Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhodri Glyn Thomas. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.

2.

Aflonyddu ar sail anabledd - casglu tystiolaeth

 

Anabledd Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru  (09.30 – 10.10)

CELG(4)-03-11 (p1)

CELG(4)-03-11 (p2)

·         Rhian Davies, Prif Weithredwr, Anabledd Cymru

·         Miranda French, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Anabledd Cymru

·         Jim Crowe, Cyfarwyddwr, Anabledd Dysgu Cymru

·         Karen Warner, Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth, Anabledd Dysgu Cymru

 

Egwyl (10.10 – 10.20)

 

Cymru Ddiogelach (10.20 – 11.00)

CELG(4)-03-11 (p3)

·         Mark Williams, Cydgysylltydd er Atal Troseddau Casineb

·         Bernie Bowen-Thomson, Dirprwy Brif Weithredwr

 

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (11.00 -11.40)

CELG(4)-03-11 (p4)

·         Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Materion Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

·         David Morgan, Swyddog Polisi (Cydraddoldeb)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion canlynol: Rhian Davies a Miranda French o Anabledd Cymru; Jim Crowe a Karen Warner o Anabledd Dysgu Cymru; Mark Williams a Bernie Bowen-Thomson o Cymru Ddiogelach; a Naomi Alleyne a David Morgan o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

 

2.2 Gwnaeth y tystion gyflwyniadau cyn ateb cwestiynau gan Aelodau.

 

2.3 Bydd CLlLC yn darparu nodyn am y protocol ar gyfer rhannu gwybodaeth ynghylch oedolion sy’n agored i niwed.

 

2.4 Bydd CLlLC yn darparu nodyn am y gwaith sy’n mynd rhagddo mewn ysgolion ynghylch aflonyddu ar sail anabledd.

 

2.5 Cytunodd cynghorydd cyfreithiol y Pwyllgor i ddarparu nodyn am ddiogelu data.

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

4.

Penderfyniad i sefydlu Grwp Gorchwyl a Gorffen i ystyried y rhagolygon ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru (11.40 - 11.50)

Cofnodion:

 4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y penderfyniad canlynol, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 17.17:

 

Bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 17.17, er mwyn trafod rhagolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru.

 

Aelodau’r grŵp gorchwyl a gorffen fydd: Ken Skates; Janet Finch-Saunders; Bethan Jenkins a Peter Black.

 

Ken Skates fydd Cadeirydd y grŵp gorchwyl a gorffen.

 

Cylch gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen fydd trafod y rhagolygon ar gyfer gwahanol lwyfannau'r cyfryngau yng Nghymru ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Cymunedau a Llywodraeth Leol, drwy ymchwilio i: 

Gyflwr presennol y cyfryngau yng Nghymru a’r effaith y mae technoleg newydd a datblygiadau eraill yn ei chael ar hyn, yng nghyd-destun pryderon parhaus ynghylch dyfodol y cyfryngau darlledu a phrint yng Nghymru;

Beth ddylai’r blaenoriaethau fod o safbwynt Cymru wrth i Lywodraeth y DU gyflwyno cynigion ar gyfer ei Bil Cyfathrebu;

Y cyfleoedd i adeiladu modelau busnes newydd ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru; a 

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi argymhellion adroddiad Hargreaves ar waith a pha gamau eraill y gellid eu cymryd i gryfhau’r cyfryngau yng Nghymru o ran cynnwys a lluosogrwydd y ddarpariaeth.   

Bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn dod i ben ar 31 Ionawr 2012, neu pan fydd wedi adrodd yn ôl, pa un bynnag a ddaw gyntaf.”

 

4.3 Diolchodd Cadeirydd y grŵp gorchwyl a gorffen i Bethan Jenkins, a gyflwynodd y cais gwreiddiol i sefydlu’r grŵp, ac i’w staff, a fu’n cynorthwyo’r tîm clercio cyn ei sefydlu.

 

5.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y flaenraglen waith, a chytunodd mai tai cymdeithasol fyddai testun yr ymchwiliad nesaf. Bydd cylch gorchwyl drafft yn cael ei anfon at yr Aelodau i’w drafod yn y cyfarfod nesaf. 

 

6.

Papurau i'w nodi

Adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol – Pa mor deg yw Cymru?

CELG(4)-03-11 (p5)

 

Race Equality First - Adroddiad o Ddigwyddiad ar y System Cyfiawnder Troseddol

CELG(4)-03-11 (p6)

 

Race Equality First – Adroddiad o Ddigwyddiad ar Drosedd Casineb a Gwaith Aml-asiantaethol (MARAC)

CELG(4)-03-11 (p7)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

Trawsgrifiad