Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Alun Davidson  029 2089 8639

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Gwyn Price a Julie James yn sgil ei phenodiad yn Ddirprwy Weinidog. Roedd Jeff Cuthbert a Jenny Rathbone yn bresennol fel dirprwyon.

 

(09:15 - 10:00)

2.

Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

E&S(4)-20-14 papur 1

 

Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Matthew Quinn, y Cyfarwyddwr Cyfoeth Naturiol

Prys Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr: Yr Is-adran Ynni, Dŵr a Llifogydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i:

 

·         Ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu nodyn cynhwysfawr ar yr agenda polisi bioamrywiaeth.

·         Ystyried cyhoeddi adroddiad yr archwiliad a wnaed i gamau gweithredu bioamrywiaeth a gynhaliwyd gan adrannau’r Llywodraeth.

·         Ystyried darparu dangosyddion perfformiad allweddol/data gwaelodlin a ddefnyddir i fesur canlyniadau’r Cynllun Adfer Natur.

·         Ysgrifennu at y Pwyllgor gyda gwybodaeth am y pwyntiau a nodwyd gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch nwy siâl / ffracio.

·         Ystyried gwneud datganiad wedi’i ddiweddaru ar safbwynt y Llywodraeth ar nwy siâl / ffracio.

·         Darparu’r siart llif i’r Pwyllgor a ddefnyddir gan y Llywodraeth yn ymwneud â’r prosesau cynllunio mewn cysylltiad â ffracio.

·         Ysgrifennu at y Pwyllgor gyda’r diweddaraf am raglen Ynni’r Fro, gyda’r ffigurau sydd ar gael.

·         Ysgrifennu at y Pwyllgor i roi eglurhad ar eithriad y Goron yn ymwneud â Chyfoeth Naturiol Cymru.

·         Ysgrifennu at y Pwyllgor yn rhoi manylion am y dyddiad y cyhoeddir y Strategaeth Ddŵr, a darparu nodyn ar gynnydd y pum argymhelliad a dderbyniwyd mewn egwyddor.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 a 5

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10:10 - 11:45)

5.

Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Paratoi ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor

Cofnodion:

5.1 Cynhaliodd y Pwyllgor seminar wrth baratoi i ystyried Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

 

(11:45 - 12:30)

6.

Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

E&S(4)-20-14 papur 3

 

Rebecca Evans AC, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Andrew Slade, Cyfarwyddwr, Amaeth, Bwyd a'r Môr

Christianne Glossop, Y Prif Swyddog Milfeddygol

         

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Ymatebodd y Dirprwy Weinidog a swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

6.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i rannu adroddiad Cymorth TB gyda’r Pwyllgor.

 

6.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i egluro safbwynt y Llywodraeth ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) mewn perthynas â’r gofynion Gwyrddu newydd.

 

6.4 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y sector cynnyrch llaeth.

 

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Cynnig gan y Comisiwn Ewropeaidd ar rwydi drifft: Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth a Physgodfeydd i lythyr gan y Cadeirydd ar 24 Mehefin

E&S(4)-20-14 papur 4

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

7.2

Ymchwiliad i Ailgylchu yng Nghymru: Gwybodaeth bellach gan WRAP Cymru

E&S(4)-20-14 papur 5

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.2 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

7.3

Cynnig cydsyniad deddfwriaethol ynghylch y Bil Seilwaith: Ymateb gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon i lythyr gan y Cadeirydd ar 21 Gorffennaf

E&S(4)-20-14 papur 6

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.3 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

7.4

Polisi dŵr yng Nghymru: Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon at y cadeirydd

E&S(4)-20-14 papur 7

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

7.5

Ymchwiliad i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd: Ymateb gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i’r adroddiad a gyhoeddwyd ar 21 Gorffennaf.

E&S(4)-20-14 papur 8

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.5 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

7.6

Ymchwiliad i effeithlonrwydd ynni a thlodi tanwydd yng Nghymru: Rhagor o wybodaeth gan Gyngor ar Bopeth Cymru

E&S(4)-20-14 papur 9

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.6 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

7.7

Ymchwiliad i ddiogelu’r arfordir: Ymateb gan y Gweinidog Tai ac Adfywio i’r llythyr gan y Cadeirydd ar 16 Mehefin

E&S(4)-20-14 papur 10

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.7 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.