Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd |
|
P-04-629 Adolygu a gorfodi Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i:
|
|
P-04-635 James Bond yn y Cynulliad Cenedlaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgîl ymateb y Llywydd ei bod yn amhosibl
gweithredu'r hyn y mae'r ddeiseb yn gofyn. |
|
P-04-621 Cadw’r Uned Famolaeth dan Arweiniad Ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan Clwyd ar Agor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a
chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd, ond i aros tan ganlyniad
yr achos cyfreithiol cyn penderfynu beth ymhellach allai wneud ynghylch y
ddeiseb. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-546 Magu anifeiliaid dan amodau annaturiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i aros am ymateb oddi wrth y deisebydd, ond i gau'r ddeiseb os na
cheir ymateb o fewn chwe wythnos. |
|
P-04-605 Achub Ffordd Goedwig Cwmcarn Rhag Cael ei Chau am Gyfnod Amhenodol neu’n Barhaol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i aros am ymateb oddi wrth y deisebydd, ond i gau'r ddeiseb os na
cheir ymateb o fewn chwe wythnos. |
|
P-04-579 Adfer cyllid ar gyfer monitro Gwylogod Ynys Sgomer Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd ar ohebiaeth y Gweinidog. Datganodd Joyce Watson ei bod yn Aelod o'r
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt. |
|
P-04-422 Ffracio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd ar ohebiaeth y Gweinidog. |
|
P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i ysgrifennu at:
o
bod barn DEFFO yn cael ei ystyried ochr yn ochr â'r
ymatebion eraill i'r ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 8 Mai; o
bydd DEFFO yn cael eu cynnwys yng ngham nesaf yr
ymgynghoriad; a o
barn y Gweinidog ar honiad DEFFO bod anghenion y rhai
sydd eisiau neu angen hyfforddiant IAP yn aml heb eu diwallu neu'n anhysbys, am
fod IAP weithiau'n ddewis yn hytrach nag angen crys neu angen meddygol.
|
|
P-04-548 Ailgyflwyno dosbarthiadau Cymraeg ym Mhrifysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i
gau'r ddeiseb yn dilyn ymatebion yn nodi nad oes unrhyw ffynhonnell amlwg o
gyllid a allai helpu. |
|
P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i aros am sylwadau gan y deisebydd. [Yn syth ar ôl y cyfarfod, daeth i'r amlwg bod y
deisebydd wedi cyflwyno sylwadau pellach mewn perthynas â'r ddeiseb sawl
diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd y sylwadau hyn yn cael eu hystyried gan yr Aelodau
yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 16 Mehefin.] |
|
P-04-600 Deiseb i achub y gwasanaeth meddygon teulu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y materion sy'n cael eu codi yn y ddeiseb
wedi cael sylw yn Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. |
|
P-04-560 Gwasanaethau Clefyd Llid y Coluddyn yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i gau'r ddeiseb ar ôl i'r Gweinidog nodi nad yw o'r farn bod angen ystyried
datblygu cynllun cyflawni cenedlaethol ar hyn o bryd. |
|
P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
|
|
P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog Dogfennau ategol: Cofnodion: Gweler y cam
gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.13. |
|
P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Gweler y cam
gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.13. |
|
P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Man Anafiadau Ysbyty Tywyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr
ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn i'r
Bwrdd Iechyd am: o
ei sylwadau
ar y sylwadau diweddaraf gan y deisebwyr; sut mae cyd-gadeiryddion annibynnol y
corff newydd yn bwriadu cydweithio ar faterion o
ei farn bod
oriau agor uned mân anafiadau Tywyn yn ymddangos i fod yn anghyson ag amseroedd
agor eraill yn yr ardal ac a yw hyn yn gwthio pobl tuag at wasanaethau mewn
mannau eraill, fel adrannau damweiniau ac achosion brys neu wasanaethau
meddygon teulu o
nodyn o
gyfarfod diweddar y grŵp cydweithredol Iechyd yn y Canolbarth |
|
P-04-523 Diogelu’r Henoed a Phobl sy’n Agored i Niwed mewn Cartrefi Gofal Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i ofyn i'r Prif Weinidog roi gwybod i'r Pwyllgor pan fyddai cynnydd
sylweddol newydd i adrodd arno. |
|
P-04-501 Gwneud canolfannau dydd ar gyfer pobl hŷn yn ofyniad statudol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ei farn ar y sefyllfa
bresennol ledled Cymru a sut y mae'n rhagweld y bydd y Ddeddf a'r ail Fil
Gwasanaethau Cymdeithasol yn effeithio ar y ddarpariaeth gofal dydd ar gyfer yr
henoed. |
|
P-04-587 Tîm Cymorth pwrpasol ar gyfer dioddefwyr Enseffalomyelitis Myalgig (ME), Syndrom Blinder Cronig a Ffibromyalgia yn ne-ddwyrain Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i:
|
|
P-04-618 Diogelu gwasanaethau bancio mewn cymunedau hawdd eu targedu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i ofyn i'r Gweinidog basio sylwadau'r deisebydd ymlaen at y grŵp
Strategaeth Cynhwysiant Ariannol. |
|
P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd ar ohebiaeth y Gweinidog. |
|
P-04-613 Dylai Aelodau’r Cynulliad wrthod yr argymhelliad i gynyddu eu cyflogau 18% Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i aros am ymateb oddi wrth y deisebydd ar yr ohebiaeth gan y Bwrdd
Taliadau, ond i gau'r ddeiseb os na cheir ymateb o fewn chwe wythnos. |
|
P-04-565 Adfywio hen reilffyrdd segur at ddibenion hamdden Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd ar yr ohebiaeth gan y Gweinidog a Sustrans. |
|
P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i:
|
|
P-04-626 Israddio Ffordd yr A487 drwy Penparcau, Trefechan a chanol tref Aberystwyth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn a oes amserlen gadarnach ar gyfer
ystyried israddio statws cefnffordd yr A487 yn Aberystwyth. |
|
P-04-607 Galw ar Lywodraeth Cymru i brynu Garth Celyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i:
Datganodd Bethan Jenkins AC fuddiant yn y ddeiseb. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Item
5 Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
Adroddiadau Drafft y Pwyllgor Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiadau drafft, yn amodol ar
fân newidiadau. |