Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 7, 10, 11, 13 a 15 eu grwpio.
Gwahoddodd y Llywydd llefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog
ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.21 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd llefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog
ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch ei ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru NDM5648
David Rees (Aberafan) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ar y cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer
Canser Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Hydref 2014. Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2014. Dogfennau
Atodol Adroddiad
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.05 NDM5648 David Rees (Aberafan) Mae Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu
Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 16 Hydref 2014. Nodyn: Gosodwyd ymateb y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2014. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NNDM5636 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd) Mick
Antoniw (Pontypridd) Alun
Ffred Jones (Arfon) Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cefnogi egwyddorion y Bil Cymorth i Farw. Mae'r Bil Cymorth i Farw ar gael yn: http://services.parliament.uk/bills/2014-15/assisteddying.html (Saesneg yn unig) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.53 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. NNDM5636 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) Mick Antoniw (Pontypridd) Alun Ffred Jones (Arfon) Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir
Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn cefnogi egwyddorion y Bil
Cymorth i Farw. Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5654
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi, o dan y Rhaglen Lywodraethu bresennol, fod
Llywodraeth Cymru wedi methu o ran ei hamcanion allweddol i gyflawni dros bobl
Cymru. 2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi
methu â chyhoeddi amserlen gyflawn ar gyfer Dangosyddion Perfformiad Allweddol
ar ddechrau'r Cynulliad hwn; a 3. Yn galw ar y Prif Weinidog i nodi ei bumed flwyddyn yn
y swydd drwy gyhoeddi amserlen ar gyfer cyrraedd targedau ei Lywodraeth o ran: a) perfformiad y GIG; b) perfformiad addysgol Cymru yn erbyn safonau
rhyngwladol megis PISA; ac c) gwelliant mewn perfformiad economaidd ledled Cymru. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gael yn: http://wales.gov.uk/about/programmeforgov/?lang=cy Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Swyddfa
Ystadegau Gwladol a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i sicrhau bod gan Gymru
set lawn o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol cyfredol ar gyfer yr economi. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.07 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5654 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Mae Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn nodi, o dan y Rhaglen
Lywodraethu bresennol, fod Llywodraeth Cymru wedi methu o ran ei hamcanion
allweddol i gyflawni dros bobl Cymru. 2. Yn gresynu at y ffaith bod
Llywodraeth Cymru wedi methu â chyhoeddi amserlen gyflawn ar gyfer Dangosyddion
Perfformiad Allweddol ar ddechrau'r Cynulliad hwn; a 3. Yn galw ar y Prif Weinidog
i nodi ei bumed flwyddyn yn y swydd drwy gyhoeddi amserlen ar gyfer cyrraedd
targedau ei Lywodraeth o ran: a) perfformiad y GIG; b) perfformiad addysgol Cymru
yn erbyn safonau rhyngwladol megis PISA; ac c) gwelliant mewn perfformiad
economaidd ledled Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 3 newydd ac
ailrifo yn unol â hynny: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
weithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i
sicrhau bod gan Gymru set lawn o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol cyfredol
ar gyfer yr economi. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5654 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Mae Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn nodi, o dan y Rhaglen
Lywodraethu bresennol, fod Llywodraeth Cymru wedi methu o ran ei hamcanion
allweddol i gyflawni dros bobl Cymru. 2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth
Cymru wedi methu â chyhoeddi amserlen gyflawn ar gyfer Dangosyddion Perfformiad
Allweddol ar ddechrau'r Cynulliad hwn; 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio
gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i sicrhau
bod gan Gymru set lawn o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol cyfredol ar gyfer
yr economi; a 4. Yn galw ar y Prif Weinidog
i nodi ei bumed flwyddyn yn y swydd drwy gyhoeddi amserlen ar gyfer cyrraedd
targedau ei Lywodraeth o ran: a) perfformiad y GIG; b) perfformiad addysgol Cymru
yn erbyn safonau rhyngwladol megis PISA; ac c) gwelliant mewn perfformiad
economaidd ledled Cymru.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd
y Dirprwy Lwydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.02 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5647
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Sicrhau dyfodol ffermio yng Nghymru Yr hyn y gall Cymru ei ddysgu wrth ei phartneriaid yn yr
UE i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o ffermwyr yn gallu cael mynediad i dir,
adeiladu eu busnesau a manteisio'n llawn ar gronfeydd datblygu Ewropeaidd. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.05 NDM5647 William Powell (Canolbarth a Gorllewin
Cymru) Sicrhau dyfodol ffermio yng
Nghymru Yr hyn y gall Cymru ei ddysgu
wrth ei phartneriaid yn yr UE i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o ffermwyr yn
gallu cael mynediad i dir, adeiladu eu busnesau a manteisio'n llawn ar
gronfeydd datblygu Ewropeaidd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |