Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Virginia Hawkins 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyflwyniadau

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. Cyflwynodd yr aelodau eu hunain gan nodi meysydd y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt.

2.

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd – Ffyrdd o weithio

Papur 1 : E&S(4)-01-11

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cyflwynodd y Clerc bapur 1 ar ffyrdd y pwyllgor o weithio.

 

2.2 Cytunodd y pwyllgor i gynnal trafodaeth bellach ar ei ffyrdd o weithio yn y cyfarfod nesaf.

 

2.3 Cytunodd y pwyllgor i wahodd Gregg Jones o swyddfa’r gwasanaeth ymchwil ym Mrwsel i’r cyfarfod nesaf i drafod cyd-destun Ewropeaidd y portffolio.

3.

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd – Trafod materion o fewn y portffolio a chynigion ar gyfer blaenraglen waith y Pwyllgor

Papur 2 : E&S(4)-01-11

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cyflwynodd y gwasanaeth ymchwil bapur 2 ar feysydd allweddol yng nghylch gwaith y pwyllgor.

 

3.2 Cytunodd y pwyllgor i gynnal ymchwiliad i ynni ac y byddai’r gwasanaeth ymchwil yn paratoi papur cwmpasu a chylch gorchwyl drafft erbyn y cyfarfod nesaf.

 

3.3 Cytunodd y pwyllgor i wahodd y Prif Weinidog a Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i un o gyfarfodydd cyntaf y pwyllgor yn nhymor yr hydref.

 

3.4 Gofynnodd y pwyllgor i’r swyddogion baratoi gwybodaeth am faterion hysbys ar ffurf llinell amser ar gyfer y tymor.

 

3.5 Cytunodd y pwyllgor i gynnal cyfarfod ffurfiol ar ddydd Mawrth 19 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru er mwyn cynnal sesiwn graffu gyda Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd.

4.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

4.1 Cynhelir cyfarfod nesaf y pwyllgor am 09.00 ar ddydd Iau 14 Gorffennaf.

Trawsgrifiad