Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Williams Deputy Clerk: Ruth Hatton
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James
AC. Roedd Joyce Watson AC yn dirprwyo. |
|
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 CLA(4)-11-14 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir Dogfennau ategol: |
|
CLA393 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) a Chytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2014 Y weithdrefn negyddol: Fe’i gwnaed ar: 31 Mawrth 2014; Fe'i gosodwyd ar: 1
Ebrill 2014; Yn dod i rym ar: 1 Mai 2014. |
|
CLA394 - Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) (Corff Cyfrifwyr Ewropeaidd Cymeradwy) 2014 Y weithdrefn negyddol: Fe’i gwnaed ar: 1 Ebrill 2014; Fe'u gosodwyd ar: 2 Ebrill
2014; Yn dod i rym ar: 22 Ebrill 2014 |
|
CLA395 - Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014 Y weithdrefn negyddol: Fe’i gwnaed ar: 8 Ebrill 2014; Fe'u gosodwyd ar: 9
Ebrill 2014; Yn dod i rym ar: 20 Mai 2014. Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd
yn fodlon â hwy. |
|
Papurau i’w nodi |
|
Gorchymyn Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 (Anghymhwyso o’r Bwrdd Taliadau) 2014 CLA(4)-12-14
– Papur 2 - Gorchymyn Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010
(Anghymhwyso o’r Bwrdd Taliadau) 2014 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Gorchymyn. |
|
Gohebiaeth yn ymwneud â CLA362 – Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2013 CLA(4)-12-14 - Papur 3 – Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio CLA(4)-12-14 - Papur 4 – Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Tai ac Adfywio Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. |
|
Gohebiaeth yn ymwneud â Bil Drafft Cymru CLA(4)-12-14 - Papur 5 - Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol
Cymru CLA(4)-12-14 - Papur 6 - Llythyr gan y Cadeirydd at
Ysgrifennydd Gwladol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau CLA(4)-12-14 - Papur 7 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor
Deisebau CLA(4)-12-14 - Papur 7 Atodiad - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor
Deisebau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y papur a chytunwyd y
dylai'r Clerc ysgrifennu at y deisebydd i ofyn am unrhyw wybodaeth ychwanegol
sy'n berthnasol i ymchwiliad y Pwyllgor i Anghymhwyso person rhag bod yn Aelod
o Gynulliad Cenedlaethol Cymru. |
|
CLA389 - Rheoliadau Addysg (benthyciadau myfyrwyr) (ad-dalu) (Diwygio) 2014 CLA(4)-12-14
– Papur 8 - Ymateb y Llywodraeth mewn perthynas â CLA389 - Rheoliadau
Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) 2014 CLA(4)-12-14
– Papur 9 - Adroddiad y
Pwyllgor ar CLA389 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu)
(Diwygio) 2014 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth
Cymru. |
|
Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Dadreoleiddio : Gwelliannau ynghylch Deddf Daliadau Amaethyddol 1986, Deddf Bridio Cŵn 1973 a Deddf Bridio a Gwerthu Cŵn (Lles) 1999 CLA(4)-12-14
– Papur 10 - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Y Bil
Dadreoleiddio: Diwygiadau mewn perthynas â Deddf Daliadau Amaethyddol 1986,
Deddf Bridio Cŵn 1973 a Deddf Bridio a Gwerthu Cŵn (Lles) 1999 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cynnig cydsyniad
deddfwriaethol atodol a'r amserlen ar gyfer cyflwyno adroddiad. Cytunodd y
Pwyllgor y gallai fod angen ymestyn y dyddiad cau i gyflwyno adroddiad oherwydd
y ddau Wŷl Banc ym mis Mai. |
|
Gohebiaeth gan Dŷ'r Arglwyddi, Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd CLA(4)-12-14
– Papur 11 - Llythyr oddi wrth yr Arglwydd Boswell, Cadeirydd Pwyllgor yr
Undeb Ewropeaidd CLA(4)-12-14
– Papur 12 - Adroddiad Tŷ’r Arglwyddi ar Rôl Seneddau Cenedlaethol
yn yr Undeb Ewropeaidd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ac adroddiad
Tŷ'r Arglwyddi ar rôl Seneddau Cenedlaethol yn yr Undeb Ewropeaidd. |
|
Tystiolaeth yn ymwneud â'r Ymchwiliad i anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru Y Comisiwn Etholiadol(3pm) Kay Jenkins, Pennaeth Swyddfa'r Comisiwn Etholiadol yng Nghymru CLA(4)-12-14 – Papur 13 – Tystiolaeth Ysgrifenedig y Comisiwn Etholiadol Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol (3.45pm) Stephen Brooks, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru CLA(4)-12-14 – Dogfen
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Kay
Jenkins, Pennaeth Swyddfa Cymru, y Comisiwn Etholiadol, a Stephen Brooks,
Cyfarwyddwr, y Gymdeithas Diwygio Etholiadol. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: (vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion
adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan
unrhyw berson; Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y
cyfarfod yn breifat. |
|
Adroddiad drafft ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch Dadreoleiddio CLA(4)-12-14 - Papur 14 – Adroddiad Drafft ar y Bil Dadreoleddio; CLA(4)-12-14 - Papur 15 – Atodiad 1, Llythyr gan Cadeirydd, y Bil Dadreoleiddio Drafft; CLA(4)-12-14 - Papur 16 – Atodiad 2, nodyn cyngor cyfreithiol; CLA(4)-12-14 - Papur 17 – Memorandwm Cydsyniad deddfwriathol; |