Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Alun Davidson  029 2089 8639

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Keith Davies, Julie James a David Rees.  Roedd Ken Skates yno yn dirprwyo.

 

(09.30)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor â’r Cynnig.

(09.30 - 10.00)

3.

Polisi morol yng Nghymru - trafod yr adroddiad drafft

E&S(4)-01-13 papur 1

Cofnodion:

3.1Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried drafft arall yn ei gyfarfod nesaf.

(10.00 - 10.30)

4.

Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) - trafod yr adroddiad drafft

E&S(4)-01-13 papur 2

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

(10.30 - 11.00)

5.

Ymchwiliad i ddŵr - trafod y cylch gorchwyl drafft a'r ymgynghoriad

E&S(4)-01-13 papur 3

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl ar gyfer ei ymchwiliad i bolisi dŵr ac y dylai gynnal ymgynghoriad yn galw am dystiolaeth ysgrifenedig.

(11.00 - 11.30)

6.

Cynlluniau datblygu lleol a ffigurau poblogaeth/aelwydydd- trafod y cylch gorchwyl drafft

E&S(4)-01-13 papur 4

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl ar gyfer ei ymchwiliad i gynlluniau datblygu lleol a ffigurau poblogaeth/aelwydydd.

(11.30 - 12.00)

7.

Y Bil Datblygu Cynaliadwy - Papur Gwyn - trafod y dull o'i ystyried

E&S(4)-01-13 papur 5

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiwn friffio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr i drafod Papur Gwyn y Bil Datblygu Cynaliadwy.

(12.00 - 12.30)

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Ynni - trafod y dull o'i ystyried

E&S(4)-01-13 papur 6

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i gyflwyno adroddiad byr ar ei gasgliadau.

Trawsgrifiad