfod
rhwng buddsoddwyr a gwladwriaethau yn y cytundeb; 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i
Lywodraeth y DU ynghylch: a) eithrio gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y
Gwasanaeth Iechyd Gwladol, o'r Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig;
a b) gwrthod y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi
Trawsatlantig os yw'r cytundeb terfynol, pan gaiff ei gyflwyno i'w gadarnhau,
yn tanseilio pwerau llywodraethau democrataidd i wneud penderfyniadau. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd cytundebau masnach
rhyngwladol, fel y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig, i greu
dyfodol economaidd gwell i bobl Cymru; 2. Yn credu y dylai llywodraethau fod yn ymwybodol o
bwysigrwydd sefydliadau cenedlaethol, megis y GIG, wrth gytuno ar y
Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig; a 3. Yn nodi cynsail partneriaethau masnach presennol sy'n
cynnwys dulliau diogelu sy'n eithrio gwasanaethau cyhoeddus allweddol o
gytundebau o'r fath. [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwyntiau 2 i 5 a rhoi yn eu lle: 2. Yn croesawu trafodaethau ar fasnach a buddsoddi rhwng
yr UE a'r Unol Daleithiau a allai fod werth hyd at £10 biliwn ychwanegol i
economi'r DU bob blwyddyn; 3. Yn croesawu sylwadau'r Comisiynydd Ewropeaidd dros Fasnach,
Karel de Gucht, a ddywedodd wrth yr International Business Times: "Bydd
eithriad i wasanaethau cyhoeddus yn y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi
Trawsatlantig, ac rydym wedi gwneud hynny'n glir iawn yn ein trafodaethau
gyda'r Unol Daleithiau. Byddai hynny'n cynnwys y GIG..."; 4. Yn croesawu'r ffaith na fydd y setliad ar gyfer
anghydfod rhwng buddsoddwyr a gwladwriaethau yn berthnasol i ddeddfwriaeth yr
aelod-wladwriaethau mewn perthynas ag iechyd, diogelwch y cyhoedd neu
ddiogelwch; a 5. Yn croesawu'r ffaith bod y Comisiwn Ewropeaidd yn atal
dros dro'r agwedd ar y cytuniad sy'n ymwneud â'r setliad ar gyfer anghydfod
rhwng buddsoddwyr a gwladwriaethau er mwyn ymgymryd â gwaith ymgynghori
pellach. Gallwch weld yr erthygl o'r International Business Times
drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://www.ibtimes.co.uk/eu-trade-commissioner-karel-de-gucht-confirms-nhs-exemption-ttip-1456538
[Saesneg yn unig] |
|
Cyfnod pleidleisio |
||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5642
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cymru ar y blaen – gwerthuso Cylchffordd Cymru. |
|
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |