Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Virginia Hawkins 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan William Powell. Bu Kirsty Williams yn dirprwyo.

(09.00 - 10.00)

2.

Cyllideb Ddrafft 2012-13: Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

E&S(4)-06-11 papur 1

Alun Davies AC, Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Rory O'Sullivan, Cyfarwyddwr Materion Gwledig

Brian Pickett, Pennaeth Cyllid, Materion Gwledig, Twristiaeth a Marchnata

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Dirprwy Weinidog a’i swyddogion yn ymateb i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor am gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13.

 

2.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am yr asesiad effaith amgylcheddol a wnaed ar gynigion y gyllideb ddrafft, y cynllun newydd-ddyfodiaid, y strategaeth fwyd a’r adolygiad o weithgareddau gorfodi ar ddeddfwriaeth forol a physgodfeydd.  

(10.00 - 11.30)

3.

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - Tystiolaeth gan y Comisiwn Cynllunio Seilwaith

E&S(4)-06-11 papur 2

          Syr Michael Pitt, Cadeirydd

          Ian Gambles, Cyfarwyddwr Gweithrediadau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r tyst yn ymateb i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor am bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru.

4.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Trawsgrifiad