Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Alun Davidson  029 2089 8639

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Keith Davies a Julie James ar gyfer y cyfarfod cyfan a gan William Powell a David Rees ar gyfer y sesiwn prynhawn. Roedd Ken Skates yn dirprwyo ar ran Keith Davies a Mark Drakeford yn dirprwyo ar ran David Rees.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014 - Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

E&S(4)-25-12 papur 1

Alun Davies AC, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd, a Rhaglenni Ewropeaidd

Andrew Slade, Cyfarwyddwr Polisi ac Ariannu’r UE a Phennaeth y Grŵp Rhaglenni Ewropeaidd

Rob Hunter, Cyfarwyddwr Cyllid a Pherfformiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd a’i swyddogion yn ateb cwestiynau gan aelodau o’r Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu dadansoddiad o’r cam gorfodi mewn perthynas â’r gyfran o’r gyllideb a gaiff ei gwario ar erlyn.

(10.30 - 11.30)

3.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014 - Craffu ar waith Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

E&S(4)-25-12 (papur 2)

John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Matthew Quinn, Cyfarwyddwr, yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Dr Christianne Glossop, Cyfarwyddwr, Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy a’i swyddogion yn ateb cwestiynau gan aelodau o’r Pwyllgor.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r ffigurllyfr gwyrddar gyfer materion systemau technoleg gwybodaeth y bydd yr un corff amgylcheddol newydd yn eu hetifeddu.

(11.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5.

(11.30 - 12.00)

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014 - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a pha faterion yr oedd am ddwyn i sylw’r Pwyllgor Cyllid yn ei adroddiad.

 

5.2 Cafodd y Pwyllgor egwyl rhwng 12.00 ac 13.00.

(13.00 - 15.00)

6.

Ymchwiliad i bolisi morol yng Nghymru - Tystiolaeth lafar gan Cyswllt Amgylchedd Cymru

E&S(4)-25-12 papur 3 – Cyswllt Amgylchedd Cymru

E&S(4)-25-12 papur 4 – RSBP Cymru

E&S(4)-25-12 papur 5 – Ymddiriedolaethau Natur Cymru

E&S(4)-25-12 papur 6 – WWF Cymru

E&S(4)-25-12 papur 7 – Y Gymdeithas Cadwraeth Forol

 

Gareth Cunningham, RSPB Cymru

Beth Henshall, Ymddiriedolaethau Natur Cymru

Dan Crook, WWF Cymru

Gill Bell, Y Gymdeithas Cadwraeth Forol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i’r goblygiadau i Gymru yn dilyn ymgynghoriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddyfodol y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol.

 

6.2 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar y polisi morol yng Nghymru.

 

6.3 Cytunodd Dan Crook i rannu gyda’r Pwyllgor yr adroddiad ar yr astudiaeth a gomisiwynwyd gan y WWF ar gyd-leoli parthau cadwraeth morol datblygiadau ynni adnewyddadwy.

(15.00)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar 24 Hydref

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar 24 Hydref.

Trawsgrifiad