Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad y Llywydd Dywedodd
y Llywydd fod nifer o bethau annerbyniol wedi cael eu dweud ddydd Mawrth yn
ystod y ddadl ynghylch y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Undebau Llafur
y DU, yn enwedig y defnydd a wnaed o’r gair ‘mob’ gan arweinydd yr wrthblaid. Atgoffodd
yr Aelodau i fod yn barchus wrth gyfeirio at ei gilydd ac at bobl y tu allan
i’r Siambr. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
13.31 Gofynnwyd y 6
chwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 1, 3 a 4 gan y
Dirprwy Weinidog Iechyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
14.18 Gofynnwyd y 5 cwestiwn
cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 gan y Dirprwy Weinidog
Sgiliau a Thechnoleg.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau o dan Reol Sefydlog 22.9 (Adroddiad 01-16) NDM5935 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn ystyried Adroddiad
y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-16 - a osodwyd gerbron y Cynulliad
ar 19 Ionawr 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; a 2. Yn cymeradwyo'r
argymhelliad yn yr adroddiad. Dogfen Ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.08 NDM5935 Mark Isherwood
(Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau
Ymddygiad - Adroddiad 01-16 - a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 19 Ionawr 2016
yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; a 2. Yn cymeradwyo'r argymhelliad yn yr adroddiad. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i atal dros dro Reol Sefydlog 11.16 i ganiatáu i'r eitem nesaf o fusnes gael ei thrafod (5 munud) Dechreuodd yr eitem am 15.08 NNDM5940 Rosemary Butler
(Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn
ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r
amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn
caniatáu i'r cynnig o dan eitem 4 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar
ddydd Mercher, 27 Ionawr 2016. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau o dan Reol Sefydlog 22.9 (Adroddiad 02-16) NNDM5937 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn ystyried Adroddiad
y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-16 - a osodwyd gerbron y Cynulliad
ar 20 Ionawr 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; a 2. Yn cymeradwyo'r
argymhelliad yn yr adroddiad. Dogfen Ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.09 NNDM5937 Mark Isherwood
(Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau
Ymddygiad - Adroddiad 02-16 - a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 20 Ionawr 2016
yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; a 2. Yn cymeradwyo'r argymhelliad yn yr adroddiad. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5934 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi setliad
llywodraeth leol drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17; 2. Yn gresynu at
gynigion i dorri'n sylweddol y cyllid a delir i nifer o awdurdodau lleol sydd
wedi eu lleoli mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru ac yn mynegi pryder ynghylch
yr effaith y gallai hyn ei gael ar wasanaethau cyhoeddus lleol a chyfraddau'r
dreth gyngor; 3. Yn gresynu ymhellach
at fethiant Llywodraeth Cymru i ymgysylltu'n ddigonol â llawer o awdurdodau
lleol gwledig ledled Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch
effaith setliad llywodraeth leol 2016-17, sydd wedi arwain at ansicrwydd mawr
mewn sawl rhan o Gymru; a 4. Yn credu bod
archwilio'r fformiwla sy'n dyrannu cyllid llywodraeth leol yng Nghymru yn
angenrheidiol i sicrhau na fydd setliadau Llywodraeth Cymru yn cael effaith anghymesur ar lawer o
awdurdodau lleol ledled Cymru. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt newydd ar
ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn galw am gyflwyno, yn
y setliad hwn, y grant sefydlogi gwledig a gynigiwyd gan Gymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru. Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwynt 4 a rhoi yn
ei le: Yn credu bod diwygio
llywodraeth leol yn gyfle i gytuno ar fformiwla ariannu newydd sy'n ystyried
tegwch, amddifadedd a theneurwydd poblogaeth ac sy'n cael ei chyflwyno dros
gylch ariannu tair blynedd. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.11 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5934 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi setliad llywodraeth leol drafft
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17; 2. Yn gresynu at gynigion i dorri'n sylweddol y
cyllid a delir i nifer o awdurdodau lleol sydd wedi eu lleoli mewn ardaloedd
gwledig ledled Cymru ac yn mynegi pryder ynghylch yr effaith y gallai hyn ei
gael ar wasanaethau cyhoeddus lleol a chyfraddau'r dreth gyngor; 3. Yn gresynu ymhellach at fethiant Llywodraeth
Cymru i ymgysylltu'n ddigonol â llawer o awdurdodau lleol gwledig ledled Cymru
a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch effaith setliad llywodraeth leol
2016-17, sydd wedi arwain at ansicrwydd mawr mewn sawl rhan o Gymru; a 4. Yn credu bod archwilio'r fformiwla sy'n dyrannu
cyllid llywodraeth leol yng Nghymru yn angenrheidiol i sicrhau na fydd
setliadau Llywodraeth Cymru yn cael
effaith anghymesur ar lawer o awdurdodau lleol ledled Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones
(Ceredigion) Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn
unol â hynny: Yn galw am gyflwyno, yn y setliad hwn, y grant
sefydlogi gwledig a gynigiwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei
bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant. Gwelliant 2 - Elin Jones
(Ceredigion) Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn credu bod diwygio llywodraeth leol yn gyfle i
gytuno ar fformiwla ariannu newydd sy'n ystyried tegwch, amddifadedd a
theneurwydd poblogaeth ac sy'n cael ei chyflwyno dros gylch ariannu tair
blynedd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5939 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y dylai
cau'r bwlch ffyniant gyda gweddill y DU fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru; 2. Yn nodi cynllun
economaidd tymor hir Plaid Cymru fel modd i hybu twf economaidd cynaliadwy sy'n
cynnwys sefydlu corff masnach newydd, banc cenedlaethol i Gymru a chomisiwn
seilwaith cenedlaethol; a 3. Yn cefnogi dyfodol
llwyddiannus a chynaliadwy ar gyfer diwydiannau sylfaen, gan gynnwys y
diwydiant dur yn arbennig. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnwys pwynt 1 newydd
ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu at y ffaith
bod gweinyddiaethau olynol Llywodraeth Cymru ers 1999 wedi â methu mynd i'r
afael â chau'r bwlch ffyniant yn effeithiol. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn
ei le: Yn credu ym mhwysigrwydd
darparu strategaeth economaidd gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar
allforio ac sy'n mynd i'r afael â thanddatblygiad Cymru a'r angen am fanc
datblygu i Gymru i gefnogi ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a
seilwaith Cymru. [os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ym mhwynt 2, dileu
popeth ar ôl 'nodi' a mewnosod: 'cynllun economaidd
tymor hir Llywodraeth y DU fel modd i hybu twf economaidd cynaliadwy'. Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Mewnosod pwynt 3 newydd
ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod y bydd y
polisïau a nodir yn 'Cyrchfan Cymru', 'Buddsoddi Cymru' a 'Gweledigaeth ar
gyfer y Stryd Fawr yng Nghymru' yn cyflawni datblygiad economaidd a
chymdeithasol cynaliadwy ledled Cymru. Gweledigaeth
ar gyfer y Stryd Fawr yng Nghymru (Saesneg yn unig) Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnwys pwynt 3 newydd
ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod er mwyn
sicrhau dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy i'r diwydiant dur, ei bod yn ofynnol
bod: a) yr Undeb Ewropeaidd
yn cymryd camau i fynd i'r afael â dympio dur gan Tsieina; b) Llywodraeth y DU yn
parhau i gymryd camau i fynd i'r afael phrisiau ynni uchel a etifeddwyd gan y
blaid Lafur; c) Llywodraeth Cymru yn
cyflwyno rhyddhad ardrethi busnes; d) lleiafswm o ran y
safonau sy'n ofynnol ar gyfer dur o fewn prosesau caffael y sector cyhoeddus; e) pecyn o gefnogaeth i
staff y disgwylir iddynt golli eu swyddi. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu ar ddiwedd
pwynt 3: 'ac yn galw am ddileu
ardrethi busnes ar offer a pheiriannau a sefydlu cwmni adfywio trefol i Bort
Talbot.' Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.12 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5939 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y dylai cau'r bwlch ffyniant gyda
gweddill y DU fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru; 2. Yn nodi cynllun economaidd tymor hir Plaid Cymru
fel modd i hybu twf economaidd cynaliadwy sy'n cynnwys sefydlu corff masnach
newydd, banc cenedlaethol i Gymru a chomisiwn seilwaith cenedlaethol; a 3. Yn cefnogi dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy ar
gyfer diwydiannau sylfaen, gan gynnwys y diwydiant dur yn arbennig.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu at y ffaith bod gweinyddiaethau olynol
Llywodraeth Cymru ers 1999 wedi â methu mynd i'r afael â chau'r bwlch ffyniant
yn effeithiol. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn credu ym mhwysigrwydd darparu strategaeth
economaidd gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio ac sy'n mynd i'r
afael â thanddatblygiad Cymru a'r angen am fanc datblygu i Gymru i gefnogi
ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gan fod gwelliant 2
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol Gwelliant 4 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Mewnosod pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod y bydd y polisïau a nodir yn 'Cyrchfan
Cymru', 'Buddsoddi Cymru' a 'Gweledigaeth ar gyfer y Stryd Fawr yng Nghymru' yn
cyflawni datblygiad economaidd a chymdeithasol cynaliadwy ledled Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus a
chynaliadwy i'r diwydiant dur, ei bod yn ofynnol bod: a) yr Undeb Ewropeaidd yn cymryd camau i fynd i'r
afael â dympio dur gan Tsieina; b) Llywodraeth y DU yn parhau i gymryd camau i fynd
i'r afael phrisiau ynni uchel a etifeddwyd gan y blaid Lafur; c) Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhyddhad ardrethi
busnes; d) lleiafswm o ran y safonau sy'n ofynnol ar gyfer
dur o fewn prosesau caffael y sector cyhoeddus; e) pecyn o gefnogaeth i staff y disgwylir iddynt
golli eu swyddi. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 3: 'ac yn galw am ddileu ardrethi busnes ar offer a
pheiriannau a sefydlu cwmni adfywio trefol i Bort Talbot.' Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5939 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y dylai cau'r bwlch ffyniant gyda
gweddill y DU fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru; 2. Yn credu ym mhwysigrwydd darparu strategaeth
economaidd gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio ac sy'n mynd i'r
afael â thanddatblygiad Cymru a'r angen am fanc datblygu i Gymru i gefnogi
ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru; a 3. Yn cefnogi dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy ar
gyfer diwydiannau sylfaen, gan gynnwys y diwydiant dur yn arbennig.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5938 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod
argyfwng tai yng Nghymru, gan nodi yn benodol: a) bod targedau tai
Llywodraeth Cymru ymhell o argymhellion yr adroddiad Holmans ar adeiladu tai a nifer
y tai fforddiadwy sydd eu hangen erbyn 2031; b) yr amcangyfrifir bod
dros 90,000 o aelwydydd ar restrau aros tai cymdeithasol; c) bod llawer o brynwyr
tro cyntaf yn parhau i gael trafferth i fynd ar yr ysgol eiddo; a d) bod yn rhaid gwneud
mwy i amddiffyn tenantiaid rhag arferion annheg ac i wella ansawdd a diogelwch
cartrefi gwael yn y sector rhentu preifat. 2. Yn credu bod angen
mwy o uchelgais i sicrhau bod pob person yn cael cartref diogel a fforddiadwy,
sy'n gallu bod yn ffactor allweddol o ran hybu iechyd, lles a chyfle, ac y
dylai hyn gynnwys: a) dyblu'r targed ar
gyfer tai fforddiadwy i 20,000 yn ystod y Cynulliad nesaf; b) cynllun rhentu i
berchen i helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eu cartrefi eu hunain heb flaendal;
ac c) gweithredu i wella ansawdd
a diogelwch cartrefi yn y sector rhentu preifat a thribiwnlys eiddo preswyl i
feirniadu ar anghydfodau rhwng landlordiaid a thenantiaid. Adroddiad
Holmans - 'Future Need and Demand for Housing in Wales' (Sasesneg yn unig) Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 1a) a rhoi
yn ei le: bod targedau tai
Llywodraeth Cymru ymhell o: i) argymhellion adroddiad
Holmans ynghylch adeiladu tai a nifer y tai fforddiadwy sydd eu hangen erbyn
2031; ii) argymhellion
adroddiad Sefydliad Bevan, 'The Shape of Wales to Come', a nifer y tai
fforddiadwy sydd eu hangen erbyn 2028; a iii) y farn a fynegwyd
gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru ar fuddsoddi mewn tai cymdeithasol. Adroddiad
Sefydliad Bevan - The Shape of Wales to Come (Saesneg yn unig) Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion) Ym mhwynt 2: Dileu 'dylai' a rhoi
'gallai' yn ei le. Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys isbwyntiau
newydd ar ddiwedd pwynt 2: diwygio cyfraith
tenantiaeth i gyflwyno rheolaethau rhent a rhoi tenantiaethau tymor hwy, mwy
diogel ac o ansawdd uwch i rentwyr; sicrhau bod eiddo gwag
yn cael ei ddefnyddio eto; datblygu cwmnïau tai o
dan berchnogaeth gyhoeddus er mwyn ymateb i angen lleol. Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod angen i
Gymru weithredu rhaglen ddiwygio tai gynhwysfawr i gynyddu'r cyflenwad ac felly
gwneud tai yn fwy fforddiadwy. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.14 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5938 Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod argyfwng tai yng Nghymru, gan
nodi yn benodol: a) bod targedau tai Llywodraeth Cymru ymhell o
argymhellion yr adroddiad Holmans ar adeiladu tai a nifer y tai fforddiadwy
sydd eu hangen erbyn 2031; b) yr amcangyfrifir bod dros 90,000 o aelwydydd ar
restrau aros tai cymdeithasol; c) bod llawer o brynwyr tro cyntaf yn parhau i gael
trafferth i fynd ar yr ysgol eiddo; a d) bod yn rhaid gwneud mwy i amddiffyn tenantiaid
rhag arferion annheg ac i wella ansawdd a diogelwch cartrefi gwael yn y sector
rhentu preifat. 2. Yn credu bod angen mwy o uchelgais i sicrhau bod
pob person yn cael cartref diogel a fforddiadwy, sy'n gallu bod yn ffactor
allweddol o ran hybu iechyd, lles a chyfle, ac y dylai hyn gynnwys: a) dyblu'r targed ar gyfer tai fforddiadwy i 20,000
yn ystod y Cynulliad nesaf; b) cynllun rhentu i berchen i helpu prynwyr tro
cyntaf i brynu eu cartrefi eu hunain heb flaendal; ac c) gweithredu i wella ansawdd a diogelwch cartrefi
yn y sector rhentu preifat a thribiwnlys eiddo preswyl i feirniadu ar
anghydfodau rhwng landlordiaid a thenantiaid.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 1a) a rhoi yn ei le: bod targedau tai Llywodraeth Cymru ymhell o: i) argymhellion adroddiad Holmans ynghylch adeiladu
tai a nifer y tai fforddiadwy sydd eu hangen erbyn 2031; ii) argymhellion adroddiad Sefydliad Bevan, 'The
Shape of Wales to Come', a nifer y tai fforddiadwy sydd eu hangen erbyn 2028; a iii) y farn a fynegwyd gan Sefydliad Tai Siartredig
Cymru ar fuddsoddi mewn tai cymdeithasol. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Elin Jones
(Ceredigion) Ym mhwynt 2: Dileu 'dylai' a rhoi 'gallai' yn ei le. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Elin Jones
(Ceredigion) Cynnwys isbwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 2: diwygio cyfraith tenantiaeth i gyflwyno rheolaethau
rhent a rhoi tenantiaethau tymor hwy, mwy diogel ac o ansawdd uwch i rentwyr; sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio eto; datblygu cwmnïau tai o dan berchnogaeth gyhoeddus
er mwyn ymateb i angen lleol. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod angen i Gymru weithredu rhaglen
ddiwygio tai gynhwysfawr i gynyddu'r cyflenwad ac felly gwneud tai yn fwy
fforddiadwy. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.04 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dadl Fer NDM5936 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir
Benfro) Ffordd newydd ar gyfer
gorllewin Cymru. Yr angen am fwy o
gefnogaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng ngorllewin Cymru a mwy o
fuddsoddiad ynddynt. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.11 NDM5936 Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Ffordd newydd ar gyfer gorllewin Cymru. Yr angen am fwy o gefnogaeth ar gyfer gwasanaethau
cyhoeddus yng ngorllewin Cymru a mwy o fuddsoddiad ynddynt. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |