Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson  029 2089 8639

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro

Cofnodion:

1.1 Yn absenoldeb Dafydd Elis-Thomas, etholwyd Mick Antoniw yn Gadeirydd dros dro.

 

2.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Elis-Thomas a Llyr Gruffydd.  Nid oedd dirprwyon ar eu rhan.

 

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig.

 

(09:30 - 10:30)

4.

Sesiwn friffio gan swyddogion Llywodraeth Cymru - Bil Cynllunio Drafft (Cymru)

         

Rosemary Thomas, Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio

Neil Hemmington, Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio

Sarah Dawson, Gwasanaethau Cyfreithiol

Dion Thomas, Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio

Cofnodion:

4.1 Rhoddodd y swyddogion gyflwyniad ac ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

4.2 Cytunodd y swyddogion i gynnal sesiwn friffio arall gyda'r Pwyllgor.

 

(10:45 - 11:30)

5.

Polisi morol yng Nghymru - Sesiwn ddilynol: Tystiolaeth gan Cyswllt Amgylchedd Cymru

E&S(4)-04-14 papur 1

 

Iwan Ball, WWF/Cadeirydd Gweithgor Morol Cyswllt Amgylchedd Cymru
Gareth Cunningham, RSPB Cymru
Gill Bell, y Gymdeithas Cadwraeth Forol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

5.2 Cytunodd y tystion i ddarparu rhagor o ddata am y difrod a achoswyd i'r amgylchedd morol yn dilyn y stormydd difrifol diweddar.

 

(11:30 - 12:15)

6.

Polisi morol yng Nghymru - Sesiwn ddilynol: Tystiolaeth gan y diwydiant pysgota

E&S(4)-04-14 papur 2

 

Jim Evans, Cymdeithas Pysgotwyr Cymru

Sarah Horsfall, Seafish

James Wilson, Cynhyrchwyr Cregyn Gleision Bangor

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

 

(13:15 - 14:00)

7.

Polisi morol yng Nghymru - Sesiwn ddilynol: Tystiolaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru

E&S(4)-04-14 papur 3

 

Keith Davies, Pennaeth Grŵp Cynllunio Strategol

Dr. Kirsty Lindenbaum, Ymgynghorydd Rheolaeth Adnodd Morol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

7.2 Cytunodd Keith Davies i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar nifer y staff CNC sydd ynghlwm wrth ddatblygu'r broses cynllunio morol cenedlaethol ac eglurhad am y cyfeiriad at 'non recent population' yn adroddiad Erthygl 17 CNC.

 

 

8.

Papurau i’w nodi

Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 23 & 29 Ionawr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor y cofnodion.

 

 

9.

Llythyr gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Ystyriaeth Pwyllgorau o'r Iaith Gymraeg

E&S(4)-04-14 papur 4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.