Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 166KB) Gweld fel HTML (132KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-656 Sefydlu Diwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Bethan Jenkins y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Hi yw Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol a Heddwch.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         Ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i goffáu 15 Mai ac a fyddai'n ystyried gwneud mwy i nodi'r diwrnod.

·         Ysgrifennu at y Llywydd, sy'n Gadeirydd Comisiwn y Cynulliad, i ofyn a oes gan y Cynulliad unrhyw ddigwyddiadau sy'n coffáu 15 Mai ac a fyddai'n bosibl ystyried gwneud rhagor i nodi'r diwrnod.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-652 Android ac iOS, Cymraeg yn yr 21ain Ganrif

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried bod y deisebydd wedi nodi ei fod ar y cyfan yn fodlon ag ymateb y Prif Weinidog, fe gytunodd i gau'r ddeiseb.

 

3.2

P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Fe roddodd gyngor gweithdrefnol i gydweithwyr y deisebydd yn ystod ymweliad â Chanolfan Dyfi.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo ba gamau fyddai Llywodraeth Cymru yn eu cymryd os byddai niferoedd Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las yn cwympo'n is na'r lefel y dylai arwain at gamau o dan y Cytundeb Adar Dŵr Affrica-Ewrop, y cyfeiriwyd ato gan y deisebwyr. 

 

3.3

P-04-619 Lleoliaeth o ran Cynllunio ac Iawndal ar gyfer Trydydd Partïon parthed Prosiectau Seilwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebwr a chytunodd i gau'r ddeiseb, o ystyried fod y mater wedi cael ystyriaeth benodol yn ystod trafodaethau'r Cynulliad ynghylch Bil Cynllunio (Cymru). Felly, nid oes llawer mwy y gall y Pwyllgor wneud i ddatblygu'r mater.

 

3.4

P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog, yn gofyn iddo:

 

·         nodi diddordeb y Pwyllgor yn y mater hwn;

·         roi rhagor o fanylion am yr amserlen ddisgwyliedig ar gyfer adrodd i'r Cynulliad; ac

·         ysgrifennu at y Pwyllgor eto gyda mwy o wybodaeth pan fydd yn adrodd i'r Cynulliad.

 

3.5

P-04-556 Na i gau Cyffordd 41

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         ofyn am farn y Gweinidog ar sylwadau interim y deisebydd; ac

·         yn ôl y gofyn, caniatáu mwy o amser i'r deisebydd ymgynghori ag aelodau o'r Grŵp Gweithredu ac ystyried unrhyw sylwadau atodol yn nes ymlaen.

 

3.6

P-04-578 Gwaith Gostegu Sŵn ar yr M4, i’r Gorllewin o Gyffordd 32

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb, ac wrth wneud hynny i gynghori'r deisebydd y dylai godi'r materion eraill yn ei llythyr diweddaraf gyda'r awdurdod lleol.

 

3.7

P-04-633 Codi Ymwybyddiaeth o'r Band Eang Gwael yn Ein Hardal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ganiatáu rhagor o amser i'r deisebwyr roi sylwadau ar ohebiaeth y Dirprwy Weinidog.

 

3.8

P-04-397 Cyflog Byw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ei farn ar sylwadau diweddaraf y deisebwyr ac am ddiweddariad pellach ar y cynnydd, gan gynnwys trafodaethau diweddaraf Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.

 

Ar ôl trafod y deisebau newydd a chyfredol, cytunodd y Pwyllgor i gael egwyl rhwng 10.07 a 10.25, cyn y sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Addysg a Sgiliau.

 

3.9

P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol

Dogfennau ategol:

3.10

P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor.