Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Canolfan y Ffermwyr Ifanc, Sioe Frenhinol Cymru

Cyswllt: Virginia Hawkins 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod, a diolchodd i CFfI Cymru am ganiatáu i’r Pwyllgor ddefnyddio ei gyfleusterau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw a Vaughan Gething.

2.

Sesiwn Graffu gyda'r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Alun Davies AC, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Rory O’Sullivan, Cyfarwyddwr Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Dirprwy Weinidog a’i swyddog i’r cyfarfod. Bu aelodau’r Pwyllgor yn holi’r Dirprwy Weinidog.

 

2.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor yn ystod y toriad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau y mae’n eu cynnal ar oddefgarwch i ddyfeisiau adnabod electronig.

Trawsgrifiad