Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro Cofnodion: Ar ôl cael ei
henwebu gan Russell George AC, etholwyd Bethan Jenkins AC yn Gadeirydd dros dro
o dan Reol Sefydlog 17.22. |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan William Powell AC a Joyce Watson AC. Roedd y ddau yn bresennol
yng nghyfarfod y Gymdeithas Seneddol Brydeinig-Wyddelig yn Nulyn. Roedd Gwyn
Price AC yn bresennol ar ran Joyce Watson. |
|
Trafod y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2015 - P-04-597 Diogelu dyfodol y Ddraig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth gyda Phlant yng Nghymru a gynhaliwyd ar 3 Chwefror,
a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad i ofyn: ·
a oes
unrhyw gynnydd pellach wedi’i wneud i sefydlu corff ieuenctid cynrychiadol i
olynu y Ddraig Ffynci; ac ·
am
wybodaeth am unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd mewn perthynas â’r materion a
godwyd yn y ddeiseb. |
|
Deisebau newydd |
|
P-04-617 Stopiwch y Trosglwyddo Dilyffethair o Lyfrgelloedd Cyhoeddus i’r Sector Gwirfoddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Diwylliant,
Chwaraeon a Thwristiaeth yn gofyn ei farn am sylwadau pellach y deisebydd. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
Ofyn i’r
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am ei sylwadau ar ohebiaeth Ms
Missen; ·
Cadw golwg
ar y mater a gofyn i’r Gweinidog am gael gwybod am ddatblygiadau: a ·
Rhoi gwybod
i’r deisebydd am yr adolygiad o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed
sydd i gael ei lansio ddydd Iau 26 Chwefror, i roi cyfle iddo gyflwyno barn pe
bai am wneud hynny. |
|
P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, fel y cytunwyd yn flaenorol,
penderfynodd ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i
ofyn ei farn ar: ·
y
dystiolaeth a’r wybodaeth a ddarparwyd yn flaenorol gan OFCOM; ac ·
a yw Canolfan Iechyd y Cyhoedd Lloegr ar gyfer
Ymbelydredd, Peryglon Cemegol ac Amgylcheddol yn ystyried tystiolaeth o Gymru o
ran darparu cyngor i Lywodraeth Cymru. |
|
P-04-586 Holl staff GIG Cymru i gael eu talu ar y gyfradd Cyflog Byw o £7.65 yr awr o leiaf Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd, o ystyried bod y deisebydd wedi
nodi bod y mater bellach wedi cael ei ddatrys drwy drafodaethau, i gau’r
ddeiseb. |
|
P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
Ddwyn
sylw’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y mater, i’w ystyried os caiff y
Bil Iechyd y Cyhoedd arfaethedig, y disgwylir, ar hyn o bryd, iddo gael ei
gyhoeddi cyn toriad yr haf, ei gyfeirio atynt ar gyfer craffu arno; ac ·
Gofyn i’r
Gweinidog am ei farn ar ohebiaeth bellach y deisebydd, yn enwedig ei sylwadau
ar ymgysylltiad Llywodraeth yr Alban â’r gymuned rhyddhau anwedd, a’i
ddealltwriaeth o’r penderfyniad i beidio â mynd ar drywydd gwahardd e-sigaréts
mewn mannau cyhoeddus yn yr Alban. |
|
P-04-603 Helpu babanod sy’n cael eu geni ar ôl 22 wythnos i oroesi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn bellach y deisebydd
yn dilyn ei chyfarfod gyda swyddogion y llywodraeth a oedd i gael ei gynnal ar
18 Chwefror. |
|
P-04-608 Ymchwiliad i’r GIG yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd am
lythyr y Gweinidog. |
|
P-04-422 Ffracio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Cyfoeth Naturiol i gael eglurhad ar swm a sylwedd sylwadau a nodwyd yn ddiweddar,
yn ôl y sôn, am foratoriwm ar ffracio, nad oes sôn amdanynt yn ei lythyr at y
Pwyllgor. |
|
P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrïoedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
Dynnu
sylw’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol at sylwadau ychwanegol y deisebwyr: a ·
Chau’r
ddeiseb o ystyried bod y ddwy ochr yn derbyn bod gan Gymru hanes da o ran
hwsmonaeth anifeiliaid, a’i bod yn hyrwyddo safonau uchel o ran lles
anifeiliaid fferm, ac nad oes tystiolaeth glir sy’n dangos bod unrhyw broblem
neilltuol yng Nghymru y tu hwnt i’r angen am wyliadwriaeth barhaus. |
|
P-04-579 Adfer cyllid ar gyfer monitro Gwylogod Ynys Sgomer Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ofyn am ei farn ar sylwadau’r
deisebydd, yn benodol ar y pryderon a fynegwyd y gall y data a gasglwyd o dan
gontract y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur fod wedi dangos canlyniadau diffygiol. |
|
P-04-605 Achub Ffordd Goedwig Cwmcarn Rhag Cael ei Chau am Gyfnod Amhenodol neu’n Barhaol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog ofyn i’w
swyddogion a Chyfoeth Naturiol Cymru weithio gyda ‘Ffrindiau Ffordd Goedwig
Cwmcarn’ wrth ddod o hyd i ateb ar gyfer dyfodol y ffordd. |
|
P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i gau’r ddeiseb o gofio mai’r
unig bwynt sy’n weddill yn y mater yw pwynt tri o’r ddeiseb, ac mae’r deisebwyr
wedi nodi nad oes ganddynt unrhyw beth pellach y maent am ei ychwanegu. |
|
P-04-566 Adolygu’r Cod Derbyn i Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb o ystyried na
chafwyd ymateb gan y deisebydd, ac mae’r Gweinidog wedi darparu ymateb manwl i
bob un o’r materion a godwyd yn y ddeiseb.
|
|
P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog cyn
ystyried y ffordd orau i symud ymlaen. |
|
P-04-556 Na i gau Cyffordd 41 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth, a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gofyn am ymateb i’r pryderon penodol a
amlinellir yng ngohebiaeth y deisebydd, gan gynnwys sylwadau ychwanegol a
gyflwynwyd ar 23 Chwefror. |
|
P-04-562 Canolfan Etifeddiaeth Caernarfon Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i: ·
Hwyluso’r cyswllt
rhwng y deisebwyr a swyddogion perthnasol yn CADW a Chyngor Sir Gwynedd; ·
Ysgrifennu
at bob Aelod yng Ngogledd Cymru yn tynnu eu sylw at y ddeiseb; a ·
chau’r
ddeiseb. |
|
P-04-565 Adfywio hen reilffyrdd segur at ddibenion hamdden. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i: ·
Ofyn i Weinidog
yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a allai’r Ddeddf Teithio Byw (Cymru)
2013 ddarparu dull o fynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn y ddeiseb; ac ·
ysgrifennu
at SUSTRANS i gael eu sylwadau. |
|
P-04-590 Cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb ac, o ystyried bod cytundeb wedi bod o ran
gwrthrych y ddeiseb, penderfynodd gau’r ddeiseb ar y sail, os bydd y sefyllfa’n
newid yn y dyfodol, y gellir cyflwyno deiseb arall. |
|
P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
Ysgrifennu
at Gyngor Sir Caerdydd eto i gael gwybod beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf; ac ·
Gofyn i’r
Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y datblygiadau. |
|
P-04-573 Galwad ar Lywodraeth Cymru i Ymchwilio i’r System Lesddaliadau Preswyl yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar yr ohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd i ofyn am sylwadau gan y
deisebydd cyn mynd ymlaen i gau’r ddeiseb.
|
|
P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
Roi gwybod
i’r deisebydd ynghylch cyngor y Gweinidog y dylai gysylltu â Swyddfa Cyllid
Ewropeaidd Cymru (WEFO) yn uniongyrchol; a
·
Gofyn am
sylwadau gan y deisebydd cyn mynd ymlaen i gau’r ddeiseb. |