Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones / Legislation: Bethan Davies
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
09.30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhodri Glyn Thomas. Nid oedd neb yn dirprwyo ar ei ran. |
|
09.30 - 11.00 |
Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013/2014 Llywodraeth Cymru CELG(4)-22-12 – Papur 1 Carl Sargeant AC, Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Kate Cassidy, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Chyfiawnder Cymdeithasol Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion. Bu’r Aelodau’n holi’r Gweinidog. Cytunodd y Gweinidog i wneud yr hyn a ganlyn: Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd o ran y broses atebolrwydd yn seiliedig ar ganlyniadau; Darparu diffiniad o ddatblygu cynaliadwy a gofyn i’r Gweinidog Amgylchedd a Chynaliadwyedd i ysgrifennu at y Pwyllgor am y mater hwn; Darparu gwybodaeth am asesiad effaith rheoleiddiol Biliau o safbwynt ariannol ac a oes dulliau ar waith i olrhain y broses hon; Os yn bosibl, darparu ffigurau ynghylch y cynllun a gynigiwyd i ddisodli budd-dal y dreth gyngor ym mis Ebrill 2013; Darparu gwybodaeth am y partneriaethau Cymunedau’n Gyntaf sydd wedi gadael y cynllun; Darparu gwybodaeth bellach am yr arian ychwanegol sydd ar gael i’r sector cynghori; a Darparu manylion y model a ddefnyddir i ariannu’r Gwasanaeth Tân ac Achub ac yn arbennig sut y mae’n cymharu â’r ffordd y caiff awdurdodau lleol a’r heddlu eu hariannu. |
|
11.00 - 12.00 |
Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013/2014 Llywodraeth
Cymru CELG(4)-22-12 –
Papur 2 and Papur 2A Jane Hutt AC, Y
Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Claire McDonald,
Pennaeth yr Uned Cydraddoldeb Dogfennau ategol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion. Bu’r Aelodau’n holi’r Gweinidog. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r hyn a ganlyn: Rhestr o’r sefydliadau allanol a ariannwyd dros y cyfnod o dair blynedd; Y templed a ddefnyddiwyd ar gyfer y canllawiau ar Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb; a Y dyraniadau cyllidebol i sefydliadau sy’n cefnogi’r gwaith o ddarparu’r Cynllun Gweithredu ar y Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid. |
|
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 5 a 6 Cofnodion: Cytunwyd ar y cynnig. |
|
(12.00 - 12.15) |
Ymchwiliad i Bolisi Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol - ystyried y dull gweithredu Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog am y cynnig arfaethedig i uno Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. |
|
Trawsgrifiad Trawsgrifiad o’r cyfarfod. |