Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones / Legislation: Bethan Davies
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins; nid oedd dirprwy. |
|
(09.30 - 10.10) |
Ymchwiliad i ystyriaethau cydraddoldeb yng nghyllideb Llywodraeth Cymru - Sesiwn dystiolaeth Sue Cohen, Prif Weithredwr Rhwydwaith Gweithredu Rhieni Sengl ac aelod rheoli o bwyllgor rheoli Grŵp Cyllideb Menywod Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Sue Cohen, aelod
rheoli o bwyllgor rheoli Grŵp
Cyllideb Menywod. Holodd yr Aelodau y tyst.
Cytunodd Sue Cohen anfon linc ar gyfer Strategaeth Kirklees at y Pwyllgor. |
|
10.20 - 10.55 |
Ymchwiliad i ystyriaethau cydraddoldeb yng nghyllideb Llywodraeth Cymru - Sesiwn dystiolaeth CELG(4)- 21-12 –
Papur 1 Adele Baumgardt,
Cydgadeirydd, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru Yr Athro Teresa
Rees, Prifysgol Caerdydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Adele Baumgardt, Cydgadeirydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru a’r Athro Teresa Rees o Brifysgol Caerdydd. Holodd yr Aelodau y tystion. Cytunodd yr Athro Rees i ddarparu papurau ymchwil penodol ar yr enghreifftiau rhyngwladol y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod i’r Pwyllgor. |
|
10.55 - 11.30 |
Ymchwiliad i ystyriaethau cydraddoldeb yng nghyllideb Llywodraeth Cymru - Sesiwn dystiolaeth Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol CELG(4)-21-12 – Papur 2 Kate Bennett, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Jamie Westcombe, Cynghorydd Gwleidyddol Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Kate Bennett a Jamie Westcombe o’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Holodd yr Aelodau y tystion. |
|
11.30 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Cofnodion: Cytunwyd ar y cynnig. |
|
(11.30 - 11.45) |
Ymchwiliad i bolisi Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol - trafod y prif faterion Cofnodion: Cytunodd yr Aelodau y byddai hyn yn cael ei ystyried yng nghyfarfod yr wythnos nesaf. |
|
(11.45 - 11.55) |
Digwyddiad ymgysylltu - gwerthusiad Cofnodion: Cytunodd yr Aelodau bod y digwyddiad yn llwyddiant ac yn gyfle gwych i ymgysylltu â rhanddeiliaid. Cytunwyd y dylid cynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol. |
|
(11.55 - 12.15) |
Memorandwm Cysyniad Deddfwriaethol - Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl 2012-2013 Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ei agwedd at y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl 2012-2013. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion: Nodwyd y papurau. |
||
CELG(4)-21-12 - Papur 3 - Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru Dogfennau ategol: |
||
CELG(4)-21-12 - Papur 4 - Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Dogfennau ategol: |
||
CELG(4)-21-12 - Papur 5 - Gwybodaeth gan Achub y Plant Dogfennau ategol: |
||
CELG(4)-21-12 - Papur 6 - Gwybodaeth gan Chwarae Teg Dogfennau ategol: |
||
Trawsgrifiad |