Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kathryn Thomas

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 248KB) Gweld fel HTML (203KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(09.00-09.15)

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-658 Derwen Brimmon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod Mr Lloyd Jones ac wedi rhoi cyngor gweithdrefnol i'r deisebwyr.

 

Datganodd Russell George y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae wedi bod i weld y goeden gyda Mr Lloyd Jones ac wedi gwneud sylwadau mewn cyfarfod ymchwiliad cyhoeddus a gynhaliwyd yn y Drenewydd.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddi nodi a yw'n cefnogi gwarchod y goeden a pha gamau y mae'n bwriadu eu cymryd i sicrhau y caiff ei gwarchod.

 

 

2.2

P-04-660 Y Pwysau Ychwanegol sy'n Wynebu Ardaloedd Gwledig Prin eu Poblogaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys ac yn llywodraethwr ysgol.

 

Datganodd Russell George y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys ac yn llywodraethwr ysgol.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog er mwyn:

·         Gofyn am ei farn am y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y deisebwyr;

·         Gofyn pa ymchwil sydd wedi'i wneud i'r effaith ar ddisgyblion sy'n derbyn eu haddysg gynradd tu allan i Gymru a'u haddysg uwchradd yng Nghymru ac a oes gan gonsortia addysg unrhyw wybodaeth am nifer y disgyblion yr effeithir arnynt fel hyn.

 

2.3

P-04-659 Talwch Gostau Teithio Llawn Myfyrwyr Nyrsio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd am lythyr y Gweinidog.

 

(09.15-09.45)

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-638 Y Gwasanaethau Brys - Pŵer Mynediad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a chytunodd i:

·         ofyn eto am ymatebion gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru;

·         gofyn am farn y deisebydd am lythyr y Dirprwy Weinidog; ac

·         ystyried y mater hwn ymhellach yn y Flwyddyn newydd ar ôl derbyn yr ymatebion hynny.

 

3.2

P-04-649 Addysg Gymraeg - Bendith neu Felltith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan nad oes llawer yn rhagor y gall y Pwyllgor ei wneud i gymryd materion yn eu blaen. 

 

3.3

P-04-639 Achubwch Addysg Bellach ym Mhowys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         aros am farn y deisebwyr am lythyr cynharach y Dirprwy Weinidog a gohebiaeth Grŵp NPTC; a

·         chau'r ddeiseb os na cheir ymateb erbyn diwedd mis Ionawr.

 

3.4

P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r deisebwyr ystyried derbyn y cynnig o gyfarfod â swyddogion yn y lle cyntaf ac i fwydo yn ôl i'r Pwyllgor er mwyn i'r Aelodau i ystyried y ffordd orau o gymryd materion yn eu blaen.

 

3.5

P-04-637 Diogelu Dyfodol Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         ysgrifennu eto at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn a oes ganddo unrhyw sylwadau pellach ynghylch llythyr diweddaraf y deisebwyr, yn arbennig ei farn ynghylch barn y grŵp gorchwyl a gorffen am ganolfannau cerddoriaeth fel model; ac

·         ysgrifennu at CBAC i ofyn am wybodaeth bellach am ei gynlluniau yn ymwneud ag adnoddau ar gyfer y Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid.

 

3.6

P-04-646 Canllawiau Anstatudol yng Nghymru ar Gyfer Awdurdodau lleol ar Addysg Ddewisol yn y Cartref.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried yr ymddengys bod y Gweinidog wedi mynd i'r afael â phryderon y deisebwyr ac wedi cytuno'n flaenorol i sicrhau y caiff eu safbwyntiau eu hystyried wrth ddatblygu'r canllawiau newydd, cytunodd i gau'r ddeiseb.

 

3.7

P-04-644 Dyfodol Addysg Bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd am lythyr y Gweinidog.

 

3.8

P-04-626 Israddio Ffordd yr A487 drwy Penparcau, Trefechan a chanol tref Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd am lythyr y Gweinidog, ond wrth wneud hynny, dangos bod y Pwyllgor yn bwriadu cau'r ddeiseb gan nad yw'n ymddangos bod llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud i symud y mater yn ei flaen yn y Cynulliad hwn.

 

3.9

P-04-632 Mynyddoedd Pawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac roedd o blaid cau'r ddeiseb o gofio bod y prif faterion y mae'n eu codi yn cael eu datblygu drwy gyfrwng y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Fodd bynnag, mynegodd yr Aelodau siom nad oedd yn ymddangos bod Croeso Cymru na Chynghrair Twristiaeth Cymru wedi ymateb i geisiadau am wybodaeth a chytunodd i ysgrifennu eto at y ddau sefydliad ac ystyried y ddeiseb ymhellach pan ddaw'r ymatebion i law.

 

3.10

P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         Gau'r ddeiseb gan fod y Pwyllgor wedi cymryd y mater hwn cyn belled ag y gall; ac

·         Wrth wneud hynny, gofyn i Mr O'Brien, Prif Weithredwr WEFO:

o   am ei sylwadau am lythyr y deisebwyr a'i ymateb i'w cwestiynau penodol; a

o   chwrdd â'r deisebwyr i drafod eu pryderon. 

 

3.11

P-04-641 Perchnogion Tir nad yw wedi cael ei Ddatblygu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor gyngor cyfreithiol a oedd yn dangos bod hwn yn fater sydd heb ei ddatganoli lle nad oes gan y Cynulliad y pŵer i gymryd y camau y mae'r ddeiseb yn galw amdanynt.  O ystyried hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.  Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor anfon crynodeb o'r cyngor cyfreithiol ymlaen at y deisebydd.

 

(09.45-10.15)

4.

Sesiwn Dystiolaeth - Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dr John Cox, Deisebydd

Nesta Lloyd – Jones, Conffederasiwn GIG Cymru

Robert Southall, Deisebydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r tystion am eu profiad o system ddeisebau'r Cynulliad.

 

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 6, 7 ac 8

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

6.

Trafod y Sesiwn Tystiolaeth Lafar - Adolygu'r System Ddeisebau

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth cyn iddo baratoi ei adroddiad.

 

7.

Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor bapur ar yr adolygiad o ddeisebau, ynghyd â'r dystiolaeth lafar a glywyd yn y sesiwn cynharach, a chytunodd i ystyried argymhellion ar gyfer newidiadau posibl trwy ohebiaeth yn y lle cyntaf.

 

8.

Trafod Sesiwn Dystiolaeth Lafar - P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio ystyried y ddeiseb nes iddo dderbyn rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog yn dilyn ei sesiwn dystiolaeth ar 24 Tachwedd.