Agenda

Lleoliad: Brwsel

Cyswllt: Alun Davidson  029 2089 8639

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymweliad â Brwsel - 9 i 11 Mai 2012

Ers mis Medi 2011, mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi bod yn ystyried goblygiadau cynigion y Comisiwn Ewropeaidd i ddiwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) a’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredinol (PPC) i Gymru.  Fel y sefydliad democrataidd etholedig cenedlaethol i Gymru, mae’n iawn ac yn briodol y dylai’r Cynulliad ymgysylltu’n effeithiol â’r Undeb Ewropeaidd ar faterion o bwys i Gymru.

 

Mae’r Pwyllgor wedi ceisio gwneud hyn drwy:

 

  • ddarparu fforwm cyhoeddus lle gall rhanddeiliaid Cymru ddeall a mynegi eu pryderon am y cynigion deddfwriaethol drafft i ddiwygio’r PAC a’r PPC; a
  • gwneud cyfraniad cadarnhaol yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE, gan ganolbwyntio’n benodol ar gyflwyno ‘gwelliannau’ i’r testun i Senedd Ewrop (siarad ar lefel un ddeddfwrfa a’r llall), sydd, fel y corff etholedig democrataidd ym Mrwsel, mewn difrif, yn cyd-ddeddfu ar ein rhan yn y broses drafod.

 

Er mwyn gwneud hyn, cawsom dystiolaeth gan randdeiliaid o Gymru i lywio ein barn ac rydym wedi ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Senedd Ewrop a’r Comisiwn Ewropeaidd i sicrhau bod safbwynt Cymru ar y diwygiadau arwyddocaol hyn yn cael eu hystyried wrth i’r cynigion gael eu pasio drwy Senedd Ewrop.

 

Fel ail gam, ac i sicrhau bod safbwynt Cymru yn cael ei ystyried, teithiodd y Pwyllgor i Frwsel i roi sylwadau uniongyrchol i’r rheini sydd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Rhwng 9 a 11 Mai 2012, cawsom naw cyfarfod ag ASEau, uwch swyddogion y Comisiwn Ewropeaidd ac eraill.

 

Yn ogystal â mynegi ein safbwynt, gwnaethom hefyd gasglu gwybodaeth ddefnyddiol am yr amserlen ar gyfer ystyried y cynigion, sut y mae’r ystyriaeth yn mynd rhagddi a’r lefel y caiff pryderon rhanddeiliaid o Gymru eu rhannu ag eraill ar lefel Ewropeaidd. Rydym wedi dod â’r wybodaeth hon yn ôl i Gymru a gallwn bellach dargedu’n strategol ymgysylltiad â rhanddeiliaid yn y dyfodol ac â sefydliadau Ewropeaidd dros y chwech i 12 mis nesaf.

 

Roedd yr ymweliad â Brwsel yn rhan bwysig o’r broses hon, ac roedd yn rhoi neges glir am ein hymrwymiad i ymgysylltu’n effeithiol â’r Undeb Ewropeaidd.

 

Mae’r ymweliad hwn yn enghraifft o’r dull o siarad ar lefel un ddeddfwrfa a’r llall, ‘deddfwrfa a deddfwrfa’ â Senedd Ewrop ar faterion y mae Senedd Ewrop yn gyd-ddeddfwr ym Mrwsel ar ddeddfwriaeth yr UE a fydd yn cael effaith ar Gymru. Mae ein perthynas gref ag Aelodau Cymru o Senedd Ewrop, a all weithredu fel ‘cyfrwng’ ym Mrwsel ar gyfer y gwaith hwn, yn bwysig iawn i lwyddiant y dull hwn, ac roeddem yn falch o weld bod yr ASEau yn croesawu’r dull rydym yn ei ddatblygu.

 

Rydym yn ddiolchgar i bawb a wnaeth gyfarfod â ni yn ystod ein hymweliad ac am yr agwedd agored ac onest a welwyd yn y cyfarfodydd hyn. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gydag unigolion a sefydliadau wrth i’r diwygiadau arfaethedig fynd rhagddynt.

 

Mae adroddiad llawn yr ymweliad ynghlwm â'r eitem hon.

Dogfennau ategol: