Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Virginia Hawkins 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

2.

Ymchwiliad i Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru - Tystiolaeth gan y Prif Weinidog (09.30 - 10.15)

E&S(4)-04-11 papur 1

·         Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

·         Clive Bates, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dyfodol Cynaliadwy

·         Rhodri Asby, Polisi Ynni

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Prif Weinidog a swyddogion yn ateb cwestiynau ynghylch polisi ynni a chynllunio yng Nghymru gan Aelodau’r Pwyllgor.

3.

Ymchwiliad i Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru - Tystiolaeth gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (10.15 - 11.00)

E&S(4)-04-11 papur 1

·         John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

·         Clive Bates, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dyfodol Cynaliadwy

·         Matthew Quinn, Cyfarwyddwr, Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yn ateb cwestiynau ynghylch polisi ynni a chynllunio yng Nghymru gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth am nifer y ceisiadau a gafwyd ar gyfer prosiectau uwchben ac islaw 50 MW ers datganoli, a’r mathau o brosiectau roedd y ceisiadau hyn yn cyfeirio atynt.

 

4.

Sesiwn graffu gyffredinol gyda Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

E&S(4)-04-11 papur 2

·         John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

·         Clive Bates, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dyfodol Cynaliadwy

·         Matthew Quinn, Cyfarwyddwr, Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yn ateb cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy.

 

5.

Sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin

E&S(4)-04-11 papur 3 – i ddilyn

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig a ganlyn i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin o dan Reol Sefydlog 17.17:

 

Bod y pwyllgor yn penderfynu sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin;

mai cylch gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen hwnnw yw ystyried effaith cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer diwygior Polisi Amaethyddol Cyffredin yng Nghymru, y bydd yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar y blaenoriaethau negodi ac yn dylanwadu ar y drafodaeth ehangach ar y polisi, ac y bydd y pwyllgor yn cael ei ddiddymu heb fod yn hwyrach na diwedd 2012 neu unwaith y bydd y negodiadau ar y cynigion deddfu ar gyfer y polisi wedi’u cwblhau, pa un bynnag a ddaw yn gyntaf.

bod aelodaeth y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn cynnwys Dafydd Elis-Thomas AC, Rebecca Evans AC, Vaughan Gething AC, Llyr Huws Gruffydd AC, William Powell AC ac Antoinette Sandbach AC, gyda Vaughan Gething AC wedi’i ethol yn Gadeirydd.

 

6.

Sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

E&S(4)-04-11 papur 3 – i ddilyn

 

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig a ganlyn i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin o dan Reol Sefydlog 17.17:

 

Bod y pwyllgor yn penderfynu sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin;

mai cylch gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen hwnnw yw ystyried effaith cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer diwygior Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yng Nghymru, y bydd yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar y blaenoriaethau negodi ac yn dylanwadu ar y drafodaeth ehangach ar y polisi, ac y bydd y pwyllgor yn cael ei ddiddymu heb fod yn hwyrach na diwedd 2012 neu unwaith y bydd y negodiadau ar y cynigion deddfu ar gyfer y polisi wedi’u cwblhau, pa un bynnag a ddaw gyntaf.

bod aelodaeth y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn cynnwys Dafydd Elis-Thomas AC, Llyr Huws Gruffydd AC, Julie James AC, William Powell AC, David Rees AC ac Antoinette Sandbach AC, gyda Julie James AC wedi’i hethol yn Gadeirydd.

 

 

7.

Papur i'w nodi: Blaenraglen waith y Pwyllgor - Hydref 2011

E&S(4)-04-11 papur 4

Dogfennau ategol:

Trawsgrifiad