Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 325KB) Gweld fel HTML (277KB)

 

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jeff Cuthbert. Dirprwyodd Sandy Mewies ar ei ran.  

 

2.

Craffu ar y gyllideb ddrafft

Dogfennau ategol:

(09.30-10.30)

2.1

Craffu ar y Gyllideb Ddrafft - y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Andrew Slade, Cyfarwyddwr, Amaeth, Bwyd a'r Môr

Matthew Quinn, Cyfarwyddwr, Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Neil Hemington, Y Prif Gynllunydd, Dirprwy Gyfarwyddwr

Tony Clark, Pennaeth Cyllid, Group, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

Cofnodion:

2.1.1 Cytunodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ddarparu nodyn ar:

 

·         faint o fuddsoddiad Ewropeaidd a ddefnyddiwyd yng nghynlluniau amddiffynfeydd llifogydd Llywodraeth Cymru;

 

·         nifer y ceisiadau am gyllid o'r gronfa twf gwyrdd sydd wedi dod i law hyd yn hyn;

 

·         rhaglen trin gwastraff gweddilliol Llywodraeth Cymru; a'r

 

·         awdurdod â chyfrifoldeb am ymdrin â phroblemau llifogydd ym Mharc Caedelyn yng Nghaerdydd.

 

(10.30-11.30)

2.2

Craffu ar y Gyllideb Ddrafft - y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a'r Dirprwy Gweinidog Ffermio a Bwyd

Carl Sargeant AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Rebecca Evans AC, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Andrew Slade, Cyfarwyddwr, Amaeth, Bwyd a'r Môr

Dr Christianne Glossop, Cyfarwyddwraig, Swyddfa y Prif Swyddog Milfeddygol

Tony Clark, Pennaeth Cyllid, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

 

Cofnodion:

2.2.1 Datgan buddiannau: Datganodd William Powell fod gan fusnes y mae'n bartner ynddo berthynas fasnachol gyda micro ladd-dy ym Mhowys, sy'n berchen gan W.J. George.

 

2.2.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd i roi nodyn ar:

 

             y niferoedd yn ymuno â phob un o gynlluniau'r Rhaglen Datblygu Gwledig gyfredol; a'r

 

             cyfleoedd am gyllid ar gyfer ardaloedd trefol sy'n bodoli o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig.

 

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfodydd ar 27 Ionawr a 10 Chwefror

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd Aelodau'r Pwyllgor y cynnig.