Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. 

 

Estynnodd groeso cynnes i Aelodau a staff Cydbwyllgor Trosolwg o Wasanaethau Cyhoeddus a Deisebau, Senedd Gweriniaeth Iwerddon, a oedd yn arsylwi yn yr Oriel Gyhoeddus.

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-630 Rheoliadau Facebook ar gyfer plant sy’n derbyn gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

·         Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i nodi sylwadau pellach y deisebydd, ac i ofyn a allai ef neu ei swyddogion gwrdd â’r deisebydd i drafod y materion penodol a godwyd fel rhan o’r ddeiseb;

·         Y Comisiynydd Plant i ofyn am ei barn; a

·         Plant yng Nghymru i ofyn pa wybodaeth sydd ganddo am y mater hwn.

 

2.2

P-04-631 Achub ein Gwasanaeth - Achub Anifeiliaid Mawr yng Ngogledd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         Ysgrifennu at:

Ø  Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru; ac

Ø  Y RSPCA

i ofyn eu barn am y ddeiseb.

·         Undeb y Brigadau Tân, Cymru yn gofyn am wybodaeth am y sefyllfa yn Ne a Chanolbarth a Gorllewin Cymru.

 

2.3

P-04-632 Mynyddoedd Pawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         ysgrifennu at:

Ø  Gomisiynydd y Gymraeg, i ofyn am ei barn am y ddeiseb;

Ø  Croeso Cymru a Chynghrair Twristiaeth Cymru, o gofio amcan y deisebwyr i ddefnyddio’r mater hwn fel ffordd o hyrwyddo mentrau twristiaeth awyr agored;

Ø  Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; ac

Ø  Y Dirprwy Weinidog, i ofyn ei farn am sylwadau pellach y deisebydd;

·         Ceisio cael cyngor cyfreithiol ar rôl Llywodraeth Cymru, ac yn benodol, a allai’r Llywodraeth gymryd rhan fwy uniongyrchol yn y broses, o bosibl drwy gyfrwng y Bil Amgylchedd Hanesyddol, unwaith y caiff ei gyflwyno.

 

 

2.4

P-04-633 Codi Ymwybyddiaeth o’r Band Eang Gwael yn Ein Hardal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd am lythyr y Dirprwy Weinidog Addysg a Sgiliau.

 

3.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-03-236 Siarter i Wyrion ac Wyresau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:

·         Ysgrifennu at y deisebydd yn diolch iddo am ei ateb ystyriol ac am ymgysylltu â’r broses ddeisebu; a

·         Chau’r ddeiseb, o gofio ei bod yn ymddangos bod digwyddiadau wedi symud ymlaen ers i’r ddeiseb gael ei hystyried ddiwethaf.

 

3.2

P-04-587 Tîm Cymorth pwrpasol ar gyfer dioddefwyr Enseffalomyelitis Myalgig (ME), Syndrom Blinder Cronig a Ffibromyalgia yn ne-ddwyrain Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·         Aros am ymateb gan y deisebwyr; ac

·         Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn diolch iddo am ei ateb defnyddiol, ac yn gofyn am gael gwybod am y prif gamau gweithredu y cytunwyd arnynt o ganlyniad i gyfarfod cyntaf y grŵp gweithredu, a oedd i’w gynnal ar 13 Mai.

 

3.3

P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd, yng ngoleuni sylwadau’r deisebydd, i ysgrifennu at:

 

·         Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a Chyngor Sir Penfro yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynlluniau ar gyfer gwella canol tref Abergwaun; ac

·         Y deisebydd, yn gofyn a oes unrhyw gamau pellach penodol y gallai’r Pwyllgor eu cymryd i wneud cynnydd o ran y ddeiseb.

 

 

3.4

P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau:

·         Yn gofyn am ei farn ar sylwadau pellach y deisebydd ac yn benodol, yn gofyn am ei farn ar gynnig y deisebydd i sefydlu grŵp llywio i gynnwys arbenigwyr o bob sector; ac

·         Yn diolch iddo am addo i ddarparu diweddariad ysgrifenedig i’r Pwyllgor erbyn 5 Mehefin.

 

3.5

P-04-581 Gwrthwynebiad i’r toriadau mewn ar gyfer Dysgwyr o Saesneg fel Iaith Ychwanegol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·         Ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn gofyn am ei sylwadau ar gynnwys llythyr Cyngor Dinas Abertawe a’r feirniadaeth oblygedig a geir ynddo; ac

·         Aros am sylwadau pellach gan y deisebydd.

 

3.6

P-04-615 Taliad Benthyciad Teg i Fyfyrwyr yn y Flwyddyn Olaf o Hyfforddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

·         Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.

 

3.7

P-04-537 Plannu Coed i Leihau Llifogydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd i nodi pryderon y deisebydd wrth y Gweinidog Cyfoeth Naturiol.

 

3.8

P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Roedd Joyce Watson am gofnodi ei bod yn aelod o’r RSPB.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·         Drosglwyddo llythyr yr Athro Fox i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ofyn am ei farn ar ei gynnwys, ac ar y rheswm pam mae’n ymddangos bod Lywodraeth Cymru wedi dangos ei bod yn erbyn diogelwch statudol i’r aderyn hwn er bod gwladwriaethau eraill wedi sicrhau hynny;

·         Gofyn iddo ailystyried safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.

 

 

3.9

P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·         Ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gofyn iddi:

o   ganiatáu i’r Pwyllgor weld canlyniadau’r astudiaeth ddichonoldeb gychwynnol cyn gynted ag y byddant ar gael; ac

o   am ragor o wybodaeth am y broses o ddewis y contractwyr a ddefnyddiwyd i gynnal yr astudiaeth ddichonoldeb, ac yn benodol, pam nad contractwyr CADW a ddefnyddiwyd;

 

·         am gael ymweld â’r tu allan i’r Adeilad, gyda’r deisebydd, fel y gall yr Aelodau gael dealltwriaeth well o gyflwr yr Adeilad.

 

3.10

P-04-617 Stopiwch y Troslgwyddo Dilyffethair o Lyfrgelloedd Cyhoeddus i’r Sector Gwirfoddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

·         Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn gofyn ei farn am sylwadau pellach y deisebydd; a

·         Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gofyn am ei barn am lythyr y Dirprwy Weinidog.

 

3.11

P-04-578 Gwaith Gostegu Sŵn ar yr M4, i’r Gorllewin o Gyffordd 32

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·         Ysgrifennu eto at y Gweinidog i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa, gan gynnwys unrhyw amcangyfrif ynghylch pryd y bydd gwaith i wella’r sefyllfa ar gyfer y deisebydd yn debygol o ddigwydd.

·         Gwrthod y cais am ymweliad safle ar hyn o bryd, o ystyried bod y lefel sŵn uchel yn yr ardal yn cael ei dderbyn ar hyn o bryd.

 

3.12

P-04-609 Cefnogwch Fusnesau Bach - Cefnogwch ein Strydoedd Mawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a chytunwyd i:

·         Aros am sylwadau gan y deisebydd, ac

·         Os bydd y deisebydd yn cytuno, o ystyried bod llythyr y Gweinidog yn awgrymu bod prif fyrdwn y mater a godwyd wedi cael ei gyflawni, i gau’r ddeiseb.

 

3.13

P-04-614 Cefnogi Gwasanaeth Dosbarth Cyntaf Arriva Trains Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·         Aros am sylwadau pellach gan y deisebydd;

·         Ystyried cau’r ddeiseb gan ei bod yn anodd gweld sut y gallai’r Pwyllgor ychwanegu unrhyw werth pellach.

 

3.14

P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·         Ofyn am sylwadau gan y deisebydd;

·         Ystyried cau y ddeiseb gan fod llythyr y Gweinidog yn nodi nad yw pwnc y ddeiseb wedi’i ddatganoli mewn gwirionedd.

 

3.15

P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd i ofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth am ei barn ar sylwadau pellach y deisebydd. 

 

4.

Gohebiaeth

Papur i’w Nodi:

Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Cadeirydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a chytunodd i weithio gyda Chydffederasiwn y GIG i helpu i hwyluso atebion gan Fyrddau Iechyd Lleol.

 

4.2 Yn dilyn cynnig gan y Cadeirydd, cytunodd y Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod er mwyn trafod mater sy’n ymwneud â busnes mewnol y Pwyllgor.