Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks  Dipwyr Clerc: Ruth Hatton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Simon Thomas AC, a dirprwyodd Lindsay Whittle ar ei ran.

 

2.

Tystiolaeth mewn perthynas â Bil yr Amgylchedd (Cymru)

(Amser dangosol: 13.30)

 

Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Rhodri Asby, Llywodraeth Cymru

Nicola Charles, Llywodraeth Cymru

 

 

 

CLA(4)-14-15 – Papur 1 – Datganiad ar fwriad polisi

CLA(4)-14-15- Papur 1A – Atodiad

CLA(4)-14-15 – Papur 2 – Llythyr gan y Llywydd

CLA(4)-14-15 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

CLA(4)-14-15 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Adnoddau Naturiol, mewn perthynas â Bil yr Amgylchedd (Cymru).

 

Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am y modd y caiff adran 22 o'r Bil ei gweithredu; unedau carbon a masnachu carbon; y modd y gweithredir y drefn daliadau am fagiau siopa yn Lloegr; a'r broses apelio yn adran 74 o'r Bil.

 

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

CLA(4)-14-15 – Papur 3 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

3.1

CLA534 - Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cymedroli Trefniadau Asesu ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2015

Y weithdrefn negyddol; Fe'i gwnaed ar: 6 Mai 2015; Fe'i gosodwyd ar: 11 Mai 2015; Yn dod i rym ar: 1 Medi 2015.

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn statudol ac roedd yn fodlon arno.

 

4.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

4.1

CLA533 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesu) (Cymru) 2015

Y weithdrefn negyddol; Fe'u gwnaed ar: 6 Mai 2015; Fe'u gosodwyd ar:  8 Mai 2015; Yn dod i rym ar: 6 Ebrill 2016.

 

CLA(4)-14-15 – Papur 4 – Adroddiad

CLA(4)-14-15 – Papur 5 – Rheoliadau

CLA(4)-14-15 – Papur 6 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

4.2

CLA532 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015

Y weithdrefn uwchgadarnhaol; Fe'u gwnaed ar: dyddiad heb ei nodi; Fe’u gosodwyd ar: dyddiad heb ei nodi; Yn dod i rym ar: 6 Ebrill 2016.

 

CLA(4)-14-15 – Papur 7 – Adroddiad

CLA(4)-14-15 – Papur 8 – Rheoliadau

CLA(4)-14-15 – Papur 9 – Rheoliadau Drafft, Fersiwn Ymgynghori

CLA(4)-14-15 – Papur 10 – Gwelliannau i’r Rheoliadau drafft

CLA(4)-14-15 – Papur 11 – Memorandwm Esboniadol

CLA(4)-14-15 - Papur 12 – Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau, a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad.

5.

Papurau i’w nodi

CLA (4) -14-15 - Papur 13 - Llythyr gan y Llywydd ynghylch gweithdrefnau cyllidebol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

(vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson;

 

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod mewn sesiwn breifat i ystyried y canlynol:

 

6.1

Y Bil Amgylchedd (Cymru) Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law

6.2

Ymchwiliad i Ddeddfu yn y Pedwerydd Cynulliad: Adroddiad drafft

CLA(4)-14-15 – Papur 14 – Adroddiad drafft