Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd y 13
cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 8 a 9 eu grwpio. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
14.16 Gofynnwyd y ddau
gwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
14.22 Gofynnwyd y cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5854 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r rôl
hanfodol y mae cysylltedd rhyngwladol yn ei chwarae o ran cynnal twf economaidd
drwy fewnfuddsoddi, masnach a thwristiaeth; 2. Yn credu y dylai Llywodraeth
Cymru fabwysiadu cynllun clir i wella cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru; 3. Yn nodi'r cyfleoedd i
hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy: a) dychwelyd Maes Awyr
Caerdydd i berchnogaeth breifat; a b) rhannu'r enillion o'i
werthu rhwng buddsoddi mewn seilwaith a dychwelyd y buddsoddiad gwreiddiol i
drethdalwyr Cymru. 4. Yn cydnabod y
cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy gefnogi'r rôl bwysig y
mae porthladdoedd Cymru yn ei chwarae o ran sicrhau twf a chreu swyddi; 5. Yn credu bod yn rhaid
i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynlluniau clir i wella'r A40 i Abergwaun a'r A55 i
Gaergybi er mwyn gwella cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru; a 6. Yn cydnabod ymhellach
y rôl y gall rheilffordd Calon Cymru ei chwarae fel coridor trafnidiaeth ar
gyfer canolbarth Cymru, a'i rôl bosibl o ran gyrru cysylltedd Cymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn nodi bwriad datganedig Lywodraeth Cymru o ganfod gweithredwr sector preifat
ar gyfer Maes Awyr Caerdydd ar adeg ei brynu ac yn galw am ddiweddariad
ysgrifenedig ar gynnydd yn hynny o beth. [os derbynnir gwelliant 1,
bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 – Elin Jones
(Ceredigion) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn nodi'r cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy: a) cefnogi twf Maes Awyr Caerdydd fel pwynt mynediad i Gymru; a b) cefnogi cysylltedd rhwng Cymru a meysydd awyr canolog allweddol fel
Heathrow a Manceinion. Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro
Morgannwg) – Tynnwyd yn ôl Dileu pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny. Gwelliant 4 – Elin Jones
(Ceredigion) Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod ymhellach rôl rheilffyrdd Cymru o ran sicrhau cysylltedd mewnol
ac allanol, ac yn cefnogi: a) datblygu rheilffordd Calon Cymru; b) trydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru; c) trydaneiddio prif reilffordd y Great Western a rheilffyrdd y Cymoedd; a d) trydaneiddio rheiffordd y Gororau. Gwelliant 5 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bylchau sylweddol o ran prosiectau trydaneiddio rheilffyrdd yng
nghynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol Llywodraeth Cymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynnwys trydaneiddio llinellau Glyn Ebwy, Ynys y Barri, Bro
Morgannwg, Penarth a Maesteg. Cynllun
Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol Gwelliant 6 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb
i ailosod cysylltiadau rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i gysylltu
â'r rhwydwaith sydd eisoes yn bodoli. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.25 Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5854 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
nodi'r rôl hanfodol y mae cysylltedd rhyngwladol yn ei chwarae o ran cynnal twf
economaidd drwy fewnfuddsoddi, masnach a thwristiaeth; 2. Yn
credu y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu cynllun clir i wella cysylltedd
rhyngwladol yng Nghymru; 3. Yn
nodi'r cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy: a)
dychwelyd Maes Awyr Caerdydd i berchnogaeth breifat; a b)
rhannu'r enillion o'i werthu rhwng buddsoddi mewn seilwaith a dychwelyd y
buddsoddiad gwreiddiol i drethdalwyr Cymru. 4. Yn
cydnabod y cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy gefnogi'r
rôl bwysig y mae porthladdoedd Cymru yn ei chwarae o ran sicrhau twf a chreu
swyddi; 5. Yn
credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynlluniau clir i wella'r A40 i
Abergwaun a'r A55 i Gaergybi er mwyn gwella cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru;
a 6. Yn
cydnabod ymhellach y rôl y gall rheilffordd Calon Cymru ei chwarae fel coridor
trafnidiaeth ar gyfer canolbarth Cymru, a'i rôl bosibl o ran gyrru cysylltedd
Cymru.
Gwrthodwyd
y Cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn nodi bwriad datganedig Llywodraeth Cymru o ganfod
gweithredwr sector preifat ar gyfer Maes Awyr Caerdydd ar adeg ei brynu ac yn
galw am ddiweddariad ysgrifenedig ar gynnydd yn hynny o beth. Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 1:
Gwrthodwyd
Gwelliant 1. Gwelliant 2 – Elin
Jones (Ceredigion) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn nodi'r cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng
Nghymru drwy: a) cefnogi twf Maes Awyr Caerdydd fel pwynt mynediad i
Gymru; a b) cefnogi cysylltedd rhwng Cymru a meysydd awyr canolog allweddol
fel Heathrow a Manceinion. Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 2:
Derbyniwyd
Gwelliant 2. Tynnwyd Gwelliant 3 yn ôl Gwelliant 4 – Elin
Jones (Ceredigion) Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod ymhellach rôl rheilffyrdd Cymru o ran sicrhau
cysylltedd mewnol ac allanol, ac yn cefnogi: a) datblygu rheilffordd Calon Cymru; b) trydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru; c) trydaneiddio prif reilffordd y Great Western a
rheilffyrdd y Cymoedd; a d) trydaneiddio rheiffordd y Gororau. Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 4:
Derbyniwyd
Gwelliant 4. Gwelliant 5 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bylchau sylweddol o ran prosiectau trydaneiddio
rheilffyrdd yng nghynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol Llywodraeth Cymru ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys trydaneiddio llinellau Glyn Ebwy, Ynys y
Barri, Bro Morgannwg, Penarth a Maesteg. Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 5:
Gwrthodwyd
Gwelliant 5. Gwelliant 6 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ddarparu cyllid ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i ailosod cysylltiadau
rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i gysylltu â'r rhwydwaith sydd
eisoes yn bodoli. Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 6:
Derbyniwyd
Gwelliant 6. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5854 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
nodi'r rôl hanfodol y mae cysylltedd rhyngwladol yn ei chwarae o ran cynnal twf
economaidd drwy fewnfuddsoddi, masnach a thwristiaeth; 2. Yn
credu y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu cynllun clir i wella cysylltedd
rhyngwladol yng Nghymru; 3. Yn
nodi'r cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy: a)
cefnogi twf Maes Awyr Caerdydd fel pwynt mynediad i Gymru; a b)
cefnogi cysylltedd rhwng Cymru a meysydd awyr canolog allweddol fel Heathrow a
Manceinion. 4. Yn
cydnabod y cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy gefnogi'r
rôl bwysig y mae porthladdoedd Cymru yn ei chwarae o ran sicrhau twf a chreu
swyddi; 5. Yn
credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynlluniau clir i wella'r A40 i
Abergwaun a'r A55 i Gaergybi er mwyn gwella cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru;
a 6. Yn
cydnabod ymhellach rôl rheilffyrdd Cymru o ran sicrhau cysylltedd mewnol ac
allanol, ac yn cefnogi: a)
datblygu rheilffordd Calon Cymru; b)
trydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru; c)
trydaneiddio prif reilffordd y Great Western a rheilffyrdd y Cymoedd; a d)
trydaneiddio rheiffordd y Gororau. 7. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i
ailosod cysylltiadau rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i gysylltu
â'r rhwydwaith sydd eisoes yn bodoli.
Derbyniwyd
y Cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau NDM5851 David Rees (Aberafan) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a
sylweddau, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Awst 2015. Nodyn: Gosodwyd ymateb y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 14 Hydref 2015. Dogfennau Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.27 NDM5851 David Rees (Aberafan) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Awst 2015. Derbyniwyd y Cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5852 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn galw am foratoriwm ar
unwaith ar unrhyw wariant a chynllunio ar gyfer 'llwybr du' yr M4 tan fydd pobl
Cymru yn rhoi mandad pan fyddant yn ethol Llywodraeth nesaf Cymru yn etholiad y
Cynulliad ym mis Mai 2016. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn croesawu'r ffaith bod cytundeb y gyllideb y cytunodd Llywodraeth Cymru a
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru arno yn sicrhau "na fydd gwaith yn cychwyn
i adeiladu ffordd liniaru'r M4 cyn etholiadau nesaf y Cynulliad" ym mis
Mai 2016 ac y byddai astudiaeth effaith amgylcheddol manwl ar y llwybr y mae
Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio, sef y llwybr du, yn cael ei gomisiynu. Datganiad
ar y cyd Llywodraeth Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Yn cefnogi: Edwina Hart (Gŵyr) [os derbynnir gwelliant 1,
bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn cydnabod y bydd unrhyw oedi o ran datblygu ffordd liniaru addas i'r M4 -
yn amodol ar archwiliad cynhwysfawr o'r holl opsiynau posibl - yn rhwystro twf
economi Cymru, twristiaeth ac integreiddio cymdeithasol yn y dyfodol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.12 Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5852 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw
am foratoriwm ar unwaith ar unrhyw wariant a chynllunio ar gyfer 'llwybr du' yr
M4 tan fydd pobl Cymru yn rhoi mandad pan fyddant yn ethol Llywodraeth nesaf
Cymru yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2016.
Gwrthodwyd
y Cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn croesawu'r ffaith bod cytundeb y gyllideb y cytunodd Llywodraeth
Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru arno yn sicrhau "na fydd gwaith yn
cychwyn i adeiladu ffordd liniaru'r M4 cyn etholiadau nesaf y Cynulliad"
ym mis Mai 2016 ac y byddai astudiaeth effaith amgylcheddol manwl ar y llwybr y
mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio, sef y llwybr du, yn cael ei gomisiynu. Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 1:
Derbyniwyd
Gwelliant 1. Derbyniwyd gwelliant 1, felly
cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5852 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
croesawu'r ffaith bod cytundeb y gyllideb y cytunodd Llywodraeth Cymru a
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru arno yn sicrhau "na fydd gwaith yn cychwyn
i adeiladu ffordd liniaru'r M4 cyn etholiadau nesaf y Cynulliad" ym mis
Mai 2016 ac y byddai astudiaeth effaith amgylcheddol manwl ar y llwybr y mae
Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio, sef y llwybr du, yn cael ei gomisiynu.
Derbyniwyd
y Cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.10 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5853 Lynne Neagle (Torfaen) Mynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc - rhoi
terfyn ar ddefnyddio llety gwely a brecwast ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 oed yng
Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.14 NDM5853 Lynne Neagle (Torfaen) Mynd
i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc - rhoi terfyn ar ddefnyddio llety
gwely a brecwast ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol:
|